

Blog gwadd gan Sarah Rees, Uwch-wyddonydd Data, Gwasanaethau Dadansoddi SAIL
Mae data Cofnodion Iechyd Electronig (EHR) ar gael ar gyfer ymchwil ym mhob un o wledydd y DU ac mae astudiaethau ar draws gwledydd yn dod yn fwy cyffredin. Mae holl EHR cleifion mewnol ysbytai y DU yn seiliedig ar gyfnodau; cyfnod parhaol o amser a dreuliwyd o dan ofal un arbenigedd clinigol mewn un ysbyty. Er hyn, nid yw dadansoddiad yn seiliedig ar gyfnodau ddim wir yn dangos taith lawn y claf; er enghraifft pan gaiff rhywun ei dderbyn i’r ysbyty ac wedyn ei drosglwyddo i ysbyty arall, rydym yn dymuno dangos ei gyfnod llawn yn y ddau ysbyty. Os edrychwn ar y cyfnodau ar wahân, byddwn yn tanamcangyfrif yr amser cyfartalog y maen ei dreulio yn yr ysbyty ac yn goramcangyfrif sawl gwaith y cafodd ei dderbyn i ysbyty.

Ar draws y DU ceir nifer o ymagweddau presennol o ran cydgrynhoi cyfnodau i amrywiolion cyfnod fesul person, ond does dim un dull safonol ar draws y DU o wneud hyn. Mae’r ymagweddau hyn yn defnyddio cymysgedd o gysylltiad amserol (megis cyfnod sy’n dechrau diwrnod neu ddau ar ôl i gyfnod arall orffen) a chodau gweinyddol sy’n dangos gofal yn cael ei drosglwyddo. Er hyn, gwyddom nad yw codio trosglwyddiadau bob tro yn gyflawn, ac felly os ydym yn dibynnu ar y rhain ni fyddwn bob tro yn cysylltu cyfnodau sydd wir yn gysylltiedig. Gwyddom hefyd er na ddylai cyfnodau gorgyffwrdd, mae hyn weithiau yn digwydd, sydd hefyd yn gallu effeithio ar y ffordd rydym yn eu cysylltu.
Ein hastudiaeth
Daeth y prosiect hwn i fod fel rhan o adolygiad a gomisiynwyd gan SAIL o Ymchwiliad Cyfrinachol Cenedlaethol i Ganlyniadau a Marwolaethau Cleifion (NCEPOD), a ddefnyddiodd data arferol ar draws y DU i edrych ar dostrwydd meddyliol a hunan-niwed mewn plant a phobl ifanc. Fe’i cwblhawyd yn ystod datblygiad Platfform Data Iechyd Meddwl Pobl Ifanc (ADP), adnodd arloesol sy’n cefnogi ymchwil er mwyn gwella iechyd meddwl plant a phobl ifanc. Un o brif amcanion yr ADP yw gwneud ymchwil yn haws ac yn fwy effeithiol trwy greu a rhannu setiau data sy’n barod ar gyfer defnydd ymchwil, yng Nghymru ac yn fwy eang ar draws y DU a thu hwnt. Rhan o hwn yw harmoneiddio setiau data er mwyn eu gwneud mor gymaradwy â phosib.
Gwnaeth ein hastudiaeth ystyried effeithiau dulliau gwahanol o gysylltu cyfnodau, gan edrych ar effeithiau codio trosglwyddiadau a chysylltiadau amserol rhwng cyfnodau (gan gynnwys sut mae trin cyfnodau sy’n gorgyffwrdd), er mwyn canfod y ffordd oedd yn gweithio orau ar gyfer ein hastudiaeth, ac er mwyn dylanwadu ar ymchwil yn y dyfodol.
Canlyniadau
Roedd gan tua 69% o ‘dderbyniadau a drosglwyddwyd i mewn’ gôd ‘rhyddhau trosglwyddo allan’ blaenorol o fewn un dydd iddo. Roedd hyn yn cynyddu i 78% os oeddem yn edrych am gysylltiad amserol. Roedd yr effaith yn fwy ar gyfer derbyniadau seiciatrig, gyda dim ond 49% o drosglwyddiadau i mewn yn dilyn côd trosglwyddo allan, a oedd yn cynyddu i 56% gyda chysylltiad amserol. Er bod nifer y cyfnodau sy’n gorgyffwrdd yn fach ar y cyfan (0.2%), effeithiodd ar ganran uwch o arbenigeddau seiciatrig (4.0%).
Canfuwyd bod codio trosglwyddiadau yn cael effaith uwch ar gysylltu cyfnodau na chyfnodau’n gorgyffwrdd. Roedd y dull mwyaf dylanwadol ar gyfer grwpio dim ond yn gofyn am gysylltiad amserol (cyfnodau oedd yn dechrau ac yn gorffen o fewn diwrnod neu lai o’i gilydd) ac nid côd trosglwyddo penodol, a chydgasglwyd cyfnodau a oedd yn gorgyffwrdd mewn i un cyfnod person unigol.
Arwyddocâd y gwaith hwn
Ceir rhesymau pwysig dros gysylltu cyfnodau ar draws darparwyr; effeithir ar amcangyfrifon o hyd cyfnod mewn ysbyty a chyfraddau derbyn os ystyrir pob cyfnod fel digwyddiad ar wahân, yn hytrach na fel rhan o ddilyniant hirach o ofal. Mae ansawdd data yn effeithio ar sut y gellir cysylltu cyfnodau, yn ogystal â chymaradwyedd data o wledydd gwahanol; rydym yn gobeithio bod y prosiect hwn wedi amlygu rhai ystyriaethau pwysig am sut gall hyn ddylanwadu ar ganlyniadau.