

Mae canfyddiadau’r ymchwil yn awgrymu bod cau ysgolion yn arwain at ragor o anghydraddoldebau o ran iechyd ac wrth i ysgolion ddychwelyd, bydd angen rhoi mesurau ar waith i fynd i’r afael â’r bwlch wedi’i ehangu hwn mewn iechyd corfforol a lles.
Arweiniwyd yr ymchwil gan Dr Michaela James a Rhwydwaith HAPPEN ym Mhrifysgol Abertawe. Mae Rhwydwaith HAPPEN yn rhan o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) a ariennir gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. Mae NCPHWR yn ganolfan rhagoriaeth ym maes Gwyddor Data Poblogaethau. Mae’r fenter yn dod â thîm o safon fyd-eang o ymchwilwyr, ystadegwyr a dadansoddwyr data at ei gilydd o Brifysgolion Abertawe, Caerdydd a Bangor ochr yn ochr ag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn deall, gwerthuso a llywio gwelliannau o ran iechyd y boblogaeth.
Mewn ymateb i bandemig COVID-19, erbyn canol mis Mawrth 2020, roedd 138 o wledydd wedi cau ysgolion cenedlaethol i leihau nifer y cysylltiadau cymdeithasol rhwng disgyblion, er mwyn torri ar draws trosglwyddiad COVID-19 fel rhan o gynlluniau’r pandemig. Rhybuddiodd UNESCO y byddai tarfu ar addysg i’r fath raddau’n fyd-eang ac mor gyflym yn cael effaith andwyol heb ei hail.
Casglodd ymchwilwyr HAPPEN ddata am les plant yn ystod cyfnod cau’r ysgolion rhwng mis Ebrill a mis Mehefin 2020, gan ddefnyddio’r arolwg ‘HAPPEN Gartref’. Anogwyd ysgolion cynradd yng Nghymru sy’n cymryd rhan yn Rhwydwaith HAPPEN i wahodd rhieni a gwarcheidwaid i helpu plant i gymryd rhan yn yr arolwg hwn gartref. Cymharodd yr ymchwilwyr yr wybodaeth hon â data tebyg ar gyfer yr un cyfnod o 2019 a 2018.
Fel dangosydd amddifadedd, defnyddiodd y tîm Fanc Data SAIL i nodi’n ddienw y plant hynny a oedd yn derbyn prydau ysgol am ddim ar ôl i’r ymatebion i’r arolwg gael eu lanlwytho’n ddiogel i SAIL gan ddefnyddio Maes Cysylltu Dienw (ALF). Yna bu modd i’r ymchwilwyr gysylltu hyn â data demograffig arall yn SAIL i lunio darlun cyflawn o iechyd a lles.
O blith y 1000+ o blant 8 i 11 oed a gymerodd ran yn yr arolwg, nododd rhai lefelau uwch o weithgarwch corfforol, amser cysgu a hapusrwydd o’u cymharu â’r lefelau mewn blynyddoedd blaenorol. Ond mae canlyniadau’r arolwg yn awgrymu i gyfnod cau’r ysgolion amharu fwyaf ar y plant mwyaf difreintiedig; sef y rhai hynny sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.
Nododd y plant sy’n derbyn prydau ysgol am ddim lefelau is o weithgarwch corfforol a’u bod yn bwyta mwy o brydau cludfwyd na’u cymheiriaid cyfoethog. Hefyd nododd y plant hyn eu bod yn bwyta llai o ffrwythau a llysiau yn gyffredinol a gwnaethant gyflawni lefelau is o hunanasesiad addysgol o’u cymharu â blynyddoedd blaenorol.
Meddai’r prif ymchwilydd, Dr Michaela James, “Mae’r ymchwil hon yn dangos rôl bwysig ysgolion wrth leihau anghydraddoldebau lles ymhlith plant. Mae’n hanfodol cydnabod bod cau ysgolion a diffyg amgylchedd ysgol strwythuredig o ganlyniad, yn amharu ar y rhai mwyaf difreintiedig.”
Gobeithir y bydd yr ymchwil hon yn rhoi tystiolaeth i lunwyr polisi ac arweinwyr addysg a all lywio’r gwaith o wneud penderfyniadau yn y dyfodol a sicrhau y rhoddir lefelau digonol o gefnogaeth i’r rhai y mae ei hangen arnynt fwyaf wrth i ysgolion groesawu eu disgyblion yn ôl.
Cyhoeddwyd adroddiad yr ymchwil gan y BBC ar 26 Awst 2021 – //://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-58332312
Ceir y cyhoeddiad ymchwil cyn-argraffu llawn yma (heb ei adolygu gan gymheiriaid hyd yn hyn) – //://www.medrxiv.org/content/10.1101/2021.02.04.21251155v1
