

Mae Lewis Hotchkiss, sy’n Swyddog Ymchwil Niwroddelweddu ar gyfer Porth Data Dementias Platform UK, yn rhannu ei daith llawn ysbrydoliaeth gyda ni.

Beth wnaethoch chi cyn i chi ymuno â DPUK?
Cyn i fi weithio ym Mhorth Data DPUK, cwblheais fy ngradd mewn cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd fy nhraethawd estynedig yn canolbwyntio ar optimeiddio polisïau i leihau effaith economaidd ac o ran iechyd pandemig COVID-19. Yn ystod fy amser yn y Brifysgol, cefais lawer o gyfleoedd i archwilio fy niddordebau ymchwil ac roeddwn i’n gallu gweithio ar brosiect niwroddelweddu a oedd yn ystyried modelu heneiddio’n iach.
Beth sbardunodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Gwnaeth fy interniaeth ymchwil gyda Grŵp Gwybodeg Proteinau Rhydychen ym Mhrifysgol Rhydychen fy nghyflwyno i sut y gellir cymhwyso Deallusrwydd Artiffisial i ymchwil iechyd. Fel rhan o hyn, datblygais i dechnegau dysgu peirianyddol newydd i ddod o hyd i gyffuriau posib ar gyfer COVID-19. O ganlyniad i weld y potensial enfawr sydd gan Ddeallusrwydd Artiffisial i ddarganfod cyffuriau a diagnosio clefydau, ymysg llawer o feysydd eraill, sbardunwyd fy niddordeb mewn defnyddio’r sgiliau rwyf wedi eu datblygu ym maes cyfrifiadureg a’u cymhwyso i ymchwil iechyd.
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi’u hwynebu yn eich taith ym myd ymchwil?
Rwyf wedi bod yn eithaf ffodus yn ystod fy nhaith ymchwil ac nid wyf wedi wynebu llawer o heriau hyd yn hyn. Mae’r Grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe wedi bod yn amgylchedd gwych ac mae wedi fy ngalluogi i archwilio fy niddordebau ymchwil ac achub ar gyfleoedd amrywiol. O ganlyniad i ennill profiad ymchwil ar y cyd â’m hastudiaethau, roeddwn i’n gallu datblygu fy hun ac ennill y sgiliau sy’n ofynnol i ddatblygu yn fy ngyrfa ymchwil.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Mae fy ymchwil dros y blynyddoedd wedi canolbwyntio’n bennaf ar gymhwyso technegau Deallusrwydd Artiffisial i heriau yn y maes iechyd, boed hynny o ran diagnosio clefydau, dod o hyd i driniaethau newydd neu fodelu clefydau pandemig. Yn fwyaf diweddar, rwyf wedi bod yn cynnal ymchwil i haenu’r Prif Anhwylder Iselder (MDD) i ddarganfod dilyniannau gwahanol y clefyd gan ddefnyddio technegau dysgu peirianyddol heb gael fy ngoruchwylio. Mae gan hyn y potensial i’n helpu ni i ddeall yr achosion a’r llwybrau gwahanol sydd gan iselder a pha ffactorau a all gyfrannu at ddatblygu dementia yn y dyfodol.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi?
Mae fy niddordebau ymchwil presennol ym meysydd clefydau niwroddirywiol ac anhwylderau seiciatrig a sut y gellir defnyddio data niwroddelweddu mewn modelau Deallusrwydd Artiffisial i ganfod y clefydau hyn a’u hatal yn gynnar. Deallusrwydd Artiffisial sydd biau’r dyfodol ac mae ganddo botensial enfawr i’n helpu wrth i ni ddeall clefydau a bydd yn helpu i chwyldroi’r maes data iechyd.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
Fy nghyngor i fyddai ystyried pa faes ymchwil sydd yn wir o ddiddordeb i chi. Un o fanteision mawr ymchwil data iechyd yw y gallwch chi ddechrau drwy ddadansoddi data gan ddefnyddio dim ond pecynnau dadansoddi cyfrifiadurol megis Python neu R. Nid oes angen labordy crand neu gyfarpar drud arnoch chi i ddechrau; gallwch chi ennill profiad ar eich liwt eich hun i’ch helpu i ddeall beth yw eich diddordebau ymchwil ac i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau.
Mae Porth Data Dementias Platform UK (DPUK) yn un o’r 12 o Ganolfannau Rhagoriaeth sydd yn y Grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe. Ceir rhagor o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.
