

Mae rhieni sydd wedi gwahanu yn Lloegr ac sy’n dibynnu ar y llysoedd teulu i ddatrys achosion o anghydfod preifat o ganlyniad i drefniadau plant yn debygol o fyw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig y wlad, yn ôl adroddiad ymchwil newydd. Mae’r astudiaeth hefyd yn datgelu hollt glir rhwng y de a’r gogledd o ran nifer y ceisiadau cyfraith breifat sy’n cael eu gwneud, ac mae’r cyfraddau gyda’r uchaf yn gyson yn rhanbarth y gogledd-ddwyrain, y gogledd-orllewin, Swydd Efrog a rhanbarth Humber, a chyda’r isaf yn gyson yn Llundain a’r de-ddwyrain.
Pan na fydd rhieni sydd wedi gwahanu yn gallu cytuno ar faterion megis ble dylai’u plentyn neu blant fyw, neu bwy y dylen nhw fod mewn cysylltiad ag ef, gallan nhw gyflwyno cais am orchymyn llys i ddatrys yr anghydfod drwy lys teulu.
Er bod cyfradd gyffredinol y teuluoedd sy’n mynd i’r llys yn Lloegr yn isel – cyflwynodd llai na thri chwarter un y cant o’r holl deuluoedd gais cyfraith breifat yn 2019/20 – maen nhw’n effeithio ar fwy o blant nag achosion cyfraith gyhoeddus pan fydd awdurdod lleol yn ymyrryd i ddiogelu plentyn sydd mewn perygl o ddioddef niwed. Bydd mwy na dwywaith cynifer y ceisiadau cyfraith breifat yn cael eu cychwyn yng Nghymru a Lloegr bob blwyddyn na cheisiadau cyfraith gyhoeddus (54,930 o’u cymharu â 18,393 yn 2019, yn y drefn honno).
Mae’r astudiaeth ‘Uncovering private family law: Who’s coming to court in England?’ a gyhoeddodd Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield (Nuffield FJO), yn dangos bod achosion plant cyfraith breifat yn Lloegr yn ymwneud yn anghymesur â phobl sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Yn 2019/20, roedd 30 y cant o’r ymgeiswyr yn byw yn y cwintel mwyaf difreintiedig (sydd drwy ddiffiniad yn cynrychioli 20 y cant o’r boblogaeth ehangach). Dim ond 13 y cant oedd yn byw mewn ardaloedd yn y cwintel lleiaf difreintiedig.
Mae’r adroddiad hefyd yn datgelu bod angen rhieni am gymorth a chynhorthwy’r llysoedd teulu’n amrywio yn ôl y rhanbarth. Yn 2019/20, roedd cyfraddau ceisiadau cyfraith breifat yn y rhanbarthau gogleddol yn amrywio rhwng 79 ac 81 fesul 10,000 o deuluoedd dibynnol, ond dim ond 44 fesul 10,000 oedd y gyfradd yn Llundain a 59 fesul 10,000 yn y de-ddwyrain.
Mae’r astudiaeth ‘Uncovering private family law: Who’s coming to court in England?’ a gynhyrchodd y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol, sef cydweithrediad rhwng Prifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Abertawe, wedi datgelu hefyd y ffaith bod gorchmynion trefniadau ar gyfer plentyn (CAO), er mai’r rhain yw’r rhan fwyaf o geisiadau cyfraith breifat yn Lloegr – sef datrys ble dylai plentyn fyw a phwy y dylen nhw ei weld – wedi gostwng fel cyfran o’r holl geisiadau o ddau draean (69 y cant) yn 2010/11 i ychydig mwy na hanner (52 y cant) yn 2019/20. Mae cynnydd cymesur wedi bod yn nifer y ceisiadau ar gyfer gorchmynion gorfodi (er mwyn gorfodi CAO), camau gwaharddedig (er mwyn gwahardd gweithred benodol megis mynd â phlentyn dramor heb ganiatâd) a gorchmynion mater penodol (er mwyn datrys materion megis pa ysgolion y dylai plant eu mynychu, neu faterion sy’n gysylltiedig â’u crefydd neu’u hiechyd). Mae hyn yn dangos cynnydd posibl mewn achosion mwy heriol neu ddadleuol.
Dyma a ddywedodd Lisa Harker, cyfarwyddwr Nuffield FJO:
“Weithiau bydd achosion o anghydfod sy’n digwydd yn y llysoedd teulu’n cael eu canfod a’u portreadu’n ddadleuon eithaf dibwys y gellid eu setlo hwyrach y tu allan i’r llys. Fodd bynnag, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod y teuluoedd hynny sy’n dod gerbron y llys yn debygol o fod ag anghenion nas diwallwyd sy’n gysylltiedig â lefelau amddifadedd yn ogystal â ble maen nhw’n byw.
“Cydnabyddir yn eang bod yr achosion hynny y bydd awdurdodau lleol yn eu dwyn gerbron llysoedd yn ymdrin mewn ffordd anghymesur â theuluoedd o ardaloedd mwy difreintiedig ac mae’r astudiaeth hon yn sefydlu’n gadarn gysylltiad tebyg mewn achosion a ysbardunir gan rieni sydd wedi gwahanu. Gan fod degau o filoedd o blant sy’n gysylltiedig â’r achosion hyn bob blwyddyn – a bydd rhai ohonyn nhw’n arbennig o agored i niwed – mae’n hanfodol ein bod yn cydnabod bod amddifadedd yn ffactor a’n bod yn dechrau ystyried sut i leihau’r pwysau ar deuluoedd er mwyn gostwng y perygl bod gwrthdaro’n digwydd yn y teulu.”
Dyma a ddywedodd Dr Linda Cusworth o Ganolfan Ymchwil Cyfiawnder y Plentyn a’r Teulu ym Mhrifysgol Caerhirfryn, awdur arweiniol yr adroddiad:
“Er bod y defnydd cyffredinol o’r llys yn parhau’n isel, cafwyd tuedd weddol fach tuag at i fyny yn nifer ceisiadau cyfraith teulu preifat yn Lloegr. Mae hyn yn awgrymu angen parhaus a chynyddol ar gyfer cymorth a chynhorthwy, gan adlewyrchu canfyddiadau’n hastudiaeth flaenorol ynghylch achosion sy’n ymwneud â phlant mewn cyfraith breifat yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi datblygu proffil demograffig a chymdeithasol-economaidd o deuluoedd sy’n ymwneud â cheisiadau plant cyfraith breifat yn Lloegr. Bydd deall pwy sy’n defnyddio’r llysoedd teulu, ynghyd â’r hyn hwyrach sydd ei angen arnyn nhw a’r hyn maen nhw’n ei ddymuno, yn rhoi dull mwy cytbwys ac effeithiol o ran datblygu polisïau ac arferion a gall osgoi rhagdybiaethau cyfeiliornus. Hwyrach y bydd hefyd yn arwain at ymyraethau a dargedir yn fwy gofalus, yn y llys a’r tu allan iddo.”
Roedd yr astudiaeth ‘Uncovering private family law: Who’s coming to court in England?’ yn ymdrin â cheisiadau i’r llysoedd teulu rhwng 2007 a 2020. Mae’n seiliedig ar ddata ar lefel y boblogaeth y bydd Cafcass (y sefydliad sy’n cynrychioli buddiannau gorau plant mewn achosion sy’n ymwneud â chyfiawnder teuluol yn Lloegr) yn ei gasglu fel mater o drefn ac mae ar gael yng Nghronfa Data Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw (SAIL) Prifysgol Abertawe sy’n gysylltiedig â data demograffig.