

Mae cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng am resymau sy’n gysylltiedig ag alcohol yn wynebu risg uwch o lawer o hunanladdiad – a dylent gael eu trin gan staff yr ysbyty mewn ffordd debyg i gleifion sydd wedi hunan-niweidio, yn ôl adroddiad newydd.
Canfu’r astudiaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a Phrifysgolion Caerdydd ac Abertawe fod y cleifion hyn 27 gwaith yn fwy tebygol o fynd ymlaen i ladd eu hunain o gymharu â’r rhai nad oeddent wedi’u derbyn i’r ysbyty am resymau’n gysylltiedig ag alcohol.
Er bod cyfanswm nifer yr achosion o hunanladdiad yn uwch ymhlith dynion, roedd y cynnydd o ran risg yn uwch ymhlith menywod, a oedd yn wynebu 29 gwaith mwy o risg. Roedd y risg 10 gwaith yn fwy ar gyfer dynion.
Roedd y risg o hunanladdiad fwyaf ymhlith cleifion a chanddynt anawsterau iechyd meddwl – roedd risg uwch yn gysylltiedig hefyd â chleifion heb unrhyw broblemau iechyd meddwl a nodwyd yn flaenorol.
Dywedodd Dr Bethan Bowden o Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Am y tro cyntaf rydym ni’n gwybod bod derbyniadau brys i’r ysbyty sy’n gysylltiedig ag alcohol yn gysylltiedig â risg uwch o hunanladdiad – yn enwedig i fenywod.
“Mae hyn yn bwysig oherwydd gallai cleifion, nad oes gan lawer ohonynt bryderon iechyd meddwl a nodwyd yn flaenorol, fod yn cael eu trin heb archwilio materion sylfaenol yn gysylltiedig â risg uwch o hunanladdiad.
“Mae staff ysbytai mewn sefyllfa unigryw i asesu cleifion na fyddent fel arall yn dod ymlaen am help. Ein cyngor i glinigwyr yw y dylai’r cleifion hyn gael eu trin yn debyg i’r rhai sydd wedi’u nodi fel rhai sy’n hunan-niweidio: cynnal asesiad seicogymdeithasol, a’u hatgyfeirio i wasanaethau iechyd meddwl os yw’n briodol.
“Mae’r astudiaeth hon yn dangos bod angen ystyried ymyriadau wedi’u targedau ar gyfer cleifion a dderbynnir i’r ysbyty gyda chyflwr sy’n gysylltiedig ag alcohol fel rhan o strategaeth atal hunanladdiad.”
Mae’n hysbys bod y defnydd o alcohol yn gysylltiedig â risg uwch o hunanladdiad yn y dyfodol, ond dyma’r astudiaeth gyntaf i nodi’r cysylltiad â derbyniadau brys sy’n gysylltiedig ag alcohol.
Cyhoeddwyd yr astudiaeth yng nghyfnodolyn meddygol PLosOne ar 27 Ebrill 2018. Gwnaeth ddilyn holl drigolion Cymru, rhwng 10 a 100 oed, am chwe blynedd. Edrychodd ar gleifion a gafodd eu derbyn i’r ysbyty gyda derbyniad brys yn gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys meddwi acíwt, dibyniaeth ar alcohol, yn ogystal â chymhlethdodau iechyd corfforol sy’n gysylltiedig â defnyddio alcohol.
Yn y DU, hunanladdiad yw prif achos marwolaeth gyfer dynion 20-49 oed a menywod 20-34 oed.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn pryderu am y niwed a achosir gan alcohol, ac mae hon yn flaenoriaeth y mae’r sefydliad yn gweithio arni er mwyn lleihau nifer y bobl sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty o ganlyniad i ddefnydd niweidiol o alcohol.
Erthygl cylchgrawn