

Fel rhan o’n hymrwymiad parhaus i annog a meithrin y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr data, roedd yn bleser gennym groesawu 14 o interniaid i Wyddor Data Poblogaethau yr haf hwn. Treuliodd dau o’r interniaid, Michael Parker ac Irene Astrain, 12 wythnos yn cyfrannu at brosiectau ymchwil gweithredol, yn rhan o dimau Gwyddor Data Poblogaethau.
Cawsom sgwrs â Michael ac Irene i ddysgu rhagor.
Michael Parker

Yn Astudio: BSc yn y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe
Mentor: Jane Lyons, Health Data Research UK (HDRUK)
Prosiect: Tueddiadau a phatrymau mesuriadau clefyd ym mhoblogaeth Cymru: asesiad disgrifiadol o ddefnyddio codau Cofnodion Iechyd Electronig ar draws fframweithiau gwahanol.
Beth oedd eich rheswm dros ymgeisio? Datblygodd fy niddordeb mewn codio ar ôl i mi gwblhau modiwl Ystadegau fel rhan o’m cwrs. Roedd yr interniaeth yn gyfle gwych i archwilio codio ymhellach ac ehangu pwnc nad yw’n cael ei gynnwys yn fy rhaglen gradd.
Beth ddysgoch chi? Drwy weithio ar brosiect yn y byd go iawn, datblygais i brofiad ymarferol o ddefnyddio ieithoedd amrywiol, gan gynnwys Iaith Ymchwiliad Strwythuredig (SQL) ac R. Roedd y gwaith yn foddhaol iawn a mwynheais i’n benodol yr her o weithio gyda’r data a datrys problemau.
Oes gennych chi gyngor ar gyfer darpar interniaid? Mae’n ddwy flynedd ers i mi wneud Safon Uwch mewn Mathemateg, felly roeddwn i ychydig yn ansicr a ddylwn i wneud cais neu beidio. Mae’n hawdd amau eich hun, ond byddwn yn annog myfyrwyr sy’n meddwl am interniaeth i wneud cais – dwi wedi dysgu cymaint. Mae angen pobl ag amrywiaeth eang o sgiliau ar Wyddor Data Poblogaethau – nid ystadegau a dadansoddi data yn unig.
Byddwn i’n argymell yr interniaeth hon yn bendant. Dwi wedi dysgu cymaint am astudiaethau ymchwil a’r amgylchedd gwaith. Mae’n gyfle gwych i gael blas ar faes lle nad oes gennych chi lawer o brofiad – neu ddim profiad o gwbl – a gweithio o’r gwaelod i fyny.
Beth Nesaf?
Mae’r interniaeth hon wedi agor fy llygaid i Wyddor Data Poblogaethau. Fel gwyddor gymharol newydd, mae’n cynnig cyfleodd gwych am yrfa a chyfle i weithio mewn maes sy’n gallu gwneud gwahaniaeth go iawn. Dwi bellach yn meddwl am ehangu fy astudiaethau ac, o bosib, astudio Gwyddor Data Poblogaethau ar lefel ôl-raddedig.
Irene Astrain

Yn Astudio: BSc mewn Mathemateg, Coleg Gwyddoniaeth Prifysgol Abertawe
Mentoriaid: Lucy Griffiths, Nuffield Family Justice Observatory (NFJO) Data Partnership a Dora Pouliou, Ymchwil Data Gweinyddol Cymru
Prosiect
Dull rhifiadol o fesur gordewdra gan ddefnyddio data Mesur Plant Cymru (NCCH).
Beth oedd eich rheswm dros ymgeisio? Gan fy mod i’n astudio Mathemateg, roeddwn i’n teimlo bod y cyfle i weithio gyda data’n cyd-fynd yn dda. Dwi wedi codio o’r blaen, ond roedd yr interniaeth yn gyfle i mi ychwanegu at fy set sgiliau a dysgu SQL ac R.
Beth ddysgoch chi? Roeddwn i’n gwneud gwaith dichonoldeb ar brosiect a oedd yn datblygu a’m tasg i oedd ymchwilio i’r data a’i ddeall yn barod i’r tîm ymchwil ei ddefnyddio. Mae’n gofyn am amser ac amynedd i hidlo data anghywir, data sydd ar goll a data dyblyg. Mae’r rhan hon o’r broses yn her ond yn hollbwysig. Ces i deimlad enfawr o foddhad drwy sicrhau bod y data o’r safon uchaf.
Doeddwn i ddim wedi gorfod cyflwyno fy ngwaith o flaen cynulleidfa o’r blaen ac roeddwn i’n hynod nerfus am gyflwyno yn Arddangosfa’r Interniaeth. Cyn y digwyddiad, buon ni’n ymarfer fel grŵp ac yn rhoi adborth i’n gilydd – roedd hyn o gymorth mawr. Mewn gwirionedd, doedd y profiad ddim yn rhy frawychus – roedd y diwrnod yn hwyl. Aeth y profiad â mi allan o gynefin fy nghysur ond nawr mae gen i brofiad o siarad yn gyhoeddus a dwi’n siŵr y bydd y sgiliau hyn yn ddefnyddiol iawn i mi yn y dyfodol.
Oes gennych gyngor ar gyfer darpar interniaid? Fy nghyngor pennaf fyddai peidiwch byth â thanbrisio’r broses o lanhau data. Mae’n swnio’n hawdd ond mae’n gallu bod yn gymhleth. Bydd angen i chi fod yn drefnus dros ben, ond mae’n werth dyfalbarhau gyda heriau’r broses am y teimlad o foddhad ar ôl cwblhau’r dasg.
Beth nesaf? Dwi’n meddwl bod yr interniaeth yn gyfle gwych. Ces i lawer o brofiad a sgiliau wrth fwynhau fy hun a chael fy nhalu ar yr un pryd. Rhoddodd yr interniaeth flas gwerthfawr i mi o ddadansoddi data a bellach mae gennyf ddiddordeb mewn datblygu gyrfa yn y maes hwn.
Cefnogwyd Rhaglen Intern Haf 2019 gan SAIL Databank, HDR UK, ADR Wales, Dementias Platform UK and The Nuffield Family Justice Observatory (FJO) Data Partnership .