

Heddiw, mae corff arbenigol newydd ac annibynnol, Cyngor Trawma’r DU (UKTC), yn lansio apêl am ymateb brwdfrydig ac estynedig i drawma mewn plentyndod. Mae’r lansiad yn amserol iawn, yng ngoleuni’r dystiolaeth gynyddol o effeithiau pandemig y Coronafeirws a’r cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl plant.
Mae’r UKTC yn dod â 22 o arbenigwyr blaenllaw mewn ymchwil, polisi ac ymarfer o’r pedair cenedl yn y DU ynghyd, gan ei wneud yn grŵp amlddisgyblaethol unigryw a fydd yn arwain newid cadarnhaol yn y gofal a’r gefnogaeth a roddir i blant a phobl ifanc sydd wedi wynebu mathau gwahanol o ddigwyddiad trawmatig – gan gynnwys digwyddiadau unigol, yn ogystal â cham-drin ac esgeulustod. Bydd yn grymuso gweithwyr proffesiynol a chymunedau lleol i gefnogi plant a phobl ifanc. Caiff ei gynnal a’i gefnogi gan Ganolfan Anna Freud .
Yn ‘Beyond the pandemic: Strategic priorities for responding to childhood trauma’, a gyhoeddir heddiw, mae’r UKTC yn nodi tair ffordd y mae’r pandemig yn cael effaith ar brofiad trawma mewn plentyndod:
Mae’n cynyddu’r risg y bydd rhagor o blant yn agored i drawma, gan gynnwys drwy brofedigaeth sydyn [i] neu’n agored i drais yn y cartref; [ii]
Mae’n cynyddu’r tebygolrwydd y bydd y rhai hynny â phrofiad blaenorol o drawma (er enghraifft, oherwydd cam-drin) yn wynebu anawsterau sylweddol; cc
Mae’n amharu ar allu oedolion a systemau proffesiynol i nodi plant sy’n cael trafferthion a lleihau effaith trawma, gan gynnwys problemau iechyd meddwl.
Mae’r UKTC yn esbonio y gall y canlyniadau ar gyfer y rhai yr effeithir arnynt fod yn ddwys a gallant bara oes, oni bai fod ymatebion clir ledled y DU sy’n ceisio cefnogi plant a phobl ifanc.
Meddai’r Athro Eamon McCrory, Cyd-gyfarwyddwr yr UKTC:
“Ar draws y DU, mae llawer iawn o arbenigedd am y gefnogaeth y mae ei hangen ar blant yn dilyn profi trawma, ond nid ydym yn gwneud y defnydd gorau ohono bob amser. Bydd Cyngor Trawma’r DU yn defnyddio’r arbenigedd hwn ac yn helpu eraill i ddysgu ohono. Efallai nad ydym erioed wedi gweld angen mor ddybryd am gydweithio ar draws cymunedau, gweithwyr proffesiynol a gwasanaethau ar lefelau cenedlaethol a lleol .
Ychwanegodd David Trickey, Cyd-gyfarwyddwyr yr UKTC:
“Does neb wedi dianc rhag effaith pandemig y Coronafeirws a’r cyfyngiadau symud, ond fe effeithiwyd ar rai yn fwy nag eraill. I lawer o blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi byw drwy drawma yn y gorffennol, mae’r pandemig yn cynrychioli cyfres o ddigwyddiadau a all fod yn drawmatig. Heb os, gallai hyn gael canlyniadau pellgyrhaeddol ar gyfer eu bywydau oni bai fod cymorth priodol ar sail tystiolaeth ar gael. Rydym yn gweld angen cynyddol am wasanaethau, ac mae angen egni newydd i gefnogi plant os ydym i liniaru effaith y pandemig yn llwyddiannus.
Mae’r UKTC yn gwneud pedwar argymhelliad i ymateb i’r pandemig, gan eu cyfeirio at sylw adrannau’r llywodraeth, cyrff proffesiynol a’r rhai sy’n datblygu polisi ac ymarfer. Dyma’r argymhellion:
Blaenoriaethu ymateb i drawma mewn strategaethau cenedlaethol a lleol;
- Buddsoddi mewn darpariaeth drawma arbenigol i blant a phobl ifanc;
- Galluogi’r holl weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc i feithrin y sgiliau a’r gallu i gefnogi plant sydd wedi profi trawma;
- Symud modelau cymorth tuag at atal, drwy ymchwil, arloesi clinigol a hyfforddiant
Dilynir pob argymhelliad drwy gymryd camau awgrymedig i gyflawni hyn, gan canolbwyntio’n aml ar yr angen i gynyddu cydweithio a defnyddio arbenigedd presennol. Gydag enghreifftiau o arbenigedd arbenigol a gwaith sy’n torri tir newydd ar draws y pedair cenedl yn dod i’r amlwg, bydd yr UKTC yn darparu platfform i hyn gael ei ddefnyddio’n fwy helaeth nag a wneir ar hyn o bryd.
Ar wahân i’r pandemig presennol, awgryma ymchwil fod un o bob tri pherson ifanc wedi wynebu digwyddiadau trawmatig erbyn iddynt gyrraedd 18 oed yng Nghymru a Lloegr,[iii] a bod oddeutu traean o’r holl broblemau iechyd meddwl yn gysylltiedig â bod yn agored i drawma ac adfyd yn ystod plentyndod.[iv] Gall profi neu fod yn dyst i ddigwyddiadau trawmatig yn ystod plentyndod gael canlyniadau arbennig o ddinistriol. Maen nhw’n gysylltiedig ag addasiadau i strwythur a gweithrediad yr ymennydd, ac maent yn cael effaith ar ddatblygiad gwybyddol, emosiynol a chymdeithasol plentyn neu berson ifanc. [v] [vi] [vii] Mae trawma mewn plentyndod yn gysylltiedig â risg uwch o ddatblygu problemau iechyd meddwl, anawsterau mewn perthnasoedd personol a chymdeithasol, yn ogystal â risg uwch o brofiadau llawn straen newydd, gan gynnwys cam-drin mynych.
Meddai’r Athro Ann John, aelod o Gyngor Trawma’r DU yng Nghymru:
“Rydym yn llawer mwy ymwybodol o effaith profiadau trawmatig ar ddatblygiad ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Does dim dwywaith ei bod hi’n hanfodol ein bod yn dysgu sut i atal a lliniaru trawma lle gallwn a chefnogi’r rhai sy’n ei brofi drwy ddefnyddio ymagweddau sy’n canolbwyntio ar y plentyn sy’n gynhwysol ac yn meithrin cyfranogiad. Ond fel rhan o hynny, rhaid i ni ddefnyddio gwybodaeth a data i roi’r craffter i ni weithredu – trosi data ar drawma plentyndod ac iechyd meddwl, megis gwaith gan ein prosiect MRC Pathfinder, i waith Cyngor Trawma’r DU yw’r ffordd y bydd pethau’n newid.”
[i] Burrell & Selman (2020) How do Funeral Practices Impact Bereaved Relatives’ Mental Health, Grief and Bereavement? //://journals.sagepub.com/doi/full/10.1177/0030222820941296
[ii] NSPCC (2020) Calls about domestic abuse highest on record following lockdown increase //://www.nspcc.org.uk/about-us/news-opinion/2020/Calls-about-domestic-abuse-highest-on-record-following-lockdown-increase/
[iii] Stephanie J Lewis, Louise Arseneault, Avshalom Caspi, Helen L Fisher, Timothy Matthews, Terrie E Moffitt, Candice L Odgers, Daniel Stahl, Jia Ying Teng, Andrea Danese. The epidemiology of trauma and post-traumatic stress disorder in a representative cohort of young people in England and Wales. Lancet Psychiatry 2019; 6: 247–56.
[iv] Kessler et al. (2010) Childhood adversities and adult psychopathology in the WHO World Mental Health Surveys //://pubmed.ncbi.nlm.nih.gov/21037215/
[v] Gilbert, R., Widom, C. S., Browne, K., Fergusson, D., Webb, E., & Janson, S. (2009). Burden and consequences of child maltreatment in high-income countries. The Lancet, 373, 68–81. doi:10.1016/ S0140-6736(08)61706-7
[vi] McCrory, E. J., Gerin, M. I., & Viding, E. (2017). Annual research review: childhood maltreatment, latent vulnerability and the shift to preventative psychiatry–the contribution of functional brain imaging. Journal of child psychology and psychiatry, 58(4), 338-357
[vii] Mezzacappa E, Kindlon D, Earls F. (2001). Child abuse and performance task assessments of executive functions in boys. Journal of Child Psychology and Psychiatry. 42(8), 1041- 1048.
[viii] Danese, A., & McCrory, E. (2015). Child maltreatment. Rutter’s Child and Adolescent Psychiatry, 364-375.
[ix] Widom, C.S., Czaja, S.J., & Dutton, M.A. (2008). Childhood victimization and lifetime revictimization. Child Abuse and Neglect, 32, 785–796.
[x] Widom, C.S., Czaja, S., & Dutton, M.A. (2014). Child abuse and neglect and intimate partner violence victimization and perpetration: A prospective investigation. Child Abuse and Neglect, 38, 650–663.
[xi] Gerin, M. I., Viding, E., Pingault, J. B., Puetz, V. B., Knodt, A. R., Radtke, S. R., … & McCrory, E. J. (2019). Heightened amygdala reactivity and increased stress generation predict internalizing symptoms in adults following childhood maltreatment. Journal of child psychology and psychiatry, 60(7), 752-761.