

Yn y blog hwn, mae Hatem Mona, Gwyddonydd Data/Epidemiolegydd Seiciatreg yn y tîm Seiciatreg Poblogaethau, Hunanladdiad a Gwybodeg (PPSI) ym Mhrifysgol Abertawe a DATAMIND, yn rhannu ei daith ysgogol i fyd ymchwil â ni.

Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ymuno â thîm PPSI ym Mhrifysgol Abertawe?
Cyn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe, gwnes i gwblhau gradd meistr mewn Iechyd Poblogaethau o UCL, Llundain, gan gyflwyno traethawd ymchwil ar fwlio hiliol ac iechyd meddwl myfyrwyr 16 oed yn Lloegr. Ar ôl hynny, roeddwn i’n intern yn CLOSER yn UCL, lle gwnes i ymarfer cysoni setiau data hydredol gwahanol ac ysgrifennu briffiau polisi i lywodraeth y DU.
Beth sbardunodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Yn ystod fy ngradd Baglor yn Iechyd yr Amgylchedd, roeddwn i ar lwybr meddygol tuag at ysgol feddygaeth. Awgrymodd un o’m ffrindiau y dylwn i wirfoddoli gyda thîm a oedd yn ymchwilio i anafiadau trawmatig i’r ymennydd. Fy nhasg oedd goruchwylio tîm o wirfoddolwyr mewnbynnu data eraill. Bryd hynny, gwnes i gwrdd â meddygon ac ymchwilwyr meddygol eraill, a sylweddolais i fod fy sgiliau’n fwy addas i waith ymchwil.
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Her fwyaf fy ngyrfa ymchwil yw cael y swydd gyntaf. A minnau’n ymchwilydd iechyd rhyngwladol, rwyf bob amser yn cystadlu ag ymchwilwyr lleol nad oes angen nawdd arnyn nhw i gael eu cyflogi. Mae hyn yn golygu bod angen CV sy’n cynnig mwy na rhywun sydd newydd raddio. Hefyd, efallai y bydd yn rhaid adleoli ar gyfer y cyfle cyntaf. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn i’n dod i Abertawe ar ôl cwblhau gradd meistr yn Llundain, ond dilynais i fy ngyrfa.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Rwyf wedi gweithio ar ymchwil sy’n gysylltiedig â mudo ac iechyd meddwl. Mae fy nghyhoeddiad yn ymwneud â rhwystrau i fynediad at ofal iechyd i fudwyr answyddogol yn Sweden. Bellach, rwy’n gweithio ar bwnc hunanladdiad a hunan-niweidio ymhlith y glasoed yn y DU. Rydyn ni’n ceisio cadarnhau tystiolaeth hydredol rhwng meddyliau am hunanladdiad ac ymdrechion i gyflawni hunanladdiad.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Y maes ymchwil mwyaf diddorol i mi yw ffrwythlondeb. Mae’r gyfradd ffrwythlondeb yn y byd gorllewinol wedi bod yn gostwng ers sawl degawd. Gall newidiadau o’r fath o ran demograffeg arwain at gymdeithas fregus, a fydd yn dibynnu’n drwm ar fudwyr i weithredu. Felly, mae integreiddio mudwyr a’u hiechyd yn bwnc sy’n dod i’r amlwg.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Gofynnwch i rywun yn y maes am gyngor ar eich gyrfa cyn i chi ddechrau arni. Gall ymchwil iechyd fod yn ddifyr os ydych chi’n hoffi dadansoddi data gan ddefnyddio meddalwedd ystadegol ac ysgrifennu papurau academaidd, ond mae’n faes helaeth. Ceir llawer o arbenigaethau y dylech chi gymryd yr amser i’w harchwilio.
Mae Hatem Mona yn gweithio ar DATAMIND (a Chanolfan Iechyd Meddwl Pobl Ifanc Wolfson). Mae DATAMIND yn un o’r 12 o ganolfannau rhagoriaeth yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.

