

Mae adroddiad newydd a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym maes Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe wedi datgelu mewnwelediadau hanfodol i ffyrdd mynediad, llwybrau a chanlyniadau o ran lleoliadau yn achos y plant ieuengaf oll yn y system ofal yng Nghymru.
Archwiliodd “Born into Care: Entry Routes, Pathways, and Outcomes for the Youngest Children in Wales,” sef adroddiad a luniwyd gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol, y broses o ddefnyddio ffyrdd mynediad gwirfoddol a gorfodol i’r system ofal, gan daflu goleuni ar brofiadau plant newydd-anedig a babanod.
Nod yr adroddiad oedd gwneud y canlynol:
- Mesur nifer y babanod sy’n mynd i’r system ofal yng Nghymru.
- Ystyried sut mae hyn yn amrywio o ardal i ardal a sut mae’n gysylltiedig â thlodi.
- Archwilio pam mae babanod yn cael eu rhoi yn y system ofal.
- Deall sut mae babanod yn symud yn y system ofal.
Canfyddiadau allweddol:
- Cynnydd yn nifer y babanod sydd mewn gofal: Mae mwy o fabanod yn mynd i’r system ofal yng Nghymru, ac roedd plant newydd-anedig yn cynrychioli 38% o’r babanod a aeth i’r system ofal dros gyfnod yr astudiaeth.
- Tueddiadau sy’n gysylltiedig â thlodi: Mae cysylltiad cryf rhwng nifer y babanod sy’n mynd i’r system ofal a lefelau tlodi lleol, ac mae mwy o fabanod yn mynd i’r system ofal mewn ardaloedd sydd â lefel uwch o dlodi.
- Amrywiaeth ethnig:Roedd dadansoddiad o ethnigrwydd y babanod a aeth i’r system ofal yn debyg i ddadansoddiad o ethnigrwydd yr holl fabanod yng Nghymru, ac roedd 88% o’r babanod a aeth i’r system ofal yn wyn.
- Mynediad gwirfoddol yn erbyn mynediad gorfodol: Mae dros hanner y babanod sydd wedi mynd i’r system ofal wedi gwneud hynny’n wirfoddol ar ôl i’w rhieni gytuno, ond dros amser, mae’r nifer hwn wedi lleihau o’i gymharu â nifer y gorchmynion gofal interim, nes iddynt fod yn gyfartal erbyn 2020/21.
- Gwahaniaethau Rhanbarthol: Mae’n well gan awdurdodau lleol a barnwyr teulu dynodedig mewn ardaloedd gwahanol ffyrdd mynediad gwahanol, ac mae’n ymddangos bod dewisiadau’n seiliedig ar arferion lleol yn hytrach nag yn unol ag anghenion y plentyn a’r teulu.
- Newid i Ofal Gorfodol: Mae’r rhan fwyaf (63%) o drefniadau gwirfoddol yn troi’n drefniadau gorfodol o fewn dwy flynedd.
- Ysgogwyr Mynediad Gwirfoddol: Cam-drin neu esgeulustod sy’n peri i 57% o’r babanod gael eu rhoi’n wirfoddol i’r system ofal.
- Gwahanu o’u rhieni: Mae’n gyffredin i fabanod newydd-anedig gael eu gwahanu oddi wrth eu rhieni, heb ystyried eu ffordd o fynd i’r system ofal.
- Lleoliad Gofal Maeth Cychwynnol: I ddechrau, mae’r rhan fwyaf o fabanod yn cael eu rhoi i ofalwyr maeth nad ydynt yn perthyn i’w gilydd; Mae 15% o’r plant sy’n mynd i’r system ofal o dan orchmynion gofal interim yn aros gartref gyda’u rhieni.
- Effaith y ffordd o fynd i’r system ofal: Mae’n ymddangos bod y ffordd o fynd i’r system ofal yn dylanwadu ar y canlyniad o ran lleoliad ar ôl dwy flynedd, ac mae mwy o’r babanod yn aros gyda’u teuluoedd sydd wedi mynd i’r system ofal yn unol â threfniadau gwirfoddol.
- Trefniadau Gwirfoddol Hirdymor Anghyffredin: Mae trefniadau gofal gwirfoddol hirdymor ar gyfer babanod yn anghyffredin.
- Ansefydlogrwydd o ran Lleoliad: Mae babanod, yn enwedig y rhai sy’n iau na chwe mis oed, yn wynebu ansefydlogrwydd sylweddol o ran eu lleoliad, ac mae oddeutu 30% ohonynt yn cael eu rhoi mewn tri neu fwy o leoliadau mewn dwy flynedd.
- Ail-fynediad ar gyfer nifer bach o o achosion: Mae nifer bach iawn o fabanod yn gadael ac yn dychwelyd i’r system ofal o fewn dwy flynedd, sy’n golygu bod angen astudiaethau pellach i ganfod eu canlyniadau hirdymor.
Gwnaeth yr ymchwil gynhwysfawr hon, a gynhaliwyd gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol ac a arweiniwyd gan Brifysgol Abertawe ar y cyd â Phrifysgol Caerhirfryn, ddefnyddio cofnodion plant o Gyfrifiad Plant sy’n Derbyn Gofal Llywodraeth Cymru.
Meddai Dr Laura Cowley, Swyddog Ymchwil a Gwyddonydd Data ym Mhrifysgol Abertawe a’r Prif Ymchwilydd, “Mae’r astudiaeth hon yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr i ddeinameg cymhleth gofal babanod yng Nghymru, gan gynnig sail ar gyfer trafodaethau am bolisïau a gwelliannau posib i’r system lles plant.
Wrth i ni symud ymlaen, gallwn fynd i’r afael â bylchau yn ein dealltwriaeth drwy ddadansoddi data Llywodraeth Cymru am blant sy’n derbyn gofal, a chyfuno astudiaethau data sy’n gysylltiedig â lefel y boblogaeth â mewnwelediadau ansoddol.Mae’r dadansoddiad cychwynnol hwn o’r data am Blant sy’n Derbyn Gofal, sy’n cael ei gynnal a’i gadw gan Fanc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL), yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen yn y system ofal.”
