

Dr Rod Middleton, Athro Cysylltiol Cofrestri Clefydau, Gwyddor Data Poblogaethau, yn rhannu ei daith ysbrydoledig at ymchwil gyda ni.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn ymuno â Chofrestr MS y DU?
Dechreuais fel Nyrs yn yr Uned Therapi Dwys, cyn gadael nyrsio i astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd fy ngyrfa nesaf fel Rheolwr System Gofal Critigol a Theatrau; Roeddwn wedi ymgymryd â fy MBA wrth wneud hyn.
Beth daniodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Mae ymchwil bob amser wedi bod yn rhan o’m bywyd – wrth nyrsio, sylweddolais ei bwysigrwydd bron ymhob un o’r rhyngweithiadau gyda chleifion a gwelais y gall ymchwil effeithiol gael ei hadolygu a’i hymarfer yn gyflym. Pan symudais i Reoli Systemau, roedd y data yr oeddwn i wedi’i gasglu wedi ffurfio rhannau o sawl prosiect ymchwil. Roedd gweld y symudiad o ‘gleifion unigol’ i’r effaith ehangach y gall gael ar y boblogaeth yn agoriad llygaid.
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Gall symud o fod yn ymarfer ymchwil eraill, i fod yn ymgymryd â dadansoddiad ar ddata, ac yna yn y pendraw ysgrifennu eich ymchwil eich hun fod yn frawychus – mae syndrom y ffugiwr yn wir! Ond mae’r teimlad o’ch erthygl gyntaf yn goresgyn adolygiad gan gymheiriaid yn gwneud yr holl beth werth y drafferth!
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Fi yw Prif Ymchwilydd Cofrestr sglerosis ymledol y DU, gan gasglu data ‘byd go iawn’ gan bobl ag MS, a chan y GIG, i gynnal cysylltedd data rhwng y rhain a ffynonellau data eraill fel sganiau MRI a data meinweoedd. Rydym yn gweithio gyda data ansoddol a meintiol, dadansoddiad delwedd, dysgu peirianyddol a chymhwyso dyluniadau astudio traws adrannol a hydredol i’r rhain.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Epidemioleg y clefyd, ymateb i therapïau addasu clefydau, gwybyddiaeth, deilliannau a adroddir gan gleifion, ac effaith ysmygu ar anabledd. Mae gennym gymaint o ddata effeithiol mae’n anodd ei gulhau. Yn y dyfodol mae gennym ddiddordeb mewn mwy o ymchwil sy’n cynnwys ymholiadau wedi’u ffedereiddio ar draws Cofrestrau MS Ewropeaidd.
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Byddwch yn frwdfrydig! A dewiswch bwnc ymchwil yr ydych yn angerddol amdano – ar ddiwedd y dydd i fi rwy’n ceisio helpu cleifion i wella, ac rwy’n gobeithio y gallaf helpu mwy nag un ar yr un pryd nawr. Os ydych yn gallu defnyddio’r angerdd hwnnw, cymhwyso ychydig o lymder a dysgu’r dulliau sydd eu hangen er mwyn ymchwilio i’r hyn yr wyt ti’n ymddiddori ynddo yna mae gennych gyfle gwych i wneud gwahaniaeth.
Mae Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU (MS DU) yn un o’r 12 Canolfan Ragoriaeth wedi’i lleoli yng Ngwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.

