

Mae Marcos del Pozo Banos, sy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhannu ei daith llawn ysbrydoliaeth ym myd ymchwil â ni.
Mae Marcos del Pozo Banos, sy’n Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yn rhannu ei daith llawn ysbrydoliaeth ym myd ymchwil â ni.
Beth oeddech chi’n ei wneud cyn i chi ymuno â Phrifysgol Abertawe?
Gwnes i BSc ac MSc mewn Peirianneg Delathrebu, ac yna BSc mewn Systemau Deallus a Chymwysiadau Rhifiadol mewn Peirianneg a PhD o’r un enw.
Beth sbardunodd eich diddordeb mewn gyrfa ymchwil?
Hyd y gallaf ei gofio, rwyf bob amser wedi ymddiddori mewn gwyddoniaeth a thechnoleg. Roeddwn i’n dwlu ar dynnu pethau’n ddarnau (setiau radio, gwyntyllau, cyfrifiaduron) ac esgus fy mod i’n wyddonydd. Yn blentyn, roeddwn i’n dwlu ar raglenni dogfen. Ar y teledu, fy hoff gymeriadau oedd y rhai hynny a oedd yn dwlu ar dechnoleg (Pak o The Fruitties, Donatello o TMNT, Spiderman, MacGyver, etc.).
Pa heriau, os oes rhai, rydych chi wedi eu hwynebu yn ystod eich taith ym myd ymchwil?
Tair blynedd ar ôl i mi ddechrau ar fy hyfforddiant, cefais fy swyno gan y meysydd niwrowyddoniaeth, niwrowyddoniaeth gyfrifiadol a deallusrwydd artiffisial – nid oedd y meysydd hyn yn cael eu haddysgu i raddau helaeth yn fy mhrifysgol bryd hynny. Felly, treuliais i flwyddyn ERASMUS ym Mhrifysgol Technoleg Helsinki, lle gwnes i ddilyn yr holl gyrsiau roeddwn i’n gallu yn y meysydd hyn. Yn y broses, hyfforddais i yn fy hoff feysydd ond dysgais i Saesneg ar yr un pryd.
Yna, cefais broblem fawr oherwydd doedd dim arian ar ôl gennyf hanner ffordd drwy fy PhD, yn ystod Dirwasgiad Mawr Sbaen. Dechreuais i gyflwyno ceisiadau am swyddi ymchwil, gyda’r bwriad o barhau â’m PhD yn fy amser hamdden. Cefais swydd yn Adran Seicoleg Prifysgol Abertawe lle gallwn i wneud rhywbeth a oedd yn agos iawn at fy nhraethawd ymchwil, ac roeddwn i hyd yn oed yn gallu cyfuno hwn â’m hymchwil fy hun. Yn sgîl hyn, cefais swydd yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sydd wedi fy arwain i at le’r ydw i heddiw.
Fodd bynnag, o edrych yn ôl, nid wy’n credu mai heriau mawr oedd y rhain.
Rwyf bob amser wedi cael cefnogaeth gan fy nheulu ac uwch academyddion da sy’n fentoriaid i mi – dyma bobl rwyf wedi gallu eu cysgodi a dysgu ganddynt ac sydd wedi fy nghefnogi.
Pa fath o ymchwil rydych chi wedi gweithio arni?
Dechreuais i ym maes biofetrigau. Yn bennaf, roedd hyn yn golygu biofetrigau wynebau (adnabod hunaniaeth, oedran a rhyw), ond hefyd o ran cymwysiadau meddygol a bioamrywiaeth. Roedd fy nhraethawd ymchwil PhD hefyd yn ymwneud â biofetrigau, sef archwilio bodolaeth arwyddiant nad yw’n dibynnu ar dasgau yn yr electroenceffalogram dynol.
Ar ôl hynny, mae fy ymchwil wedi canolbwyntio ar atal hunan-niweidio a hunanladdiad ac iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Pa feysydd ymchwil sydd o ddiddordeb i chi?
Rwy’n hynod frwdfrydig am wyddor data iechyd meddwl, sef cyfuniad o’r pynciau a wnaeth fy swyno fel myfyriwr yn y Brifysgol.
Mae’n fy ngalluogi i archwilio’r ymennydd a’r meddwl dynol drwy iechyd meddwl a thrwy gymhwyso algorithmau dysgu peirianyddol a thechnolegau difyr eraill. Ar ben hyn oll, mae’r gwaith rwy’n dwlu arno’n helpu i wella bywydau pobl.
Rwy’n dyheu am gael ragor o hyn yn y dyfodol, gyda chyrhaeddiad ac effaith hyd yn oed yn fwy ar y gymdeithas.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried gyrfa ymchwil?
I ddod o hyd i’r pwnc sydd o’r diddordeb pennaf i chi; i arsylwi ar bobl fwy profiadol yn eich bywyd, nodi’r rhai sy’n wych a dysgu ganddynt; i beidio byth rhoi’r gorau i astudio a dysgu; ac i fod yn barod i weithio’n galed.
Mae’r grŵp Poblogaethau, Seiciatreg, Hunanladdiad a Gwybodeg (PPSI) ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinwyr timau ar brosiectau DATAMIND a Phlatfform Data Iechyd Meddwl y Glasoed (ADP) . Mae DATAMIND ac ADP yn ddwy o’r 12 o Ganolfannau Rhagoriaeth yn adran Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe.
