

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn BMC Infectious Diseases yn datgelu bod menywod iau, y rhai hynny heb amlafiechedd (dau neu fwy o gyflyrau cronig), ysmygwyr neu gyn-ysmygwyr a’r rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd o amddifadedd yn llai tebygol o dderbyn brechlyn COVID-19 yn ystod beichiogrwydd.
Gwnaeth yr astudiaeth gan dîm Ganwyd yng Nghymru, sy’n rhan o’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Lles y Boblogaeth, ddadansoddi data gan 25,111 o fenywod beichiog yng Nghymru rhwng 13 Ebrill a 31 Rhagfyr, 2021.
Defnyddiodd yr astudiaeth garfan hon ddata cysylltiedig dienw ar lefel unigolyn a gesglir yn rheolaidd ar raddfa y boblogaeth ym Manc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL). Canolbwyntiodd yr ymchwil ar dri ffactor risg sylweddol sef amlafiechedd, statws ysmygu a beichiogrwydd, mewn cysylltiad â chanlyniadau mwy difrifol yn dilyn haint COVID-19. Nod yr astudiaeth oedd archwilio sut y gwnaeth y ffactorau hyn, ochr yn ochr â ffactorau demograffig megis oedran, grŵp ethnig ac ardal o amddifadedd, ddylanwadu ar amharodrwydd i gael y brechlyn ymhlith menywod beichiog yng Nghymru.
Prif Ganfyddiadau
- Roedd y menywod hynny a chanddynt amlafiechedd 1.12 o weithiau’n fwy tebygol o gael y brechlyn.
- Roedd nifer llawer llai o ysmygwyr a chyn-ysmygwyr yn debygol o gael y brechlyn.
- Ar ben hynny, roedd menywod beichiog yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig hefyd yn llai tebygol o gael y brechlyn.
- Roedd menywod dros 30 oed neu’n hŷn yn fwy tebygol o gael y brechlyn yn ystod beichiogrwydd.
- Roedd menywod a chanddynt iselder yn llawer mwy tebygol o gael y brechlyn na’r rhai hynny heb iselder.
Meddai Mohamed Mhereeg sy’n un o Ymchwilwyr Ganwyd yng Nghymru:
“Mae ein hastudiaeth yn darparu mewnwelediadau gwerthfawr o ran pam y gallai rhai menywod beichiog fod yn amharod i dderbyn brechlyn COVID-19 ”.
Mae’n hanfodol bod strategaethau’n cael eu teilwra a’u datblygu er mwyn cynyddu cyfraddau derbyn brechlyn COVID-19 a lleihau amharodrwydd i’w dderbyn.
Gallai ymagwedd fwy penodol fod yn ofynnol er mwyn cyrraedd grwpiau penodol megis pobl iau, ysmygwyr a chyn-ysmygwyr, unigolion iach a’r rhai hynny sy’n byw mewn ardaloedd â lefelau uwch o amddifadedd. Trwy wneud hynny, gallwn ni ddiogelu mamau beichiog a’u babanod newydd-anedig yn ystod y pandemig sy’n parhau mewn ffordd lawer gwell.”
Darllenwch y cyhoeddiad llawn yma.
Ariennir y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Llesiant y Boblogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.
