

Datgelwyd rhybuddion cynnar y gallai fod gan rywun anhwylder bwyta mewn astudiaeth data graddfa fawr a gynhaliwyd gan ymchwilwyr Prifysgol Abertawe.
Dangosodd y canlyniadau, a gyhoeddwyd yn British Journal of Psychiatry gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion, fod gan bobl â diagnosis o anhwylder gyfraddau uwch o gyflyrau eraill ac o bresgripsiynau yn ystod y blynyddoedd cyn y diagnosis. Gallai’r canfyddiadau roi cyfle gwell i feddygon teulu adnabod anhwylderau bwyta yn gynt.
Amcangyfrifir fod anhwylderau bwyta – megis anorecsia nerfol, newynglwyf nerfol ac anhwylder gorfwyta – yn effeithio ar 1.6 miliwn o bobl yn y Deyrnas Gyfunol, ond gallai’r nifer fod yn uwch am fod nifer o bobl yn peidio â cheisio cymorth.
Maent yn effeithio ar fenywod yn bennaf, ond dynion hefyd; caiff y rhan fwyaf o bobl ddiagnosis yn ystod glasoed neu oedolaeth gynnar. Anhwylderau bwyta yw’r salwch meddwl sy’n achosi’r nifer mwyaf o farwolaethau, o achosion corfforol ac o ganlyniad i hunanladdiad.