

30 Awst 2019
10.00 – 14.00
Yr Adeilad Gwyddor Data, Singleton Campws, Prifysgol Abertawe
Yn rhan o’n hymrwymiad parhaus i gyflwyno’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data. Bydd y digwyddiad arddangos yn cynnwys cyflwyniadau byr ar brosiectau y mae’r interniaid wedi bod yn gweithio arnynt dros yr haf. Bydd panel beirniadu yn cloi’r digwyddiad drwy ddyfarnu gwobrau am y cyflwyniadau, yn ogystal â pherfformiad a chyflawniadau yn ystod y rhaglen lleoliad gwaith.
Bydd y rhaglen interniaeth yn caniatáu i ni gyflwyno’r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data i’r amrywiaeth o gyfleoedd sydd ar gael. Mae’r interniaid yn cael profiad yn y byd go iawn, mynediad at gofnodion gofal iechyd dienw yn ogystal â chymryd rhan weithredol mewn canolfan a grŵp ymchwil.
Mae’n hanfodol eich bod yn cadw lle. Cysylltwch â Ashley ar: a.akbari@swansea.ac.uk