

Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod ymyriadau i addasu’r cartref yn helpu i leihau nifer y bobl hŷn sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng ar ôl cwympo.
Gwnaeth y tîm Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe arwain ymchwil sydd wedi cael ei chyhoeddi yn Age and Ageing (Gwasg Prifysgol Rhydychen); mae’n waith ar y cyd â Phrifysgol Leeds, Gofal a Thrwsio Cymru a Phrifysgol Lerpwl, wedi’i gefnogi gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, Ymddiriedolaeth Feddygol Dunhill, Ymchwil Data Iechyd y Deyrnas Unedig (HDRUK) ac Ymchwil Data Gweinyddol y Deyrnas Unedig (ADR UK).
Mae cwympo’n gyffredin ymhlith pobl hŷn, gyda 30% o’r bobl dros 65 oed a 50% o’r bobl dros 80 oed yn cwympo o leiaf unwaith y flwyddyn. Mae cwympo’n achosi mwy o forbidrwydd a marwolaethau, mae’n achosi pobl i ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yn fwy, ac mae’n bryder sy’n cynyddu. Y gost amcangyfrifedig i’r GIG oherwydd cwympo yw £2.3 biliwn y flwyddyn.
Mae gwasanaethau addasu’r cartref yn enghraifft o ddull sy’n ceisio cefnogi byw gartref yn annibynnol, a lleihau cwympo gartref. Eto, nid oes digon o dystiolaeth o safon i gefnogi comisiynu ehangach. Mae Gofal a Thrwsio Cymru yn elusen genedlaethol yng Nghymru sy’n cefnogi rhwydwaith o asiantaethau Gofal a Thrwsio Cymru ar draws Cymru gyfan. Mae Gofal a Thrwsio Cymru’n darparu gwaith addasu’r cartref, ymyriadau diogelwch yn y cartref a chyngor er mwyn galluogi pobl hŷn i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Gwnaeth yr astudiaeth hon gysylltu data gweinyddol, daearyddol, data Gofal a Thrwsio Cymru a data o gofnodion iechyd electronig, ym Manc Data SAIL (Cyswllt Diogel Gwybodaeth Ddienw) er mwyn archwilio canlyniadau cwympo ar ôl ymyriadau i addasu’r cartref. Yr amcanion allweddol oedd i benderfynu a oedd ymyriadau i addasu’r cartref wedi’u cynnal gan Gofal a Thrwsio Cymru wedi arwain at leihau derbyniadau i’r ysbyty mewn argyfwng oherwydd cwympo, ac archwilio a oedd gwahaniaethau yn y risg o gwympo ar sail ardal.
Roedd yr ymchwil yn cynnwys 657,536 o unigolion dros 60 oed a oedd yn byw yng Nghymru (y Deyrnas Unedig) rhwng 1 Ionawr 2010 a 31 Rhagfyr 2017, yr oedd 123,729 ohonynt wedi cael gwasanaeth addasu’r cartref.
Y Prif Ganfyddiadau
- O’u cymharu â’r grŵp rheoli (nad oedd wedi derbyn ymyriadau), roedd cleientiaid Gofal a Thrwsio Cymru’n fwy tebygol o gwympo – mae hyn yn nodi bod Gofal a Thrwsio Cymru’n targedu’n llwyddiannus is-boblogaeth o oedolion hŷn sy’n fwy agored i niwed.
- Gwnaeth addasiadau/ymyriadau Gofal a Thrwsio Cymru mewn cartrefi pobl hŷn leihau’r tebygolrwydd o gwympo.
- Roedd menywod yn fwy tebygol o gwympo.
- Roedd henaint yn cynyddu’r tebygolrwydd o gwympo.
- Roedd pobl a oedd yn byw mewn ardaloedd difreintiedig yn fwy tebygol o gwympo.
- Roedd difrifoldeb eiddilwch uwch yn gysylltiedig â thebygolrwydd uwch o gwympo.
Tystiolaeth i gefnogi comisiynu ehangach
Nododd Gofal a Thrwsio Cymru bobl a oedd yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty mewn argyfwng ar ôl cwympo gartref, a gwnaeth ei wasanaeth leihau’r tebygolrwydd o gwympo ar ôl ymyriad. Argymhellodd yr astudiaeth y dylai darparu gwasanaethau ddiwallu anghenion unigolion, ac mae’r angen yn amrywio ar sail amgylchiadau personol a rhanbarthol.
Dywedodd Dr Joe Hollinghurst, Prifysgol Abertawe: “Mae’r prosiect hwn wedi bod yn enghraifft wych o’r ffordd y gellir defnyddio Banc Data SAIL er budd y cyhoedd. Gan weithio ar y cyd â Gofal a Thrwsio Cymru, roeddem ni’n gallu cysylltu’n ddienw ddata ynghylch addasiadau i’r cartref â chofnodion demograffig, iechyd a gweinyddol am fwy na 100,000 o bobl hŷn yng Nghymru. Gwnaeth hyn ein galluogi i ddarparu tystiolaeth feintiol gadarn ynghylch y buddion y mae Gofal a Thrwsio Cymru yn eu darparu, a fydd yn helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau polisi a chyllido.”
Ychwanegodd Neil Williams, Gofal a Thrwsio Cymru a Chadeirydd y Dasglu Genedlaethol Gofal Iechyd Darbodus i Atal Cwympo:
“Rydym ni’n croesawu canfyddiadau’r ymchwil o’r prosiect hwn oherwydd eu bod yn darparu tystiolaeth ategol arwyddocaol ar gyfer ein gwaith ledled Cymru wrth gadw pobl hŷn yn ddiogel, yn dwym ac yn byw bywydau annibynnol. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn nodi y bydd mwy na 132,000 o bobl hŷn yn cwympo mwy nag unwaith yn eu cartref eu hunain eleni, gyda chostau cysylltiedig posibl i wasanaethau acíwt y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol. Mae tystiolaeth yn hollbwysig i’r Llywodraeth ac i Gomisiynwyr wrth iddynt benderfynu sut i fuddsoddi. Bydd y miloedd o bobl hŷn rydym ni’n eu helpu, a’r rhai niferus rydym ni’n eu cefnogi i ddychwelyd adref o’r ysbyty neu osgoi mynd i aros yno, yn croesawu cefnogaeth y dystiolaeth hon ar gyfer y gwasanaethau sydd wedi helpu i drawsnewid eu bywydau.”

Darllenwch y cyhoeddiad cyflawn yma: //://academic.oup.com/ageing/advance-article/doi/10.1093/ageing/afab201/6399893