

Dengys ymchwil newydd y gallai rhoi’r gorau i ysmygu arafu datblygiad clefyd Sglerosis Ymledol (MS).
Mae pawb yn gwybod nad yw ysmygu’n dda i iechyd unigolyn ac mewn astudiaethau blaenorol dangoswyd y gall ysmygu wneud symptomau MS yn waeth. Mae’r gwaith ymchwil hwn, sef yr ymchwiliad annibynnol mwyaf i ysmygu ac MS, yn cadarnhau hyn – mae ysmygu’n achosi i anabledd ddatblygu ymhellach ac i hwyliau waethygu mewn pobl a chanddynt MS. Fodd bynnag, dengys hefyd pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i ysmygu, bydd hynny’n atal y symptomau hynny rhag gwaethygu hefyd.
Mae’r gwaith ymchwil hwn yn amserol gan fod mis Hydref yn dathlu #stoptober sy’n ddigwyddiad blynyddol mawr i annog ysmygwyr i roi’r gorau i ysmygu am 28 niwrnod, gyda’r nod o roi’r gorau i ysmygu am byth.
Cyhoeddwyd y gwaith ymchwil yn y cyfnodolyn niwrowyddoniaeth Brain ac fe’i cynhaliwyd ar ddata gan Gofrestr MS y DU sy’n un o Ganolfannau Rhagoriaeth Gwyddor Data Poblogaethau Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe. Hefyd fe’i cyflwynwyd eleni yng Nghynhadledd Rithwir MS Ewrop ‘ECTRIMS’ ar 14 Hydref.
Diolch i gyfraniad ymroddedig pobl a chanddynt MS sy’n ateb holiaduron ar y Gofrestr MS, porth ar-lein sy’n casglu data am eu MS a’u ffyrdd o fyw, bu modd i’r astudiaeth ystyried ymatebion 7983 o bobl a chanddynt MS. Nid oedd oddeutu 4000 o bobl erioed wedi ysmygu, roedd 1315 o bobl sy’n ysmygu ar hyn o bryd ac oddeutu 2815 o bobl a oedd yn arfer ysmygu yn y gorffennol. Gwnaeth yr ymchwilwyr gymharu sut roedd y sgorau ar gyfer yr holiaduron yn newid dros amser, ynghyd â statws ysmygu presennol neu flaenorol pobl.
Esboniodd Dr Jeff Rodgers, a arweiniodd yr ymchwil, fod yr astudiaeth yn cadarnhau bod y gyfradd ysmygu mewn pobl a chanddynt MS ar yr un lefel â chyfraddau cenedlaethol. Awgryma hyn ei bod yn bosib nad yw pobl a chanddynt MS yn cael eu hannog a’u cefnogi yn ddigonol i roi’r gorau iddo. Wrth gymharu’r cyfraddau ysmygu wedi’u hadrodd gan yr unigolion eu hunain â’r data a dderbyniwyd gan feddygon, roedd y cyfraddau a nodwyd yn uwch ymhlith y bobl a lenwodd yr holiaduron eu hunain. Gallai hynny esbonio i ryw raddau pam nad yw pobl a chanddynt MS yn derbyn cyngor ynghylch rhoi’r gorau i ysmygu – hynny yw gan nad yw’r gweithwyr proffesiynol gofal iechyd yn ymwybodol o bosib am eu statws ysmygu. Yn ogystal mae hyn yn amlygu gwerth casglu data drwy ddulliau hunan-adrodd.
Meddai Dr Jeff Rodgers, Prif Ddadansoddwr ar Brosiect y Gofrestr MS “Bu modd i ni ddangos bod ysmygu’n achosi cynnydd go iawn mewn anabledd ac yn gwaethygu hwyliau pobl a chanddynt MS. Fodd bynnag, rydym hefyd yn dangos pan fydd pobl yn rhoi’r gorau i ysmygu, bydd y gwaethygu hwnnw’n dod i ben hefyd. Mae’n neges bwysig a llawn gobaith i bobl a chanddynt MS.”
Meddai’r Athro Richard Nicholas, Niwrolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Cofrestr MS y DU: “Drwy ddefnyddio Cofrestr MS y DU, bu modd i ni siarad â dros 7000 o bobl sy’n byw gydag MS. Rhoddodd hyn fewnwelediad gwerthfawr i ni i effaith ysmygu ar MS, gan ein helpu i ddod i’r casgliad nad yw hi byth yn rhy hwyr i rywun â’r cyflwr roi’r gorau i ysmygu.
Bydd rhoi’r gorau i ysmygu yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad MS, ond deallaf y gall fod yn hynod heriol i roi’r gorau iddo. Fel arbenigwyr MS, mae’n rhaid i ni barhau i sicrhau bod gan ein cleifion yr holl ffeithiau am y niwed y gall ysmygu ei achosi ac yn hollbwysig, mae’n rhaid i ni sicrhau bod pobl yn gwybod i ble y gallan nhw fynd i gael cefnogaeth hanfodol i’w helpu i roi’r gorau iddo.
Am ragor o wybodaeth am ysmygu ac MS, ewch i: //://www.mssociety.org.uk/care-and-support/everyday-living/smoking-and-ms
BY KATIE TUITE-DALTON, SWANSEA UNIVERSITY