

Mae Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) a phlatfform isadeiledd ei dechnoleg, sef SeRP (Platfform eYmchwil Diogel), yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn bartner i Labordy Data wedi’i Rwydweithio Cymru (NDL) sy’n galluogi mynediad at ddata a defnydd diogel ohono er mwyn ateb cwestiynau pwysig a ofynnwyd gan y rhwydwaith a’i bartneriaid.
Wedi’i hariannu gan y Sefydliad Iechyd, mae’r Labordai Data wedi’i Rwydweithio yn rhwydwaith cydweithredol o ddadansoddwyr data yn y DU sy’n gweithio ar y cyd ar heriau a rennir er mwyn gwella iechyd a gofal cymdeithasol. Mae rhaglen y Labordai Data wedi’i Rwydweithio yn helpu i feithrin cysylltiadau cydweithredol o ran data rheolaidd, a bydd yn darparu deallusrwydd i arweinwyr systemau iechyd cenedlaethol a lleol gan eu data ac yn creu cymuned ragweithiol o ddadansoddwyr data.
Wedi’u lansio ym mis Hydref 2020, mae 5 tîm rhanbarthol sy’n rhan o’r Labordy Data wedi’i Rwydweithio ledled y DU, ynghyd â llawer o bartneriaid cydweithredol:
- Iechyd Cyhoeddus Cymru, Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS), Prifysgol Abertawe (Banc Data SAIL a SeRP) a Gofal Cymdeithasol Cymru.
- Canolfan Gwyddor Data Iechyd Aberdeen (ACHDS) sy’n cynnwys NHS Grampian a Phrifysgol Aberdeen.
- Partneriaid Iechyd Coleg Imperial (ICHP), Institute of Global Health Innovation (IGHI), Coleg Imperial, Llundain (ICL), a’r Grwpiau Comisiynu Clinigol (CCGs) yng ngogledd-orllewin Llundain.
- Grŵp Comisiynu Clinigol Lerpwl, Healthy Wirral Partnership a Cyngor Ar Bopeth.
- Grŵp Comisiynu Clinigol Leeds a Chyngor Dinas Leeds.
Mae’r Labordy Data wedi’i Rwydweithio newydd ryddhau ei adroddiad diweddaraf sy’n manylu ar ddarn allweddol o waith a gynhaliwyd yn ystod y 6 mis cyntaf gan ddadansoddwyr Labordy Data wedi’i Rwydweithio Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan ddefnyddio SeRP a Banc Data SAIL. Wrth geisio mynd i’r afael â’r heriau mwyaf o ran iechyd, mae timau’r Labordy Data wedi’i Rwydweithio wedi gweithio i nodi’r rhai sy’n fregus dros ben yn glinigol o ran COVID-19 a ffactorau sy’n pennu’r cymorth y mae ei angen arnynt. Ffactorau megis amddifadedd, cyflogaeth, lleoliad ac ethnigrwydd.
Meddai Dr Alisha Davies, Arweinydd Labordy Data wedi’i Rwydweithio Cymru a Phennaeth Ymchwil a Gwerthuso,
“Mae’r adroddiad byr cyntaf hwn yn rhoi deallusrwydd gwerthfawr o ran amrywiaeth y boblogaeth sy’n gwarchod yng Nghymru a ledled y wlad, gan adlewyrchu eu hanghenion iechyd a gofal cymhleth. Mae rhagor o ddadansoddiadau manwl ar y gweill er mwyn helpu i sicrhau y bydd cymorth iechyd a gofal yn y dyfodol yn diwallu anghenion y grŵp hwn sy’n fregus dros ben yn glinigol.”
Meddai Ashley Akbari, Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe:
“Mae’r Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy (TRE) sydd ar gael inni yng Nghymru yn galluogi ein sefydliad i gyfrannu at wahanol agweddau ar agenda’r rhaglen ac arwain arnynt, a chyda ein hystod o arbenigedd amlddisgyblaethol a’r profiad ar draws ein partneriaid yng Nghymru, rydym yn gallu defnyddio’r isadeiledd sy’n arwain y byd sydd ar gael inni ei ddefnyddio er mwyn archwilio data cyfoethog SAIL ynghylch y boblogaeth a nodi canfyddiadau allweddol a chanlyniadau a fydd yn effeithio ar bobl, gwasanaethau a pholisïau.”
“Rydym yn ffodus i allu defnyddio tîm o weithwyr caffael, darparu a llywodraethu data ymroddedig yn nhimau SAIL a SeRP, sy’n sicrhau bod ffynonellau data allweddol ar gael ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd wrth iddynt weithio gyda’n partneriaid yn NWIS, er mwyn galluogi ein hymchwil a’n deallusrwydd drwy brosesau a dulliau rheoli SAIL sy’n drwyadl ac yn sefydlog, sy’n cynnal a chadw defnydd diogel o ddata dienw ar raddfa’r boblogaeth.”
Darllenwch adroddiad llawn y Labordy Data wedi’i Rwydweithio yma >