

Yn y postiad blog hwn mae Hope Jones, Ymchwilydd Blynyddoedd Cynnar yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR), yn sôn wrthym am ei thaith ysbrydoledig i ymchwil.

Beth wnaethoch chi cyn i chi ymuno â NCPHWR?
Es i Brifysgol Bangor lle astudiais BSc (Anrh) mewn Seicoleg ac yna arbenigo drwy astudio am MSc mewn Niwroddelweddu. Tra oeddwn yn fyfyriwr, cwblheais ddwy interniaeth haf yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe gan weithio ar rwydwaith ysgolion cynradd (HAPPEN) ac annog pobl ifanc i fod yn fwy actif (ACTIVE).
Beth daniodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Yn ystod fy ngradd Seicoleg, roedd gofyn i bob myfyriwr fod yn gyfranogwr ymchwil ar gyfer gwahanol astudiaethau yn yr adran. Roedd hyn yn cynnwys holiaduron gweithgarwch corfforol, profion rheoli ataliol, tasgau cof, asesiadau sy’n seiliedig ar gemau a llawer mwy. Amlygodd y profiadau hyn yr amrywiaeth mewn cyfleoedd ymchwil ac ysgogodd frwdfrydedd am ymchwil.
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Gorffennais fy ngradd meistr yn ystod haf pandemig COVID-19 a oedd yn sefyllfa annisgwyl iawn. Roedd arbenigo mewn niwroddelweddu pan oedd modd cynnal sganiau MRI at ddibenion meddygol yn unig yn golygu bod cyfleoedd cyfyngedig ar gyfer rolau ymchwil niwroddelweddu ar y pryd. Roedd hyn yn heriol ond agorodd y drws i gyfleoedd cyffrous eraill ym maes ymchwil iechyd cyhoeddus a arweiniodd at fod yn rhan o ymchwil i’r effaith y cafodd y pandemig ar deuluoedd.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Fy maes arbenigedd yw iechyd a lles plant a theuluoedd. Rwy’n arwain ar y prosiect Ganwyd yng Nghymru, sef astudiaeth carfan geni sy’n ceisio deall sut mae iechyd a lles teuluol yn effeithio ar ddyfodol plant.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi? Beth sydd ar y gweill yn y dyfodol?
Mae gen i ddiddordeb ym mhob agwedd ar iechyd a lles y teulu o feichiogrwydd tan flaenlencyndod. Mae unrhyw ymchwil sy’n ystyried gwella canlyniadau i blant a theuluoedd sy’n cael eu magu yng Nghymru o ddiddordeb i mi oherwydd fy mod am fod yn rhan o wneud newid cadarnhaol i genedlaethau’r dyfodol yng Nghymru. Ar hyn o bryd rydw i hefyd yn gweithio tuag at fy PhD ym maes iechyd a lles plant a theuluoedd.
Pa gyngor byddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Gall unrhyw un fod yn ymchwilydd! Mae pawb yn ein tîm yn dod o gefndir gwahanol felly byddwn yn pwysleisio nad oes ots beth yw eich cefndir: gall unrhyw un ddechrau ymchwilio. Hefyd, meddyliwch am y pwnc sydd o bwys mawr i chi ac ewch amdani.
Mae’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth (NCPHWR) yn un o’r 12 Canolfan Ragoriaeth yn Adran Gwyddor Data Poblogaethau, Prifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.

