

9 – 11 Rhagfyr
Coleg Cerdd a Drama Frenhinol Cymru
Ffocws ar y Gynhadledd – Data Cyhoeddus er Lles y Cyhoedd
Mae defnyddio data gweinyddol a’r gallu i gysylltu cofnodion ar lefel unigol i gynhyrchu mewnwelediadau ar sail tystiolaeth empirig yn cyflawni newid cadarnhaol er lles y cyhoedd drwy lunio polisïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Mae argaeledd cynyddol data’r llywodraeth at ddibenion ymchwil yn duedd bwysig sy’n galluogi gwyddor data poblogaeth i dreiddio’n ddyfnach nag erioed o’r blaen i faterion cymdeithasol ac economaidd. Fodd bynnag, mae’r defnydd o’r adnoddau data enfawr hyn yn ei ddyddiau cynnar o hyd ac mae heriau sylweddol i’w goresgyn.
Eleni, bydd y Bedwaredd Gynhadledd Ymchwil Data Gweinyddol yn ceisio mynd i’r afael â’r heriau hyn â’r nod o leihau’r bwlch rhwng damcaniaeth ac ymarfer.
Ewch i wefan y Gynhadledd Ymchwil Data Gweinyddol am ragor o fanylion