

BETH YW PRAWF MODDOL DIGIDOL RHYNGWEITHIOL SGLEROSIS YMLEDOL NEU ‘MSIDMIT’?
Mae Rod Middleton, Prosiect a Phensaer Systemau ar gyfer Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU, yn siarad am ddatblygu’r prawf a’i bwysigrwydd ar gyfer asesiadau Sglerosis Ymledol y dyfodol.

Mae Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU wedi bod yn gweithio’n ddiweddar gyda Choleg Imperial Llundain a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i greu ffordd electronig newydd o fesur gwybyddiaeth, sef y Prawf Rhyngweithiol Moddolrwydd Digidau Sglerosis Ymledol neu’r MSiDMT. Mae’n seiliedig ar brawf papur a ddefnyddir yn gyffredinol y dangoswyd ei fod yn ffordd ddibynadwy o fesur gweithrediad yr ymennydd mewn cleifion â sglerosis ymledol. Enw’r prawf hwn yw’r Prawf Moddolrwydd Symbolau a Digidau. Mae’r asesiad profedig hwn, sy’n seiliedig ar bapur ac yn destun hawlfraint, wedi bodoli ers y 70au cynnar ac mae’n dal i gael ei ddefnyddio’n helaeth heddiw.
Asesiad clinigol mwy cynhwysfawr
Fel arfer, mae ffyrdd o fesur gwybyddiaeth mewn cleifion â sglerosis ymledol yn gyfyngedig i asesiadau papur a llafar. Gallant gymryd llawer o amser ac nid ydynt braidd byth yn cael eu defnyddio mewn ymarfer clinigol o ddydd i ddydd. Dyluniwyd yr offeryn electronig hwn i efelychu’r SDMT sy’n mesur dau beth: cof gweithio a chyflymder prosesu. Mae cyfranogwyr yn paru symbolau a rhifau yn erbyn y cloc. Y nod yw cael cynifer o barau cywir â phosib mewn 90 eiliad.
Diben hwn yw darparu prawf electronig o wybyddiaeth y gellir ei ddefnyddio’n rhwydd boed yn y clinig neu yng nghartref y claf. Bydd yn annog cofnodi gwybyddiaeth claf yn rheolaidd ac yn gywir, rhywbeth a fydd yn hynod werthfawr ar gyfer ymchwil ac yn fuddiol i ymarfer clinigol.
I ddechrau, bydd y fersiwn electronig ar gael ar ddyfeisiau iPad yn unig ond y nod yw ei ddarparu ar gyfer pob math o ddyfais sydd gan gyfranogwyr.
Cwblhau’r prawf
Dangosir naw symbol gwahanol ar frig y sgrîn a dangosir rhifau cyfatebol, o 1 i 9, islaw. Wrth lansio’r ap, caiff y symbolau eu cynhyrchu ar hap ac mae dros 350,000 o gyfuniadau’n bosib. Dangosir dau o’r symbolau yng nghanol y sgrîn: yr un i’w adnabod nawr a’r un sydd nesaf. Ar waelod y sgrîn, gwelir nifer o ‘fotymau’ unwaith eto wedi’u labelu 1-9 y mae cyfranogwyr yn tapio arnynt i nodi’r symbol sy’n cyfateb i’r rhif o’r allwedd uchod.

Treialu’r ap
Cafodd 108 o bobl â sglerosis ymledol eu recriwtio i dreialu’r ap. O’r rhain dychwelodd 28 o fewn mis i ailadrodd y prawf. Gwnaethom hyn mewn dwy ganolfan sglerosis ymledol yn y DU: Ysbyty Treforys yn Abertawe ac Ysbyty Charing Cross yn Llundain. Cwblhaodd yr holl gyfranogwyr y prawf SDMT ysgrifenedig ar bapur cyn cwblhau’r MSiDMT er mwyn cymharu’r ddau. Cafodd yr amgylcheddau profi eu rheoli am sŵn ac aflonyddwch.
Y canfyddiadau oedd bod cydberthynas agos rhwng sgorau’r SDMT a’r MSiDMT a bod y gwerthoedd yn gyson wrth ailadrodd y prawf ar ôl mis. Gwelwyd sgorau is gan gleifion hŷn â lefel uwch o anabledd, canlyniad sydd hefyd yn gyson â’r prawf papur.
Buom yn cyflwyno ein gwaith yng nghynhadled ECTRIMS a gynhaliwyd yn Stockholm ym mis Medi eleni. ECTRIMS yw’r gynhadledd fwyaf yn y byd ar gyfer ymchwilwyr sglerosis ymledol. Yn seiliedig ar hanes profedig yr asesiad hwn fel ffordd effeithiol o fesur canlyniadau mewn nifer o dreialon, a rhwyddineb ei gynnal, ein gobaith yw y bydd hyn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer clinigwyr wrth asesu cleifion â sglerosis ymledol yn y dyfodol.
Lansiwyd un o’n canolfannau rhagoriaeth, Cofrestr Sglerosis Ymledol y DU, yn 2011 gan Wyddor Data Poblogaethau yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe a chaiff ei hariannu gan y Gymdeithas MS.Y cysyniad sylfaenol yw cofnodi mwy o ddata’r byd go iawn am fyw gyda sglerosis ymledol yn y Deyrnas Unedig.Mae’r Gofrestr yn gwneud hyn mewn dwy ffordd: mae pobl â sglerosis ymledol yn cofnodi gwybodaeth am eu cyflwr drwy holiaduron syml ar ein gwefan.Yr ail ddull yw cysylltu cofnodion meddygol cyfranogwyr ar-lein (gyda’u cydsyniad) â’u hatebion i holiaduron.Mae hyn yn darparu banc hynod gyfoethog o ddata a photensial enfawr i wneud ymchwil.