

Mae Adroddiad Blynyddol Banc Data SAIL 2020/21 bellach ar gael i’w ddarllen a’i lawrlwytho. Mae pwyslais mawr yn yr adroddiad ar waith ac effaith SAIL yn ystod pandemig Covid-19 a sut mae SAIL wedi addasu’n gyflym i ddiwallu gofynion ymchwil data iechyd a gweinyddol yn ystod pandemig byd-eang.
Mae’r adroddiad yn manylu ar rwydweithiau helaeth partneriaid a chydweithredwyr SAIL sy’n cydweithio i ddefnyddio data cyhoeddus er budd y cyhoedd. Mae’r adroddiad hefyd yn pwysleisio’r buddsoddiad gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus SAIL a’i ddatblygiadau yn y dyfodol.
Gallwch chi gyrchu a lawrlwytho’r adroddiad llawn o wefan SAIL yma – //://saildatabank.com/wp-content/uploads/Annual_Report_WELSH_2020_21.pdf