

Mae Rhwydwaith SafePod ar fin bod y gwasanaeth cyntaf yn y byd i ddarparu rhwydwaith ledled y wlad o fannau diogel wedi’u safoni (a adnabyddir fel SafePods) er mwyn galluogi ymchwilwyr cymeradwy ledled y Deyrnas Unedig i gael mynediad diogel at data er mwyn deall ein cymdeithas a’n heconomi yn well.
Mae Abertawe bellach wedi dod yn un o’r lleoedd cyntaf yn y DU i dderbyn SafePod, sydd ym Manc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.
Bydd mynediad diogel ar gael o’r SafePods at gronfeydd data helaeth gan y llywodraeth, yn ogystal â setiau data astudio a setiau data gan arolygon. Bydd hyn yn cynnwys setiau data cysylltiedig newydd a grëwyd gan brosiectau Ymchwil Data Gweinyddol y DU (ADR UK), megis y rhaglen arloesol Data First yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, a’r rhan fwyaf o’r setiau data a gedwir gan Wasanaeth Ymchwil Ddiogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Gwasanaeth Data’r Deyrnas Unedig a Banc Data SAIL.
Ystafell fach a wnaed ymlaen llaw yw SafePod, sy’n darparu’r diogelwch a’r rheolau angenrheidiol i alluogi ymchwilydd i gael mynediad at ddata sy’n gofyn am fynediad diogel, a gweithio arno. Yn y rhan fwyaf o achosion, nid oes angen cadw dim data mewn SafePod, ac yn lle hynny darperir mynediad drwy gysylltiad diogel o bell i weinydd y sefydliad sy’n cadw’r set ddata. Hefyd, mae polisïau a gweithdrefnau ar waith i reoli a defnyddio SafePod.
Bydd SafePods ar waith mewn prifysgolion yn bennaf, gan gael gwared â’r teithio, cost ac amser sy’n rhwystro ymchwilwyr rhag mynd i’r nifer fach o leoliadau diogel pwrpasol yn y Deyrnas Unedig. Gall ymchwilwyr archebu SafePod drwy wefan newydd Rhwydwaith SafePod, a bydd ymchwil sy’n hanfodol i’r gymdeithas a’r economi yn flaenoriaeth i gael mynediad, yn ôl yr angen.
Mae diogelwch y data a ddefnyddir ar gyfer ymchwil yn hanfodol, oherwydd bod llawer o’r setiau data dan sylw yn seiliedig ar gofnodion gweinyddol miliynau o bobl ledled y DU. Mae rheolau llym eisoes ar waith i’w defnyddio ar gyfer ymchwil, a chaiff y setiau data eu gwneud yn ddienw neu’n anhysbys cyn y gellir eu defnyddio. Mae SafePods yn cadw’r diogelwch ffisegol angenrheidiol er mwyn defnyddio’r setiau data hyn at ddiben ymchwil, ac maent yn galluogi ymchwilwyr i ddarparu craffter gwerthfawr ynghylch sut mae ein cymdeithas a’n heconomi’n gweithredu, heb gyfaddawdu preifatrwydd unigolion.
Mae sefydliadau eraill sydd wedi derbyn SafePod yn cynnwys Prifysgolion Caerfaddon, Bryste, Canol Sir Gaerhirfryn, Caerwysg, Glasgow Caledonian, Lerpwl, Ysgol Economeg a Gwyddor Wleidyddol Llundain, Manceinion, Nottingham, Rhydychen, Ulster, Caerefrog a’r Archifau Cenedlaethol. Mae cyfanswm o 25 SafePod ar y gweill, a disgwylir y bydd yr holl waith gosod wedi’i gwblhau erbyn 2022.
Ariennir Rhwydwaith SafePod drwy’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol ac fe’i cynhelir gan Ganolfan Ymchwil Data Gweinyddol yr Alban fel rhan o raglen Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig.
Dylai prifysgolion a sefydliadau eraill sydd â diddordeb mewn bod yn gartref i SafePod, ac ymchwilwyr sydd â diddordeb mewn cael mynediad atynt, gysylltu â Rhwydwaith SafePod drwy ffonio 01334 463901 neu e-bostio safepodnetwork@st-andrews.ac.uk. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn www.safepodnetwork.ac.uk.
Dywed yr Athro David Ford, Cyd-gyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol Cymru a Chyd-sefydlwr Banc Data SAIL: “Mae’n bleser gan Fanc Data SAIL gael ei gydnabod fel aelod o Rwydwaith SafePod. Egwyddor SafePod sef mynediad diogel at ddata heb gyfyngiadau daearyddol, yw’r sylfaen y mae Banc Data SAIL yn seiliedig arni. Ers dros ddegawd, mae SAIL wedi cefnogi defnydd technoleg arloesol o bell er mwyn galluogi ymchwilwyr cymeradwy, achrededig i gael mynediad diogel at ddata dienw ar gyfer ymchwil. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda lleoliadau SafePod eraill ledled y Deyrnas Unedig wrth inni gefnogi ymchwilwyr achrededig sy’n gweithio ar ymchwil er budd y cyhoedd.”
Meddai Dr Emma Gordon, Cyfarwyddwr Ymchwil Data Gweinyddol y DU: “Mae gwneud Rhwydwaith SafePod yn rhan integredig o raglen Ymchwil Data Gweinyddol y DU yn hanfodol i’w lwyddiant hirdymor oherwydd y bydd yn rhoi mynediad cyfartal i ymchwilwyr arbenigol at y data cyfoeth sydd gan y DU o’r sector cyhoeddus, a chyfle cyfartal i greu craffter sy’n gallu llywio polisïau cyhoeddus. Rwyf yn falch iawn o’r cynnydd a wnaed wrth osod y SafePods hyd yn hyn, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld pa wybodaeth bwysig newydd y gall ymchwilwyr ledled y DU ei datgelu o ganlyniad.”
Meddai’r Athro Chris Dibben, Cyfarwyddwr Rhwydwaith SafePod: “Tan yn ddiweddar, nid oedd modd i ymchwilwyr mewn llawer o leoedd yn y DU gael mynediad at setiau data yn ddiogel ac yn hwylus. Yn fwy na thebyg, roedd hyn yn golygu na fyddai ymchwil bwysig er budd y cyhoedd yn cael ei chynnal. Bellach, oherwydd bod SafePods yn cael eu gosod ledled y DU, ni ddylai unrhyw ymchwilydd fod yn bell o fan mynediad – ac mae hyn yn trawsnewid tirwedd ymchwil y DU.”
Meddai Debra Hiom, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gwasanaethau Llyfrgell ym Mhrifysgol Bryste: “Mae’n bleser mawr gennym fod yn gartref i un o’r SafePods cyntaf ym Mhrifysgol Bryste.Mae cael mynediad at wasanaethau rhithwir yn bwysicach byth yn yr amgylchiadau presennol ac mae gennym nifer o ymchwilwyr sy’n awyddus i ddefnyddio’r cyfleuster newydd.”
Meddai’r Athro Matthew Woollard, Cyfarwyddwr, Gwasanaeth Data’r Deyrnas Unedig: “Bydd y data a reolir rydym yn darparu mynediad ato drwy Labordy Diogel yn fwy hygyrch bellach i ymchwilwyr achrededig ledled y DU. Nid oes ffordd well o ddathlu pen-blwydd Labordy Diogel Gwasanaeth Data’r DU yn 10 oed, nag estyn ei gyrraedd ledled y DU er mwyn galluogi mwy o ymchwil y gallai’r gymdeithas elwa ohoni.“
Meddai Pete Stokes, Cyfarwyddwr y Rhaglen Data Integredig yn y Swyddfa Ystadegau Gwladol: “Bydd y rhwydwaith SafePods yn darparu ffordd ddiogel a chyfleus i ddadansoddwyr gael mynediad at ystod eang o ddata sy’n cael ei gadw yng Ngwasanaeth Ymchwil Diogel y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac mewn mannau eraill, a fydd yn cynyddu ystod a maint yr ymchwil werthfawr a gynhelir, gan ddarparu tystiolaeth well ar gyfer gwneud penderfyniadau a darparu buddion sylweddol i’r cyhoedd.”