

Mae ymchwil yn dangos bod plant iachach a hapusach yn gwneud yn well yn yr ysgol a bod addysg yn bwysig wrth bennu iechyd y dyfodol.
Ond nid gwersi mewn ystafell ddosbarth yw addysg. Mae’r awyr agored yn annog datblygu sgiliau fel datrys problemau a phwyso a mesur risgiau sy’n bwysig ar gyfer datblygiad plant
Ond mae cyfleoedd i blant fynd allan i’r amgylchedd naturiol yn lleihau. Mae plant yn treulio llai o amser yn yr awyr agored oherwydd pryderon am ddiogelwch, traffig, troseddu a phryderon rhieni. Mae mannau gwyrdd wedi crebachu mewn amgylcheddau modern ac, ar yr un pryd, mae technoleg wedi cynyddu’r amser mae plant yn treulio’n eistedd. Am y rhesymau hyn a mwy, mae llawer o’r farn y gall fod gan ysgolion y potensial – a’r cyfrifoldeb – mwyaf i sicrhau bod plant yn cael mynediad i amgylcheddau naturiol.
Fodd bynnag, mae hyn yn ehangach na gwella amserau egwyl a gwersi AG. Ledled y DU, mae athrawon yn rhoi cyfle i blant fynd i’r awyr agored drwy roi gwersi ar sail y cwricwlwm yn nhiroedd yr ysgol neu mewn ardaloedd lleol.
Cliciwch yma i ddarllen yr erthygl lawn gafodd ei chyhoeddi yn The Conversation…