

BYDD GWYDDONWYR O GOLEG Y BRENIN LLUNDAIN A CHRONFA DDATA SAIL YM MHRIFYSGOL ABERTAWE YN GWEITHIO GYDA LLYWODRAETH CYMRU I DDADANSODDI DATA O AP OLRHAIN SYMPTOMAU COVID-19.

Bydd yr ymdrech hon ar y cyd yn defnyddio galluoedd Cronfa Ddata SAIL i hwyluso piblinell data dienw a diogel i ddarparu gwybodaeth o ap olrhain symptomau COVID-19 newydd i’r GIG, gan gefnogi’r ymateb i’r pandemig.
Mae cyfoeth y data yng Nghronfa Ddata SAIL wedi profi i fod yn ddefnyddiol ar gyfer ymchwil ddiweddar a thebyg. Defnyddiwyd y gronfa ddata i ddilysu canlyniadau astudiaeth iechyd anadlol yn 2019, sef ‘Nodi’r bobl sydd yn y perygl mwyaf o gael pwl difrifol o asthma drwy ddefnyddio cofnod gofal iechyd electronig data 1.
Sefydlodd yr astudiaeth algorithm ar gyfer rhagweld pwy allai fod mewn perygl o gael pwl difrifol o asthma a nodi unigolion ar gyfer treial i werthuso cofrestri ‘mewn perygl’ presennol mewn lleoliadau gofal sylfaenol meddygon teulu.
Gellid defnyddio’r algorithm hwn i fod o fudd i’r GIG drwy leihau achosion o dderbyn i ysbytai petai’r unigolion hyn yn cael blaenoriaeth ar gyfer gofal sylfaenol.
Mae dau brif amcan yr Ap Olrhain Symptomau COVID-19 yn anelu at wneud hynny: Nodi ardaloedd perygl uchel yn y wlad a nodi pwy sydd yn y perygl mwyaf drwy ddeall y symptomau sy’n gysylltiedig â chyflyrau iechyd yn well.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
“Mae meddu ar amrywiaeth o dystiolaeth a data yn hanfodol wrth ein helpu i ddatblygu darlun clir o ymddygiad y feirws a sut mae’n effeithio ar fywydau pawb. Yn hanfodol, gall yr ap hwn ein helpu i ragweld mannau lle gallai COVID ymledu’n eang iawn a pharatoi ein gwasanaethau GIG. Rwyf yn gofyn i bawb yng Nghymru lawrlwytho’r ap Olrhain Symptomau COVID newydd, fel y gallwch chi helpu i amddiffyn ein gweithwyr ac achub bywydau. Gyda’n gilydd, gallwn ddatblygu’r darlun gwyddonol gorau a hunanarfogi i frwydro yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn.”
Gobaith y datblygwyr yw y bydd data’r ap olrhain newydd hwn yn helpu’r GIG i gefnogi unigolion sy’n sâl.
CYFEIRIADAU
1Clark A, Stirling S, Price D, et al, P145 Identifying people most at risk of a severe asthma attack using routine electronic healthcare record data, Thorax 2019;74:A170.
Sylw yn y Wasg
//://media.service.gov.wales/news/new-app-launched-to-track-and-trace-coronavirus
//://www.walesonline.co.uk/news/health/coronavirus-covid-symptoms-app-phone-18075865
//://www.governmentcomputing.com/health/news/wales-covid-19-symptom-tracker-app
//://covid.joinzoe.com/post/nhs-wales
//://www.nytimes.com/2020/05/11/health/coronavirus-symptoms-app.html
Postiad Twitter Cysylltiedig
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1249395678868013061
//://twitter.com/PopDataSci_SU/status/1249395678868013061
GAN CHRIS ROBERTS, PRIFYSGOL ABERTAWE
SAIL Databank is one of the nine Centres of Excellence based in Population Data Science at Swansea University Medical School