


Mae Timau Ymchwil o Wyddor Data Poblogaethau ac Iechyd Cyhoeddus Cymru’n cyflwyno dangosyddion anafiadau AWISS ar gyfer y cyfnod 2010 – 2020. Ers dechrau’r pandemig y llynedd, mae Covid-19 wedi cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl. Bob blwyddyn yng Nghymru ar gyfartaledd, ceir 1,130 o farwolaethau yn sgîl anafiadau, 38,355 o dderbyniadau i’r ysbyty gydag anafiadau a 350,769 o ymweliadau â’r Adran Argyfwng oherwydd anafiadau (2010 – 2020). Serch hynny, yn 2020, roedd 596 o farwolaethau yn sgîl anafiadau, 30,442 o dderbyniadau i’r ysbyty gydag anafiadau, a 227,077 o ymweliadau â’r Adran Argyfwng oherwydd anafiadau.
Isod ceir graffiau sy’n cynrychioli ymweliadau â’r Adran Argyfwng a derbyniadau i’r ysbyty oherwydd anafiadau ar gyfer 2019 a 2020. Fel y gwelir o’r rhain, roedd y niferoedd ar gyfer 2020 yn sylweddol is o’u cymharu â 2019, yn enwedig ar gyfer mis Ebrill a mis Rhagfyr.


Ymweliadau ar gyfer mân anafiadau fesul mis â’r Adran Argyfwng, derbyniadau i’r ysbyty gydag anafiadau fesul mis yn 2019 -2020. Felly rhaid dehongli’r ffigurau diweddaraf ar gyfer dangosyddion anafiadau yn ofalus, oherwydd efallai nad ydynt yn cynrychioli gostyngiad go iawn mewn anafiadau, yn hytrach newid yn y ffordd y mae pobl wedi ymgysylltu â’r gwasanaethau iechyd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a hefyd sut mae’r gwasanaethau iechyd wedi cofnodi eu data. Mae’r adroddiad canlynol yn cyflwyno crynodeb o’r canfyddiadau allweddol. Ei nod yw cyfleu hyd a lled y broblem anafiadau yng Nghymru ers 2010 a chefnogi grwpiau i dargedu a gwerthuso strategaethau a gweithgareddau atal anafiadau.
Darllenwch yr adroddiad yn llawn yma – //://www.awiss.org.uk/wpcontent/uploads/2020-Indicator-report.pdf