

Gwnaeth Ollie Thwaites, sy’n fyfyriwr PhD yn y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd (ENVHE), siarad â ni am ei draethawd hir diweddar ar gyfer ei radd Meistr, a sut gwnaeth sbarduno ei ddiddordeb mewn defnyddio GIS i archwilio’r perthnasoedd rhwng yr amgylchedd naturiol ac iechyd.

Cysylltu data am leoedd gwyrdd o’r Arolwg Ordnans â chofnodion o adar, gloÿnnod byw, a phlanhigion o Atla y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol
Cefais y syniad ar gyfer prosiect fy nhraethawd hir wrth astudio’r modiwl ynghylch delweddu data. Roeddem ni’n dysgu am sut i ddefnyddio Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS) er mwyn modelu a dadansoddi data gofodol. Roedd fy ngradd israddedig mewn Bioleg, ac roeddwn i’n awyddus i gyfuno’r wybodaeth a gefais drwy honno â’r sgiliau newydd roeddwn i’n eu meithrin yn ystod y radd Meistr. Felly, cefais y syniad o gysylltu data am leoedd gwyrdd o’r Arolwg Ordnans â chofnodion o adar, gloÿnnod byw a phlanhigion o Atlas y Rhwydwaith Bioamrywiaeth Cenedlaethol. Roeddwn yn cyfrifo ar lefel yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is (LSOA). Cyfrifais arwynebedd y lleoedd gwyrdd, a dwysedd y rhywogaethau adar, gloÿnnod byw a phlanhigion a dwysedd yr holl rywogaethau drwy rannu nifer y rhywogaethau gan arwynebedd y lleoedd gwyrdd, ym mhob LSOA.
Cyfoethogi’r data
Ar ôl trafod gyda’m goruchwylwyr, cysylltais y data amgylcheddol â data o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Arolwg Cenedlaethol Cymru’n arolwg blynyddol o tua 12,000 o bobl, gan gynnwys amrywiaeth o bynciau megis diwylliant, iechyd a’r amgylchedd. Mae Graddfa Lles Meddyliol Warwig-Caeredin (WEMWBS) wedi’i chynnwys yn yr arolwg hefyd. Mae WEMWBS yn raddfa wedi’i dilysu sy’n cael ei defnyddio i fesur lles meddyliol, a defnyddiais y sgorau o WEMWBS ar gyfer fy nghanlyniad. Roedd data cymdeithasol-ddemograffig ar gael o’r arolwg hefyd, felly roedd modd i mi addasu ar gyfer oedran, rhyw, ethnigrwydd a statws economaidd. Mae’r ymatebion i Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ym manc data SAIL (sef y banc data cysylltu gwybodaeth ddienw’n ddiogel), sydd yma ym Mhrifysgol Abertawe.
Y Canlyniadau

Awgrymodd fy nghanlyniadau fod ansawdd y lleoedd gwyrdd yn bwysicach i les meddyliol na’u maint. Roedd byw mewn LSOA â dwysedd uwch o rywogaethau planhigion yn gysylltiedig ag iechyd meddwl gwell mewn model wedi’i addasu. Hefyd, gwnes ddadansoddiad haeniad, gan wahanu’r garfan i gwintelau yn ôl grwp incwm. Darganfyddais gysylltiad cryfach rhwng dwysedd rhywogaethau planhigion a lles meddyliol ar gyfer ymatebwyr o gwintel incwm isel o’i gymharu â’r garfan gyfan y soniwyd amdani gynt. Mae’r canfyddiad hwn yn ategu ymchwil flaenorol sy’n awgrymu ei bod yn debygol bod pobl ar incwm llai yn elwa mwy o amgylcheddau naturiol na phobl ar incwm uwch.
Beth nesaf?
Yn ddiweddar, cyflwynais i’r gwaith hwn yng Nghynhadledd Rhwydwaith Rhyngwladol Cysylltedd Data Poblogaeth, a chyhoeddwyd fy nghrynodeb yn yr International Journal of Population Data Science. Roeddwn wrth fy modd yn cwblhau’r ymchwil hon, i’r fath raddau fy mod yn ymchwilio i bwnc tebyg ar gyfer fy ngradd PhD. Ar gyfer fy PhD, byddaf yn archwilio sut mae lleoedd gleision (e.e. yr arfordir, llynnoedd, afonydd) yn effeithio ar ganlyniadau iechyd corfforol, gan adeiladu ar yr wybodaeth a’r sgiliau rwyf wedi’u meithrin o’r blaen er mwyn mynd i’r afael â bwlch allweddol yn ein gwybodaeth am sut gall yr amgylchedd naturiol fod o fudd i iechyd.
Rhagor o wybodaeth am Ollie ac ymchwil y Ganolfan Ymchwil i’r Amgylchedd ac Iechyd (ENVHE).