

Fy Mhrofiad Cymru yw’r arolwg cenedlaethol newydd a ddatblygwyd gan y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil ar Iechyd a Llesiant y Boblogaeth, wedi ei gefnogi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae’r arolwg wedi ei greu er mwyn i bobl ifanc rhwng 16 a 18 mlwydd oed sy’n byw yng Nghymru allu rhannu eu profiadau, a fydd yn helpu i wella dealltwriaeth o ba gymorth a chefnogaeth fyddai’n fwyaf defnyddiol i bobl ifanc.
Mae profiadau pobl ifanc a’r cymorth y maent yn ei dderbyn wrth ddelio â phrofiadau anodd yn gallu effeithio ar eu hiechyd hirdymor, yn gorfforol ac yn feddyliol.
Mae byw mewn trallod yn gallu effeithio ar bobl ifanc wrth iddynt dyfu ac fel oedolion. Mae ymchwil wedi dangos bod Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, megis cam-drin domestig neu brofiad o blentyndod ble mae un rhiant yn y carchar, yn darogan ystod o ganlyniadau andwyol, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Mae hyd at hanner oedolion Cymru wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod hanner yr oedolion wedi profi o leiaf un Profiad Niweidiol yn ystod Plentyndod, a bod 14% wedi profi pedwar neu fwy. Mae’r arolwg yn holi cyfranogwyr ynglŷn â’u profiadau, beth oedd o gymorth neu a allai fod wedi bod o gymorth, a gwybodaeth gefndirol arall er mwyn creu darlun o’r hyn sydd ei angen yng Nghymru.
Rhan o brosiect newydd sydd â’r nod o amddiffyn pobl ifanc
Mae’r arolwg yn rhan o brosiect newydd sydd â’r nod o amddiffyn pobl ifanc yng Nghymru sy’n byw mewn trallod. Bydd y prosiect hefyd yn:
- Creu storfa o dystiolaeth ‘Beth sy’n gweithio’ gan goladu tystiolaeth gyhoeddedig ynghylch ymyriadau sy’n amddiffyn pobl ifanc rhag effeithiau andwyol Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod.
- Datblygu panel gweithredu pobl ifanc er mwyn datblygu’r awgrymiadau a’r argymhellion sy’n deillio o’r arolwg, grwpiau ffocws ac elusennau.
- Sefydlu platfform monitro gan ddefnyddio data arferol cysylltiedig i ganfod newidiadau ac amrywiaethau mewn canlyniadau ar gyfer plant sy’n byw mewn trallod. Gellir defnyddio’r platfform hwn i archwilio canlyniadau addysg ac iechyd meddwl. Bydd y platfform yn cyfrannu at ddatblygu ymyriadau yn y dyfodol ac yn cynnig ffordd o werthuso effaith yr ymyriadau sydd ar waith yng Nghymru.
Dywed Flo Avery, Ymgeisydd PhD yng Nghanolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Mae rhoi pobl ifanc wrth wraidd y prosiect hwn yn hynod bwysig, er mwyn i ni allu defnyddio canlyniadau’r astudiaeth i ddylunio a llywio polisïau ac ymyriadau i gefnogi pobl ifanc yng Nghymru yn well. Pobl ifanc yw’r dyfodol, a gall ymyriadau gwell ar gyfer y grŵp hwn wella canlyniadau’r genhedlaeth nesaf gan dorri’r cylch o brofiadau niweidiol.
Rydym yn gobeithio cyrraedd cynifer o bobl ifanc rhwng 16 ac 18 mlwydd oed ag sy’n bosib er mwyn cael y darlun llawnach posibl o’r hyn sy’n gweithio i bobl ifanc sy’n byw mewn trallod yng Nghymru.Mae rhoi cymorth i bobl ifanc i ddelio gyda’u profiadau anodd yn dasg allweddol i iechyd cyhoeddus a chyfiawnder cymdeithasol.”
Dywed yr Athro Sinead Brophy, Arweinydd y Prosiect a Chyfarwyddwr Canolfan Iechyd y Boblogaeth:
“Mae’r arolwg ‘Fy Mhrofiad Cymru’ yn rhan hanfodol o’r prosiect hwn a bydd yn galluogi’n tîm ni i gasglu atebion ac argymhellion gan bobl ifanc sydd wedi byw mewn trallod.
Bydd y prosiect yn datblygu’r isadeiledd i amddiffyn a chefnogi pobl ifanc ac mae’n rhan o strategaeth hir dymor i leihau niwed i grwpiau sydd dan anfantais trwy ymyriadau amserol.”
Am ragor o wybodaeth, ewch i dudalen Arolwg Fy Mhrofiad Cymru.