

30 Hydref – 1 Tachwedd 2019
Datgloi dementia gyda phŵer arloesol

Yr Adeilad Gwyddor Data, Singleton Campws, Prifysgol Abertawe
Cydweithiwch gyda chyd-wyddonwyr data ac ymchwilwyr dementia mewn datathon DPUK – sef digwyddiad tri diwrnod o hyd rhad ac am ddim sy’n rhoi hwb i astudiaethau dementia arloesol. Mae nifer y mannau yn gyfyngedig.
Gydag arbenigwyr data y mae’r allwedd i un o heriau iechyd mwyaf yr oes sydd ohoni. Trwy ddod â meddylwyr creadigol ynghyd o gefndiroedd amrywiol mewn digwyddiad ‘hacathon’ hynod ffocysedig, bydd ein datathon DPUK blaenllaw yn Abertawe yn cynnwys gwyddonwyr data yn dod â thechnegau ystadegol traddodiadol a dysgu peiriant ynghyd ar gyfer dementia. Mae datathon Abertawe yn bartneriaeth rhwng Sefydliad Alan Turing, Ymchwil Alzheimer y DU, Prifysgol Abertawe a DPUK.
Ymgeisiwch yn awr ar gyfer y digwyddiad ‘hacathon’ rhad ac am ddim. Mae’r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio am 9am ar 11 Hydref.