

BYDD Y PLATFFORM DATA IECHYD MEDDWL POBL IFANC (ADP) YM MHRIFYSGOL ABERTAWE’N GWEITHIO MEWN PARTNERIAETH Â PHRIFYSGOL CAERDYDD AR GANOLFAN YMCHWIL IECHYD MEDDWL POBL IFANC NEWYDD GWERTH £10 MILIWN, SYDD WEDI’I HARIANNU GAN ELUSEN O BWYS YN Y DU, THE WOLFSON FOUNDATION.
Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc yn canolbwyntio ar ddeall a datblygu ffyrdd newydd o leihau gorbryder ac iselder ymhlith pobl ifanc.
Bydd Canolfan Wolfson ar gyfer Iechyd Meddwl Pobl Ifanc, a gaiff ei lleoli ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn gweithio gyda Phrifysgol Abertawe, yn ganolfan ymchwil ryngddisgyblaethol lle bydd arbenigwyr o Brifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cydweithio â Llywodraeth Cymru, GIG Cymru, Byrddau Iechyd Prifysgolion ac ysgolion ledled Cymru.
Dywedodd yr Athro Ann John o Brifysgol Abertawe: “Mae Canolfan Wolfson yn rhoi pwyslais o’r newydd ar ymdrechion ymchwil er mwyn deall a thrawsnewid bywydau plant a phobl ifanc sy’n dioddef o orbryder ac iselder.
“Yn seiliedig ar ragoriaeth ymchwil aml-ddisgyblaethol a phartneriaeth gref rhwng Prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn y maes, bydd yn ganolbwynt byd-eang ar gyfer hwyluso ymchwil a chynyddu momentwm yn y maes. Y nod fydd mynd i’r afael â materion hanesyddol sydd wedi arwain at fylchau o ran triniaethau ac atal yn ogystal â’r anghydraddoldebau ym mywydau’r rhai sydd â gorbryder ac iselder yng Nghymru a thu hwnt.”
Darllenwch fwy am y Ganolfan newydd ar wefan Prifysgol Abertawe.