

Yn y postiad blog hwn, mae Dr Jim Rafferty, Uwch-ystadegydd y prosiect MAGENTA, yn rhannu ei daith ysbrydoledig at ymchwil.

Beth roeddech chi’n ei wneud cyn i chi ymuno â Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe?
PhD mewn ffiseg ddamcaniaethol o 2007 tan 2011. Roeddwn i’n gweithio i gwmni ymchwil ffiseg feddygol am bedair blynedd cyn dychwelyd i’r byd academaidd.
Beth daniodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Rydw i bob amser wedi bod yn frwdfrydig am ddysgu pethau newydd. Mae ymchwil mewn gwyddor data iechyd yn caniatáu i mi ddysgu am yr hyn sydd yn y data ond hefyd am dechnegau mathemategol ar gyfer dadansoddi data.
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Mae contractau tymor byr yn ei gwneud hi’n anodd meddwl am y problemau a’r prosiectau mawr yr hoffwn i weithio arnynt a chynllunio fy mywyd y tu allan i’r gwaith.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Mae fy ymchwil ar ochr fathemategol ac ystadegol gwyddor data iechyd. Yn fy rôl newydd, dan oruchwyliaeth yr Athro Rhiannon Owen a Phrif Ymchwilydd y prosiect yr Athro Rich Fry, byddaf yn cwblhau dadansoddiad ystadegol sy’n edrych ar ddod i gysylltiad â gwres yn ystod beichiogrwydd.
Ar hyn o bryd rwy’n gweithio ar raglen Sbardun Ymchwil Meddyginiaethau HDR-UK gyda Rhiannon ac yn dysgu am fodelu Bayesaidd. Yn flaenorol, roeddwn i’n gweithio ar glystyru amryfal gyflyrau tymor hir, lle defnyddiais i strwythur mathemategol o’r enw hypergraff, nad oedd wedi’i ddefnyddio at y diben hwn o’r blaen. Cyn hynny, fi oedd dadansoddwr SAIL ar gyfer yr Uned Ymchwil Diabetes yng Nghymru.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Mae gen i ddiddordeb mewn datblygu modelau mathemategol newydd i wella ein dealltwriaeth o’r perthnasoedd mewn data. Mae modelau llinol yn ddefnyddiol ac yn hawdd eu cymhwyso, ond yn anaml iawn mae’r perthnasoedd mor syml â hynny. Mae’r data ar raddfa fawr sydd gennym yn SAIL yn golygu bod gennym y cyfle i geisio deall perthnasoedd cymhleth iawn mewn ffordd y gall ychydig iawn o bobl eraill ei wneud.
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Mae’r tîm o bobl rydych chi’n gweithio gyda nhw yn bwysicach na’r prosiect rydych yn gweithio arno. Dewch o hyd i grŵp o bobl sy’n caniatáu i chi lwyddo, ac yn eich galluogi i wneud hynny.
Mae Rhaglen Sbardun Ymchwil Meddyginiaethau mewn Gofal Acíwt a Chronig HDR UK yn rhan o Bum Rhaglen Sbardun Ymchwil HDRUK a fydd yn defnyddio pŵer data ar raddfa fawr i ddarparu effeithiau gwyddonol sy’n torri tir newydd ac arloesedd seilwaith. Mae HDR UK Cymru yn un o 12 Canolfan Rhagoriaeth ym maes Gwyddor Data Poblogaethau ac fe’i lleolir ym Mhrifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth am eu gwaith ar eu gwefan.

