

Dr Hywel Turner Evans, Swyddog Ymchwil, Gwasanaethau Dadansoddol SAIL yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn rhannu ei daith ysbrydoledig i fyd ymchwil gyda ni.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ymuno â Phrifysgol Abertawe?
Astudiais PhD mewn Ffiseg Gwrthfater a gweithiais fel dadansoddwr data ar y Gwrthdarwr Hadron Mawr yn y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear yn Geneva.
Beth sbardunodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Roeddwn bob amser wedi mwynhau mathemateg, ac yn fy arddegau fe gwblheais brosiect dros yr haf gan weithio â chenhadaeth y gofod ExoMars ym Mhrifysgol Aberystwyth. Roedd hyn wedi rhoi syniad i mi o ba sgiliau sydd eu hangen ar ymchwilydd a sut fath o beth oedd eu trefn ddyddiol. Rwy’n caru deall sut mae pethau’n gweithio, o blanedau i ronynnau i bobl (mae planedau a gronynnau’n llawer haws eu rhagdybio na phobl)!
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi eu hwynebu yn ystod eich taith ym myd ymchwil?
Roeddwn yn ffodus i gael dim ond ychydig o gyfrifoldebau yn y brifysgol fel fy mod i’n gallu canolbwyntio ar fy astudiaethau – nid yw pawb mor lwcus. Ond roedd hyn yn golygu fy mod wedi’i chael hi’n anodd cynnal cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith – gall fwynhau gwaith fod yn fendith ac yn felltith!
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Gyda gwybodaeth am fanc data SAIL, rydw i wedi gweithio â data cysylltiedig am boblogaethau ar amrywiaeth o bynciau, fel gwerthuso ymyriad iechyd y cyhoedd ar gyfer diabetes, ymchwilio i gamddefnyddio sylweddau, effeithiau meddyginiaeth yn ystod beichiogrwydd, a chyffredinrwydd clefydau anadlol. Mae gen i ffrindiau a theulu sydd wedi’u heffeithio gan bob un o’r pynciau hyn, sy’n fy ysgogi i wella’r canlyniadau.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Rwy’n angerddol am gael effaith ar newidiadau polisi ystyrlon i wella bywydau mewn blynyddoedd yn hytrach na degawdau. Fel ymchwilwyr, mae gennym rôl hollbwysig i gyfathrebu ein hymchwil i gynulleidfaoedd amrywiol, sy’n un o agweddau pwysicaf y swydd. Rwy’n gobeithio bydd ein hymchwil yn cyrraedd y lle cywir ar yr adeg gywir i weithredu newid.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Edrychwch am interniaethau a rhowch dro arni. Mae gweithio ag amryw o grwpiau ymchwil yn rhoi syniad gwell i chi ddeall pa waith rydych chi’n ei fwynhau. Mae’n bwysig gweithio’n dda gyda chydweithwyr. Y tîm Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe yw’r gymuned ymchwil fwyaf cydweithiol rwyf wedi bod yn rhan ohoni, felly mae’r dyfodol yn gyffrous – ymunwch â ni!
Mae Banc Data SAIL yn un o 12 Canolfan Rhagoriaeth ym maes Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Darganfyddwch fwy am ei waith ar ei wefan.

