

Dr Michaela James, Swyddog Ymchwil, Canolfan Iechyd y Boblogaeth/ADR DU, yn rhannu ei thaith ysbrydoledig i fyd ymchwil â ni.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn ymuno â’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR)?
Es i i’r Brifysgol yng Nghaerfaddon lle astudiais BA(Anrh) mewn Chwaraeon a Gwyddor Gymdeithasol am bedair blynedd lle cwblheais leoliad fel mentor i bobl ifanc nad oeddent mewn addysg, gwaith na hyfforddiant gyda dau glwb rygbi uwch-gynghrair (Warriors a Chaerfaddon). Gadawais i Gaerfaddon a symud i Abertawe i fod yn hyfforddwr ffitrwydd am dair blynedd a bod yn rhan o’r Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) wrth astudio gradd Meistr mewn Iechyd y Cyhoedd a Hybu Iechyd. Ar ôl cwblhau fy ngradd meistr, cefais swydd rôl cefnogi’r prosiect a ariennir gan British Heart Foundation, ACTIVE (grymuso pobl ifanc i fod yn fwy actif) a dyma fi chwe blynedd yn ddiweddarach!
Beth daniodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Gan fy mod yn dod o gefndir yn y byd chwaraeon, nid oeddwn yn meddwl bod gyrfa yn y byd academaidd yn bosibl i mi. Taniodd fy niddordeb unwaith i mi dderbyn fy rôl ar fy mhrosiect cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe a gweld y cyfleoedd. Ni allaf feddwl am unrhyw beth arall yr hoffwn ei wneud nawr!
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Syndrom y ffugiwr! Mae hwn yn rhywbeth mawr i mi. Er gwaethaf y ffaith bod gen i PhD, rwy’n cael diwrnodau lle rwy’n cwestiynu os dwi’n gwybod digon, yn gwneud digon, neu yn ddigon i fod lle rydw i heddiw. Mae’n waith parhaus ond wrth i mi wynebu fwy o heriau, ymgymryd â chyfrifoldeb ac ymarfer gwydnwch a meddylfryd twf (tasg anodd wrth wynebu sylwadau adolygwyr rhaid cyfaddef!) y mwyaf y gallaf dawelu’r ffugiwr sy’n siarad yn fy mhen.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Fy maes arbenigedd yw iechyd a lles plant ond yn benodol, chwarae a gweithgarwch corfforol. Rwy’n eiriolwr enfawr dros y ddau (sydd ddim yn syndod o ystyried fy nghefndir).
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Iechyd a lles cyffredinol, gweithgarwch corfforol, chwarae, hawliau plant, cyd-gynhyrchu, ac eiriolaeth yn fras! Unrhyw beth sy’n ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r hyn mae plant a phobl ifanc ei angen a’i eisiau. Rwyf wir eisiau rhoi llais i’r grŵp hwn mewn ymchwil gan ei fod yn grŵp sy’n cael ei anghofio’n aml. Mae’r dyfodol yn llawer mwy o hyn! Buaswn yn caru sefydlu grŵp ymgynghorol i bobl ifanc, yn enwedig o ran lledaenu ymchwil gan nad yw mynediad at allbynnau ymchwil yn hygyrch i’r cyhoedd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Gallwch wneud gwahaniaeth, felly ewch amdani. Peidiwch â chael eich rhwystro gan y stereoteip academaidd! Mae angen i ni chwalu hynny ac ail-ddiffinio sut y gall pobl o unrhyw gefndir, profiad a gwybodaeth gyfrannu at ymchwil!
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) yn un o’r 12 Canolfan Ragoriaeth yn Adran Gwyddor Data Poblogaethau, Prifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.
