

Mae’r prosiect Aelwydydd Iach newydd, a ariennir gan ADR UK, ar fin trawsnewid sut mae ymchwilwyr yn dadansoddi data am aelwydydd yn y DU.
Dan arweiniad Dr Richard Fry, Athro’r Amgylchedd ac Iechyd yn yr uned Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe ac arweinydd thematig Ymchwil Data Gweinyddol Cymru, nod y prosiect hwn yw creu set ddata gynhwysfawr sy’n cysylltu data am dai â data gweinyddol ac iechyd ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.
Bydd tîm y prosiect hefyd yn datblygu adnoddau i gefnogi ymchwilwyr sy’n defnyddio’r data hwn. Bydd hyn yn rhoi dealltwriaeth newydd sy’n berthnasol i bolisi o gyfansoddiad aelwydydd a’u hamgylchiadau.
Gall cyfansoddiad aelwydydd effeithio ar ganlyniadau cymdeithasol, economaidd ac iechyd y rhai hynny sy’n byw ynddynt. Yn benodol, mae pandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi amlygu effaith amgylchiadau megis gorboblogi ar iechyd corfforol a meddyliol ac addysg. Fodd bynnag, ar hyn o bryd nid yw’n bosib i ymchwilwyr ddadansoddi aelwydydd mewn setiau data gweinyddol ac iechyd poblogaethau.
Nod y prosiect hwn yw mynd i’r afael â’r her hon gan ddefnyddio rhifau cyfeirnod eiddo unigryw – dynodyddion unigryw a roddir i bob lleoliad hygyrch yn y DU. Mae amgryptio neu godio’r rhifau unigryw hyn yn ffordd ddiogel o gysylltu gwybodaeth ddienw am bobl sy’n rhannu’r un aelwyd, ac o gysylltu’r wybodaeth hon â data arall ar lefel cyfeiriad. Bydd hyn yn hwyluso ymchwil sy’n cydnabod cyfansoddiad ac amgylchiadau aelwydydd unigol wrth ymchwilio i ganlyniadau aelodau’r aelwydydd.
Mae Prifysgol Caeredin, Prifysgol y Frenhines Mary yn Llundain ac Ymddiriedolaeth Elusennol Endeavour Health yn cydweithredu â Phrifysgol Abertawe ar y prosiect hwn. Bydd y prosiect yn dod â ffynonellau data allweddol ynghyd, gan gynnwys data cofrestru cleifion gyda meddygon teulu a data clinigol, rhifau cyfeirnod eiddo unigryw, ynghyd â setiau data am dai sy’n seiliedig ar gyfeiriadau gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio a ddelir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a Chofrestr y Dystysgrif Perfformiad Ynni sydd ar gael i’r cyhoedd.
Meddai’r Athro Richard Fry: “Gall y prosiect hwn gael effaith enfawr. Drwy archwilio amgylchiadau aelwydydd megis gorboblogi a’u cyfansoddiad, gall ymchwilwyr feithrin dealltwriaeth well o’u goblygiadau ar gyfer canlyniadau economaidd-gymdeithasol, ynghyd ag iechyd ac addysg. Bydd cyrff llywodraethol sy’n gweithio gyda sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn elwa o ddealltwriaeth ar lefel aelwydydd, a fydd yn llywio’r gwaith o gynllunio a gwerthuso gwasanaethau.”
Bydd set ddata sy’n barod at ddibenion ymchwil wedi’i chreu gan y prosiect hwn ar gael i ymchwilwyr achrededig gyflwyno cais i gyrchu Banc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) , ochr yn ochr â data synthetig o ogledd-ddwyrain Llundain a dulliau a ddefnyddir yn Hafan Ddiogel Genedlaethol yr Alban. Bydd dulliau o greu uned dadansoddi aelwyd gan ddefnyddio data cofrestru cleifion ar gael ar GitHub i’w defnyddio mewn amgylcheddau ymchwil dibynadwy fel y Gwasanaeth Data Integredig, yn unol â mesurau llywodraethu data.
Ceir rhagor o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am y prosiect hwn drwy fynd i wefan ADR UK.
