

Mae adroddiad newydd, dan arweiniad ymchwilwyr yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe, yn cynnig dealltwriaeth werthfawr o brofiadau’r glasoed yng Nghymru.
Mae pryderon yn parhau am y nifer uchel o blant mewn gofal yng Nghymru, lle mae cyfraddau plant sy’n derbyn gofal gan y wladwriaeth ymysg yr uchaf yn y DU.
Defnyddiodd yr astudiaeth hon, gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol, ddata a gedwir ym Manc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw). Gwnaeth y data, sy’n deillio o’r Cyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal a gasglwyd gan Lywodraeth Cymru, archwilio llwybrau mynediad i ofal, sefydlogrwydd lleoliadau a chanlyniadau i blant rhwng 10 ac 17 oed a dderbyniodd ofal am y tro cyntaf rhwng 2007 a 2021.
Prif ganfyddiadau:
- Roedd y niferoedd cyffredinol a aeth i’r system ofal yn sefydlog. Er nad yw cyfanswm y glasoed sy’n mynd i’r system ofal wedi newid yn sylweddol dros ddegawd, mae’r gyfradd wedi gostwng ymhlith pobl ifancach.
- Pobl ifanc rhwng 14 a 15 oed sydd fwyaf tebygol o fynd i’r system ofal. Y grŵp oedran hwn yw’r gyfran fwyaf o newydd-ddyfodiaid bob blwyddyn.
- Mae ethnigrwydd yn adlewyrchu’r boblogaeth ehangach. Mae ethnigrwydd y glasoed sy’n mynd i’r system ofal yn debyg iawn i boblogaeth gyffredinol y glasoed yng Nghymru, a nodwyd bod 84% yn wyn.
- Amrywiadau rhwng awdurdodau lleol. Amrywiodd y cyfraddau rhwng y 22 awdurdod lleol yng Nghymru, a chafwyd y cyfraddau uchaf yn Sir Benfro, Wrecsam a Chaerdydd.
- Trefniadau gwirfoddol sydd fwyaf cyffredin. Aeth mwy na dau o bob tri (68%) ohonynt i’r system ofal drwy gytundebau gwirfoddol lle mae’r rhai hynny sydd â chyfrifoldeb rhiant yn cytuno ar ofal awdurdod lleol, ac aeth 13% drwy orchmynion gofal interim lle rhoddir cyfrifoldeb rhiant dros dro i awdurdod lleol ddiogelu’r plentyn wrth i ragor o waith asesu gael ei wneud.
- Newid mewn llwybrau mynediad. Mae’r adroddiad yn amlygu newid posib mewn llwybrau mynediad, wrth i nifer y trefniadau gwirfoddol ostwng a nifer y gorchmynion gofal interim gynyddu ar ôl 2011/12. Fodd bynnag, mae’n ymddangos bod y duedd hon wedi sefydlogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
- Oedran a llwybrau mynediad. Roedd y glasoed hŷn yn fwy tebygol o fynd i’r system ofal dan drefniadau gwirfoddol, ac roedd y glasoed iau’n fwy tebygol o fod yn destun gorchmynion gofal interim.
- Amrywiadau o ran lleoliadau. O’r rhai hynny a fu’n destun trefniadau gwirfoddol, rhoddwyd 68% ohonynt dan ofal gofalwyr maeth nad oeddent yn perthyn iddynt. Roedd y rhai hynny a fu’n destun gorchymyn gofal interim fwyaf tebygol o gael eu rhoi dan ofal rhieni (34%).
- Patrymau lleoliadau. Roedd cyfraddau uwch o drefniadau gwirfoddol ymhlith y glasoed hŷn, ac roedd y glasoed iau’n fwy tebygol o fynd i’r system ofal dan orchmynion gofal dros dro. Yng Nghaerdydd a De-ddwyrain Cymru roedd cyfraddau uwch o’r glasoed yn mynd i’r system ofal dan drefniadau gwirfoddol a gorchmynion gofal interim.
- Gadael gofal. O’r rhai hynny a adawodd ofal yn ystod cyfnod yr astudiaeth, dychwelodd bron hanner (43%) ohonynt adref i fyw gyda theulu.
- Dychwelyd i’r system ofal. Roedd 23% o’r glasoed wedi dychwelyd i’r system ofal o leiaf unwaith yn ystod cyfnod yr astudiaeth.
- Sefydlogrwydd lleoliadau. Aeth bron hanner y glasoed iau i dri lleoliad neu fwy, ond roedd y glasoed hŷn yn fwy tebygol o fynd i un lleoliad yn unig.
- Trefniadau seibiant. Mae gan ofal seibiant rôl hollbwysig a ddiystyrir yn aml, wrth i gyfran sylweddol bontio i drefniadau gwirfoddol neu orchmynion gofal.
Meddai Laura North, Ymchwilydd y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae ein hadroddiad yn cynnig dealltwriaeth hollbwysig o brofiadau’r glasoed yn y system ofal yng Nghymru, ac mae’n amlygu’r angen mawr i deilwra ymyriadau i ddiwallu anghenion gwahanol y glasoed sy’n derbyn gofal. Drwy ddeall y llwybrau a’r heriau y mae’r bobl ifanc ddiamddiffyn hyn yn eu hwynebu, gallwn lywio polisi ac ymarfer yn well er mwyn atgyfnerthu sefydlogrwydd lleoliadau a sicrhau canlyniadau gwell.”
Ychwanegodd Grace Bailey, Ymchwilydd y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae’n gadarnhaol nad yw’r niferoedd cyffredinol sy’n mynd i’r system ofal wedi newid yn sylweddol, ond mae’r cynnydd yn nifer y gorchmynion gofal interim a’r cyfraddau dychwelyd uchel yn destun pryder. Mae ein canfyddiadau’n amlygu’r angen am ragor o ymchwil, gan gynnwys gwaith ansoddol fel cyfweliadau a grwpiau ffocws, er mwyn deall y tueddiadau hyn yn fwy manwl i wella systemau cymorth ar gyfer y glasoed sy’n derbyn gofal.”
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Mae’r Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol, a ariennir gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, yn gydweithrediad rhwng Prifysgol Caerhirfryn (Canolfan Ymchwil Cyfiawnder Plant a Theuluoedd) a Phrifysgol Abertawe (Gwyddor Data Poblogaethau), ac mae Cafcass a Cafcass Cymru yn rhanddeiliaid hollbwysig.
