

Mae Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei Banc Data SAIL byd-enwog.
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod y cyfraniad at wyddor data poblogaethau a wnaed gan y tîm arbenigol yn ei banc data o fri rhyngwladol, sef SAIL.
Mae gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a gwyddonwyr data bellach yn gallu cynnal ymchwil gadarn drwy ddefnyddio data cynhwysfawr SAIL am boblogaethau Cymru a’r DU. Mae SAIL (Banc Data Cysylltu Gwybodaeth Ddienw’n Ddiogel) yn rhan o Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y Brifysgol ac mae’n dod â data o sawl ffynhonnell ynghyd, cyn ei gysylltu a’i ddadansoddi, er mwyn cyflwyno dealltwriaeth o boblogaethau i lywodraethau a llunwyr polisi.
Dyfernir y gwobrau, a gyflwynwyd am y tro cyntaf ym 1994, bob dwy flynedd ac maent yn cydnabod gwaith rhagorol gan golegau a phrifysgolion yn y DU sy’n dangos rhagoriaeth ac arloesedd ac sy’n darparu budd go iawn i’r byd ehangach.
Ar ôl i’r enillwyr gael eu cyhoeddi’n swyddogol ym Mhalas Sant Iago, caiff y gwobrau eu cyflwyno mewn seremoni ffurfiol ym mis Chwefror y flwyddyn nesaf.
Yn dilyn ei llwyddiant yn 2021 pan ddyfarnwyd y wobr i brosiect SPECIFIC, mae’r Brifysgol bellach yn ymuno â grŵp bach iawn o sefydliadau sydd wedi ennill y wobr ddwywaith yn olynol.
Meddai’r Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe: “Rydyn ni wrth ein boddau bod Prifysgol Abertawe unwaith eto wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines, yr anrhydedd cenedlaethol mwyaf i addysg bellach ac addysg uwch yn y DU. Mae’r wobr eleni’n cydnabod cyfraniad rhagorol Banc Data SAIL at faes gwyddor data, ac effaith sylweddol ei waith wrth helpu i wneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth.
“Roedd hi’n anrhydedd i’n Prifysgol ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines yn 2021. Mae ennill ail wobr eleni – mewn rowndiau cyflwyno olynol – yn gyflawniad prin ac anhygoel, sy’n amlygu budd sylweddol ein hymchwil a’n gweithgarwch arloesi o’r radd flaenaf i’r cyhoedd.”
Yn ystod y 15 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu, mae cyflawniadau SAIL yn cynnwys:
- Cyflawni ymchwil eang iawn i Covid-19 ac ymateb yn gyflym i gyflwyno gwybodaeth a oedd yn seiliedig ar ddata i lywodraethau Cymru a’r DU;
- Gweithredu fel y system genedlaethol ar gyfer cysylltu data a mynediad at yr holl ddata cyhoeddus yng Nghymru, gan guradu data’n ddiogel o bob sector a mwy na 500 o sefydliadau;
- Darparu gwasanaethau cysylltu a chronni data ar gyfer llawer o fentrau byd-eang, gan gynnwys data a rennir o fwy na 30 o wledydd i gefnogi menter ICODA (International COVID-19 Data Alliance); ac
- Atgyfnerthu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llunwyr polisi sy’n eu helpu i ddeall y perthnasoedd rhwng y gwasanaethau a ddarperir ganddynt er mwyn gwella bywydau pobl.
Ychwanegodd yr Athro Ronan Lyons, ei gyd-gyfarwyddwr: “Rwy’n hynod falch bod gwaith tîm gwych SAIL wedi cael ei gydnabod drwy’r wobr hon. Mae SAIL wir yn fenter gwyddoniaeth ar y cyd sy’n galluogi’r byd academaidd, y GIG, llawer o sefydliadau yn y sector cyhoeddus ac aelodau’r cyhoedd i gydweithredu i astudio llawer o faterion sydd o bwys i boblogaethau yng Nghymru ac yn fyd-eang.”
Meddai’r Athro David Ford, cyd-gyfarwyddwr Banc Data SAIL: “Ers i ni sefydlu Banc Data SAIL fwy na 15 mlynedd yn ôl, rydym wedi gweithio gyda miloedd o ymchwilwyr a channoedd lawer o brosiectau ymchwil. Fodd bynnag, ni wnaethom ddychmygu y byddai galw arnom i chwarae rhan wrth fynd i’r afael ag argyfwng byd-eang ar raddfa COVID-19. Rydym felly wrth ein bodd bod ymdrechion enfawr tîm SAIL a byddin ymroddedig o gydweithwyr ar draws y GIG, y llywodraeth a’r byd academaidd, wedi’u cydnabod gan y wobr hon. Efallai mai’r Wobr am ein gwaith ar COVID-19 yw’r wobr fwyaf mawreddog yr ydym erioed wedi’i hennill. Heb os, mae’n gyflawniad gwych – roedd y gystadleuaeth o bob rhan o’r DU yn hynod o gryf. Tra bod Banc Data SAIL yn ganolbwynt i’r wobr hon, roedd y llwyddiant wrth gwrs oherwydd bod cymaint o bobl yn gweithio gyda’i gilydd o dan ymbarél ‘Cymru’n Un’. Dylai pawb yn y Gwyddor Data Poblogaeth, GIG Cymru a Llywodraeth Cymru a chwaraeodd ran, ni waeth pa mor fawr neu fach, deimlo’n haeddiannol falch.”
Arllenwch y cyhoeddiad ar Wefan Gwobr Pen-blwydd y Frenhines – Swansea University – Harnessing public data to improve population health and wellbeing.
