

Mae ymchwil sydd newydd ei chyhoeddi yn taflu goleuni ar dueddiadau o ran iechyd a lles plant ysgol gynradd yng Nghymru.
Bu’r astudiaeth gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth yn archwilio newidiadau mewn canlyniadau iechyd a lles ymhlith 36,951 o blant ysgol gynradd yng Nghymru rhwng 2014 a 2022. Dangoswyd dirywiad sylweddol mewn agweddau amrywiol ar iechyd a lles plant dros gyfnod o wyth mlynedd. Canfu’r ymchwil y dechreuodd y dirywiad hwn cyn pandemig COVID-19, sy’n awgrymu bod ei darddiad yn ymestyn y tu hwnt i ddylanwad y pandemig yn unig.
Dadansoddodd yr astudiaeth ddata o arolwg blynyddol gan HAPPEN-Wales, a gasglodd wybodaeth gan dros 600 o ysgolion cynradd yng Nghymru. Cofnododd yr arolwg wybodaeth gan yr ymatebwyr eu hunain am iechyd corfforol, arferion o ran diet, iechyd meddwl a lles cyffredinol plant rhwng 8 ac 11 oed.
Pam mae angen yr ymchwil hon?
Mae profiadau yn ystod plentyndod yn dylanwadu ar gyflawniadau, iechyd meddwl a lles cyffredinol yn ddiweddarach mewn bywyd. Yn ôl astudiaethau blaenorol, mae hanner o broblemau iechyd wedi’u sefydlu erbyn 14 oed, ac mae profiadau yn ystod plentyndod yn effeithio ar ddatblygiad yr ymennydd. Gan ystyried hyn, mae lles plant oed ysgol yn hollbwysig ar gyfer iechyd y genhedlaeth nesaf.
Mae ymchwil fyd-eang ddiweddar yn nodi cynnydd mewn anhwylderau iechyd meddwl plant, gan gynnwys pryder ac iselder ysbryd ac mae hyn yn peri pryder. Yn ogystal, mae iechyd corfforol wedi dirywio, yn seiliedig ar dystiolaeth ar ffurf cyfraddau gordewdra cynyddol a gostyngiad mewn lefelau ffitrwydd.
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio tueddiadau mewn plentyndod, gan archwilio effaith argyfyngau megis y pandemig ar iechyd a lles plant yng Nghymru.
Mae’r canfyddiadau allweddol yn cynnwys:
- Dirywiad mewn Iechyd Corfforol: Mae’r astudiaeth yn datgelu dirywiad mewn iechyd corfforol plant ysgol gynradd, sy’n peri pryder. Mae’r canfyddiadau’n dangos dirywiad sylweddol mewn galluoedd nofio a beicio, gyda 68% yn unig o blant yn dweud eu bod yn gallu nofio yn 2022 o’i chymharu â’r ganran yn 2018, sef 85%.
- Arferion Dietegol Afiach: Mae’r canfyddiadau’n dangos newid tuag at arferion dietegol afiach, gan gynnwys gostyngiad yn swm y ffrwythau a llysiau a chynnydd yn nifer y byrbrydau llawn siwgr mae plant yn eu bwyta.
- Gostyngiad mewn oriau cwsg: Yn 2015, llwyddodd 92% o blant i gysgu am naw awr neu fwy bob nos. Ond erbyn 2022, roedd y ganran honno wedi gostwng i 68% yn unig.
- Cynnydd cyffredinol mewn blinder: Roedd 41% o blant yn teimlo wedi blino am fwy na thri diwrnod yr wythnos yn 2014, canran a arhosodd yn weddol sefydlog tan 2019. Fodd bynnag, o 2019 ymlaen, cafwyd cynnydd sylweddol ac erbyn 2022, roedd canran y plant a oedd wedi blino’n aml wedi cynyddu i 54%. Datgelodd y data fod cysylltiad rhwng nifer y byrbrydau llawn siwgr a oedd yn cael eu bwyta a chynnydd mewn blinder.
- Cynnydd mewn unigrwydd: Ers 2019, cynyddodd canran y plant sy’n teimlo’n unig o 55% i 63% yn 2022, ac mae’r canfyddiadau’n awgrymu cysylltiad rhwng teimlo’n unig a bwyta mwy o fyrbrydau llawn siwgr.
- Cynnydd mewn Problemau Iechyd Meddwl: Gwelwyd cynnydd trawiadol mewn heriau iechyd meddwl, gan gynnwys anawsterau emosiynol ac ymddygiadol. Effeithiodd heriau emosiynol, er enghraifft, ar 13% i 15% o blant yn 2017-2018, gan gynyddu i effeithio ar 29% o blant yn 2021-2022.
- Gostyngiad mewn dangosyddion lles: Gwelwyd tuedd ostyngol mewn dangosyddion lles, ymreolaeth a chymhwysedd, gan amlygu pryder ynghylch dirywiad mewn lles cyffredinol ymhlith plant ysgol gynradd yng Nghymru.
Meddai Johanna Einhorn, y Prif Awdur: “Mae iechyd plant ysgol gynradd yng Nghymru wedi bod yn dirywio ers 2018/2019 ac mae’r dirywiad hwn wedi parhau drwy’r cyfnod adfer ar ôl COVID.
Mae ein hymchwil yn awgrymu bod y tueddiadau hyn sy’n peri pryder o ran iechyd a lles plant wedi dechrau cyn pandemig COVID-19, sy’n awgrymu nad oes modd eu priodoli i effeithiau’r pandemig yn unig.
Mae’n hanfodol cydnabod hefyd y gallai’r pandemig a’r cyfyngiadau a oedd yn cyd-fynd ag ef fod wedi dwysáu’r problemau hyn. Hefyd, mae’n bosib bod heriau gwleidyddol a chymdeithasol ehangach, fel Brexit a’r argyfwng costau byw wedi cymhlethu pethau ymhellach.
Mae ein hastudiaeth yn pwysleisio’r angen brys am ymyriadau a pholisïau i hyrwyddo ffyrdd mwy iach o fyw a chefnogi lles meddyliol a chorfforol plant ledled Cymru.”
