

Nododd y data hefyd lefelau uchel o ddiagnosis iechyd meddwl ymysg y grŵp hwn mewn astudiaeth gan y Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluoedd yn defnyddio Banc Data SAIL.
Mae nifer y bobl ifanc 10 i 17 oed sy’n destun achosion gofal yng Nghymru wedi cynyddu 47% yn y degawd diwethaf, gan godi’n gyflymach nag unrhyw grŵp arall o blant.
Yn ôl dadansoddiad data newydd a gyhoeddwyd heddiw gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield, cynyddodd nifer y bobl ifanc sy’n destun achosion gofal o 219 i 323 rhwng 2011/12 a 2019/20.
Mae’r cynnydd yn cynrychioli newid sylweddol yn ystod oedran y plant sy’n dod gerbron y llys teulu ac yn gofyn cwestiynau am ba mor barod yw’r system i ddiwallu eu hanghenion. Ddegawd yn ôl, roedd y glasoed yn cynrychioli 18% yn unig o’r holl blant mewn achosion gofal yng Nghymru; roedd hyn wedi cynyddu i 23% erbyn 2019/2020.
Ardal Caerdydd a de-ddwyrain Cymru oedd â’r cyfraddau uchaf o bobl ifanc mewn achosion, ac yna gogledd Cymru. Abertawe a de-orllewin Cymru oedd â’r nifer leiaf o bell ffordd – bron hanner yr hyn a oedd gan Gaerdydd a de-ddwyrain Cymru.
O gofnodion iechyd Cymru, roedd ymchwilwyr hefyd yn gallu datgelu gwahaniaethau nodedig rhwng pobl ifanc yn y boblogaeth gyffredinol a’r rhai mewn achosion gofal. Roedd gan y grŵp olaf ddefnydd uwch o ofal iechyd sylfaenol ac eilaidd, gan gynnwys gofal ar ôl damwain a gofal brys. Roedd ychydig dros hanner y rhai mewn achosion hefyd â chofnod o o anhwylderau iechyd meddwl gan eu meddyg teulu, o’u cymharu â thraean o’u cyfoedion. Roedd cyfraddau derbyn i’r ysbyty a’r adran damweiniau ac achosion brys ar gyfer anhwylderau iechyd meddwl, anafiadau, a chyflyrau sy’n ymwneud â gwenwyno hefyd yn llawer uwch.
Cynhaliwyd ymchwil gan Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield gyda’r Bartneriaeth Data Cyfiawnder Teuluol (tîm ym Mhrifysgol Caerhirfryn a Phrifysgol Abertawe), gan ddefnyddio data iechyd a chyfiawnder teuluol a gedwir yn ddiogel ym Manc Data SAIL ym Mhrifysgol Abertawe.
Meddai Dr Lucy Griffiths, Uwch-ddarlithydd Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe:
“Drwy gysylltu data iechyd a chyfiawnder teuluol ar lefel y boblogaeth ym Manc Data SAIL, mae’r ymchwil hon yn dangos natur fregus iechyd plant hŷn a phobl ifanc sy’n rhan o achosion gofal.
“Er bod angen cynnal mwy o waith i ddeall cefndir y cyfraddau uchel o ddiagnosis iechyd meddwl rydym wedi’u canfod a difrifoldeb ac achosion anafiadau, mae’r astudiaeth hon yn amlygu’r angen am ddarpariaeth well o gymorth gofal iechyd a chymdeithasol a gydlynir i bobl ifanc mewn perygl o ddod yn destun achosion gofal”.
Meddai Lisa Harker, Cyfarwyddwr Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield:
“Mae plant hŷn yn dod i mewn i achosion gofal gyda set unigryw o wendidau, yn aml wedi’u hachosi gan ansefydlogrwydd hirdymor ynghyd â niwed o’r tu allan i’r cartref.
“Ar gyfer y systemau amddiffyn plant a chyfiawnder teuluol – sydd wedi tan yn ddiweddar, canolbwyntio ar ddiogelu plant iau a deall risgiau o fewn cartref y teulu yn hytrach na’r tu allan iddo – mae hyn yn golygu gorfod ailfeddwl yn llwyr yr opsiynau sydd ar gael i weithwyr proffesiynol i ddiwallu anghenion y bobl ifanc hyn”.