

BYDD PRIFYSGOL ABERTAWE’N CHWARAE RÔL ALLWEDDOL YN UN O SAITH HYB DATA NEWYDD YN Y DU SY’N YMRODDEDIG I GYFLYMU YMCHWIL I GREU MEDDYGINIAETHAU, TRINIAETHAU A THECHNOLEGAU ACHUB BYWYD NEWYDD.
Caiff yr hybiau, a fydd yn galluogi ymchwil arloesol ym maes darganfyddiadau iechyd ac yn ceisio sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn gynt, eu cyflwyno ar draws y DU y mis nesaf.

Mae’r hybiau hyn, sy’n cael eu harwain gan Ymchwil Data Iechyd y DU, yn gobeithio gwella bywydau pobl â chyflyrau gwanychol, a byddant yn cysylltu gwahanol fathau o ddata iechyd, gan eu gwneud yn fwy hygyrch ac yn haws i ymchwilwyr eu defnyddio, gan sicrhau bod rheolyddion llym ar waith o ran preifatrwydd data a chydsyniad.
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn bartner yn BREATHE – Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol. Gyda’r Athro Aziz Sheikh o Brifysgol Caeredin wrth y llyw, bydd yn canolbwyntio ar gyflyrau anadlol, megis asthma a chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).
Meddai’r Athro David Ford, Cyfarwyddwr Banc Data SAIL yn yr Ysgol Feddygaeth a Phrif Wyddonydd Data BREATHE: “Drwy weithio gydag arbenigwyr ym maes ymchwil anadlu ledled y DU, byddwn yn sicrhau newid sylweddol yng nghyflymder a graddfa’r ymchwil sy’n bosib, drwy sicrhau bod adnoddau data perthnasol y DU yn gynt, yn haws ac yn fwy diogel eu defnyddio, drwy fanteisio ar dîm a systemau sefydledig Banc Data SAIL.
“Rydym hefyd yn edrych ymlaen at fod yn rhan o deulu newydd yr Hybiau Data Ymchwil Iechyd a chydweithio i gysoni a symleiddio mynediad at ddata iechyd ar draws y sbectrwm ymchwil.”
Bydd yr hybiau yn caniatáu i gleifion, ymchwilwyr a chlinigwyr weithio gyda’i gilydd i archwilio defnydd diogel a moesegol o ddata iechyd at ddibenion ymchwil i glefydau penodol.
Yn ogystal â chyflyrau anadlol, byddant yn canolbwyntio ar ganser, iechyd llygaid, clefyd llid y coluddyn, gofal acíwt, treialon clinigol, a defnyddio data’r byd go iawn. Byddant hefyd yn galluogi mynediad at ddata ar gyfer treialu triniaethau newydd a chefnogi gwelliannau mewn gofal clinigol.
Bydd cleifion yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau ynghylch sut caiff eu data ei ddefnyddio er mwyn sicrhau buddion i’r GIG a chymuned ehangach y DU, a bydd y rheolau presennol ynghylch cyrchu data yn ddiogel yn parhau i fod yn gymwys.
Mae’r Hybiau Ymchwil Data Iechyd yn rhan o fuddsoddiad gwerth £37 miliwn dros bedair blynedd gan Gronfa Her Strategaeth Ddiwydiannol (ISCF) Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2017, ac sy’n cael eu harwain gan Ymchwil ac Arloesi yn y DU, i greu system ar draws y DU ar gyfer defnyddio data iechyd ar raddfa fawr yn ddiogel ac yn gyfrifol. Bydd yr hybiau hefyd yn ysgogi twf economaidd pellach drwy gynyddu gweithgarwch ymchwil.
Meddai Pennaeth Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, yr Athro Keith Lloyd: “Rydym wrth ein boddau bod Abertawe wedi cael ei dewis i chwarae rôl allweddol mewn datblygiad mor bwysig a chyffrous.
“Mae buddion posib yr hybiau hyn yn cynnwys diagnosis cynharach, datblygu triniaethau mwy effeithiol a rheoli’r GIG yn fwy effeithlon, y gall pob un ohonynt helpu ein cleifion i fyw bywydau hirach ac iachach.”
Ewch i wefan HDRUK i ddarllen ei ddatganiad llawn i’r wasg – Canolfannau ymchwil data arloesol i alluogi arloesi ac ymchwil blaengar er budd cleifion yn y DU
Gallwch weld y saith Hyb Ymchwil Data Iechyd ar y map rhyngweithiol hwn.