

MAE GRŴP O FYFYRWYR SYDD AR EU FFORDD I YRFAOEDD MEWN GWYDDOR DATA POBLOGAETH WEDI CAEL EU CYMERADWYO MEWN DIGWYDDIAD ARDDANGOS.
Daeth 14 myfyriwr ar wahanol gamau o’u haddysg israddedig ac ôl-raddedig ynghyd i gymryd rhan yn y rhaglen Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth dros yr haf, wedi’i lleoli yn yr Adeilad Gwyddor Data, Prifysgol Abertawe.
Croesawodd yr interniaeth gyflogedig 12 wythnos o hyd fyfyrwyr o gyrsiau gan gynnwys BSc a MSc Cyfrifiadureg, BSc a MSc Mathemateg, BSc Peirianneg Meddalwedd, BSc Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, BSc Biocemeg a Geneteg, a MSc Cyllid a Dadansoddeg Data Mawr.

Mae’r rhaglen i interniaid wedi bod ar waith ers pedair blynedd ac mae’n agored i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Rhoddodd y lleoliad gyfle i fyfyrwyr weithio ar ofynion yn y byd go iawn fel rhan o faes aml-ddisgyblaethol, gyda rolau gan gynnwys ymchwil, technoleg a datblygu, methodolegol a meysydd eraill, sy’n ceisio cydweddu at eu sgiliau a’u profiad a enillir wrth astudio ac adeiladu arnynt. Ar ddiwedd yr interniaeth, gwahoddir myfyrwyr i arddangos eu gwaith yn ein digwyddiad Arddangosfa Haf.
Roedd y digwyddiad arddangos, a gynhaliwyd ar 30 Awst, yn cynnwys arddangosfeydd oedd yn dangos cyrhaeddiad eang a natur traws-ddisgyblaethol y rhaglen i interniaid. Roedd y prosiectau’n rhoi cipolwg ar yr amrywiaeth eang o weithgareddau a’r gwaith a gyflawnwyd, a rhoddwyd gwobrau am y cyflwyniadau.
Cyflwyniadau buddugol
Safle cyntaf. Os ydych chi am fyw’n hirach mewn cartref gofal – byddwch yn fenywaidd: ymchwiliad i ddisgwyliad oes mewn cartrefi gofal yng Nghymru – wedi’i gyflwyno gan Iestyn Lloyd.
Ail safle. Tueddiadau a phatrymau mesurau afiechyd yn y boblogaeth yng Nghymru: asesiad disgrifiadol o ddefnyddio cod y Cofnod Iechyd Electronig ar draws gwahanol fframweithiau – wedi’i gyflwyno gan Michael Parker.
Trydydd safle. Datblygu a gwella meddalwedd a gweithdrefnau mewnol er mwyn cyflenwi cymorth a chanlyniadau ymchwil o ansawdd uchel – wedi’i gyflwyno gan Matthew Basitman.
Rhoi mwy o gyfleoedd i’n myfyrwyr
Yn siarad yn nigwyddiad Arddangos Interniaid yr Haf, dywedodd yr Athro Keith Lloyd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe: “Rydym yn falch iawn o roi cyfle i fyfyrwyr ar draws sawl disgyblaeth gymryd rhan yn Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth. Mae’r rhaglen yn enghraifft wych o’r ffordd y mae’r Brifysgol yn gweithio i ddarparu rhagor o gyfleoedd i roi profiad galwedigaethol i’n myfyrwyr.
“Bydd y sgiliau a’r profiad maen nhw wedi’u hennill trwy weithio’n rhan o’r tîm amlddisgyblaethol tra medrus hwn a gyda’r dechnoleg data ddiweddaraf yn siŵr o’u helpu ar eu taith i gyflogaeth bellach.”
Mae bod yn intern dros yr haf wedi bod yn gyfle ardderchog
Un o’r myfyrwyr a gymerodd ran yn interniaeth 2019 oedd Michael Parker, sy’n astudio’r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, ac sydd ar fin dechrau ei drydedd flwyddyn. Cyrhaeddodd Michael yr ail safle yn y Digwyddiad Arddangos am ei waith gydag Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK).
Wrth sôn am y cyfleoedd yr oedd yr Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth yn eu cynnig, dywedodd Michael: “Mae’r interniaeth dros yr haf wedi bod yn gyfle ardderchog – roedd y gwaith yn foddhaus iawn a mwynheais yr her o weithio gyda’r data a datrys problemau yn enwedig.
Byddwn yn annog myfyrwyr sy’n ystyried interniaeth i wneud cais – rwyf wedi dysgu llawer. Mae angen pobl sydd ag amrywiaeth eang o sgiliau ar faes Gwyddor Data Poblogaeth – nid ystadegau a dadansoddi data yn unig.
“Roedd arddangosfa’r interniaid yn ffordd wych o ddod â phrofiad yr interniaeth i ben, gan ei fod wedi rhoi cyfle i ni rannu ein gwaith prosiect, yn ogystal â rhoi cyfle i ni gael dealltwriaeth ddofn o’r prosiectau yr oedd yr holl interniaid eraill wedi bod yn gweithio arnynt.”
Y rhaglen i interniaid yn mynd o nerth i nerth
Dywedodd Ashley Akbari, sef yr Uwch-reolwr Ymchwil a Gwyddonydd Data a arweiniodd drefnu’r digwyddiad arddangos a’r rhaglen i interniaid:
“Bob blwyddyn, mae’r rhaglen i interniaid yn mynd o nerth i nerth, ac nid oedd eleni’n eithriad. O’r nifer ceisiadau a dderbyniom, i nifer ac ansawdd yr interniaid a dderbyniwyd, y gwaith a gwblhawyd ganddynt a’r cyflwyniadau a roddwyd; mae’r safon wedi bod yn eithriadol o uchel.
Llwyddiant gwych arall yw effaith y gwaith a gwblhawyd, gyda holl brosiectau’r interniaid yn cael eu mabwysiadu neu eu hymgorffori mewn gwaith ymchwil dilynol a datblygiadau technegol/ methodolegol.
“Rydym yn gobeithio ehangu a datblygu’r rhaglen y flwyddyn nesaf, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unrhyw un sy’n dymuno datblygu eu harbenigedd a’u profiadau yn gweithio’n rhan o ganolfan ymchwil sy’n uchel ei pharch ledled y byd sydd â diddordeb yng Ngwyddor Data Poblogaeth.”
Rhaglen Flynyddol
Mae’r Interniaeth Haf Gwyddor Data Poblogaeth yn ddigwyddiad blynyddol sy’n cael ei ariannu gan Fanc Data SAIL, Ymchwil Data Iechyd y DU (HDR UK), Ymchwil Data Gweinyddol (ADR) Cymru, Llwyfan Dementia’r DU (DPUK) a Phartneriaeth Data Arsyllfa Cyfiawnder Teuluol Nuffield.
Croesawir ceisiadau gan fyfyrwyr o bob disgyblaeth sydd â diddordeb mewn Gwyddor Data Poblogaeth, dysgu sgiliau newydd a chael profiad yn y byd go iawn. Bydd y broses ymgeisio ar gyfer interniaeth 2020 ar agor ar ddechrau 2020, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael yn y flwyddyn newydd.