

Mae’r staff sy’n addysgu Gwyddor Data Poblogaethau ym Mhrifysgol Abertawe’n falch o groesawu carfan interniaid yr haf eleni. Gofynnon ni i’r interniaid eleni ddweud ychydig wrthym am y prosiectau maen nhw’n gweithio arnynt a’r hyn maen nhw’n gobeithio ei gyflawni erbyn diwedd yr interniaeth

Iwan White
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n fyfyriwr yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Warwig.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Cyflwynais i gais am interniaeth oherwydd bod hwn yn gyfle cyffrous i mi ddatblygu ac ymarfer y sgiliau a ddysgais i yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol wrth i mi ennill profiad gwaith gwerthfawr mewn sector gyrfaoedd sydd wedi ennyn fy niddordeb ers i mi ddysgu amdano am y tro cyntaf. Yn fy mlwyddyn gyntaf yn y Brifysgol, ces i fy nghyflwyno i fioleg fathemategol a’r pecyn meddalwedd R mewn dau o fy hoff fodiwlau. Felly, roedd achub ar y cyfle i ddefnyddio R i ymchwilio i “Ddefnyddio biofarcwyr fel profion diagnostig ar gyfer dementia clefyd Alzheimer” yn gam nesaf amlwg i mi.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Rwyf wedi dwlu ar y profiad hyd yn hyn! Yn y 4 wythnos gyntaf, ymchwiliais i i’r amryw o brofion diagnostig ar gyfer dementia, gan ddechrau dod i gasgliadau am y profion sydd ar gael. Defnyddiais i hyn i fy helpu i ddadansoddi’r carfanau gwahanol ar Dementias Platform UK (DPUK) i amlygu’r carfanau gorau ar gyfer y prosiect ymchwil. Rwyf ar fin dechrau dadansoddi data i asesu pa mor ddefnyddiol yw cyfuno profion diagnostig ar gyfer Dementia Alzheimer.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwyf eisoes wedi dechrau datblygu fy sgiliau a’m profiad ac rwy’n edrych ymlaen at yr her o gymhwyso’r rhain i ddata go iawn a llunio adroddiad ar y canfyddiadau.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Bydd yr interniaeth yn fy helpu i i ddeall cyfleoedd gyrfa mewn Gwyddor Data ac, o bosib, yn fy ngalluogi i ddewis fy modiwlau yn y Brifysgol yn benodol i adlewyrchu fy nyheadau gyrfaol sef, ar hyn o bryd, i fod yn Wyddonydd Data ar ddiwedd fy astudiaethau.
Rheolwr llinell: Dr Helen Daniels Mentor: Yr Athro Cysylltiol Rhiannon Owen

Kellie Robinson
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n astudio Peirianneg Feddalwedd ym Mhrifysgol Abertawe.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Roeddwn i am ennill profiad o’r maes meddalwedd yn y byd go iawn i roi hwb i fy CV a hefyd i herio fy hun i roi cynnig ar rywbeth newydd.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Mae fy interniaeth yn cynnwys ymchwilio i gyfleoedd cronfa ddata newydd fel rhan o isadeileddau amrywiol Prifysgol Abertawe i chwilio am opsiynau newydd ac arloesol ar gyfer y dyfodol. Byddaf yn defnyddio Trino a fydd wedi’i gynnal gan Kubernetes i ddatblygu dull o gasglu metrigau perfformiad ac allforio logiau Trino i’r gwasanaeth cydgasglu logiau rydym yn ei ddefnyddio.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Yn gyffredinol, rwyf am deimlo’n gyffyrddus pan fyddaf yn gweithio mewn sefyllfa wahanol. Mae gweithio gyda gwasanaethau, cynnyrch etc. nad ydych chi’n gyfarwydd â nhw wrth wraidd peirianneg feddalwedd, ac mae’n brofiad sy’n anodd iawn ei ddyblygu mewn cwrs yn y Brifysgol yn unig.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Rwyf am weithio mewn Ieithyddiaeth Gyfrifiadol. Er bod fy mhrosiect interniaeth yn wahanol – mae dysgu ieithoedd newydd, dysgu sut i weithio gyda meddalwedd integreiddio a datrys problemau’n gyffredinol yn sgiliau hollbresennol mewn unrhyw swydd ym maes Peirianneg Feddalwedd. Mae casglu data hefyd yn rhan bwysig o Ieithyddiaeth Gyfrifiadol, felly mae gweithio gyda meddalwedd a gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar ddata’n fy ngalluogi i weithio gyda data a llifau gwaith tebyg ac mae’n bosib y byddaf yn defnyddio hyn yn y dyfodol.
Rheolwr llinell: Alex Lee Mentor: Joss Whittle

Sambhav Dave
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Cwblheais i radd Baglor mewn cyfrifiadureg yn 2019 yn India ac, ar ôl hynny, gweithiais i fel Peiriannydd Datblygu a Phrofi Meddalwedd am 3 blynedd mewn dau gwmni TG gwahanol. Ar ôl y profiad proffesiynol hwn, dechreuais i fy ngradd MSc mewn Cyfrifiadureg Uwch yn y DU ym mis Ionawr 2023. Byddaf yn cwblhau’r interniaeth hon yn y gwyliau rhwng tymhorau fy ngradd.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Mae’r lleoliad gwaith yn ymwneud â datblygu meddalwedd yn y maes gofal iechyd meddygol yn benodol a oedd wedi ennyn fy niddordeb yn y lle cyntaf. Yn ail, byddaf yn gweithio mewn tîm cymharol fach a fydd yn fy helpu i fod yn gyfrannwr unigol. Yn olaf, bydd yr interniaeth hon hefyd yn rhoi profiad i mi o’r maes Gwyddor Data ym myd Cyfrifiadureg a doedd gen i ddim profiad ymarferol o’r maes hwn cyn hyn. Roeddwn i hefyd yn gyffrous iawn i feithrin cysylltiadau â chymuned ymchwil nodedig Prifysgol Abertawe.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Rwy’n intern datblygu meddalwedd yn Nhîm Dadansoddi SAIL i ddatblygu cleient rhyngwyneb rhaglennu cymwysiadau Python ar gyfer cronfa ddata ffenoteipiau Ymchwil Data Iechyd y DU. Bydd hyn yn helpu datblygwyr/ymchwilwyr/gwyddonwyr data eraill i gwblhau eu tasgau ymchwil yng nghronfa ddata ffenoteipiau HDR UK a chronfa ddata gysyniadau SAIL yn effeithlon gan ddefnyddio Python. Byddaf hefyd yn helpu’r tîm i ddatrys bygiau cynhyrchu, datblygu nodweddion newydd a gwella’r ffordd y mae gwefan y gronfa ddata gysyniadau yn cael ei defnyddio.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Byddaf yn datblygu fy sgiliau rhaglennu Python, Django ac R ymhellach a bydd yr interniaeth hon yn datblygu’r cymwyseddau hyn fwyfwy gan fy ngalluogi i ddangos fy mhrofiad ar gyfer swyddi yn y dyfodol fel Datblygwr Meddalwedd/Peiriannydd Datblygu a Phrofi Meddalwedd ar ôl i mi gwblhau fy ngradd Meistr.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Bydd yr interniaeth hon yn rhoi’r sgiliau technegol a meddal addas y bydd eu hangen arnaf ar gyfer fy ngyrfa yn y dyfodol a bydd yr arweiniad gan fy mentoriaid/aelodau tîm yn fy helpu gyda fy nghyfleoedd gyrfaol yn y dyfodol.
Rheolwr llinell: Artur Zinnurov Mentor: Ting Wang

Trafford Bage
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n astudio gradd MSc mewn Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe a byddaf yn dechrau fy mhedwaredd flwyddyn, a’r flwyddyn olaf yn y Brifysgol, y flwyddyn nesaf.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Cyflwynais i gais er mwyn cael cyfle i ennill profiad mewn tîm a chyfrannu at rywbeth gwerthfawr y bydd pobl eraill yn ei ddefnyddio.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio ar ddiwygio cymhwysiad pen blaen (sy’n wynebu’r defnyddiwr) i ganiatáu mwy o ryddid wrth addasu neu weld data. Ar ôl y gwaith cychwynnol hwn, mewn cydweithrediad â fy nhîm, byddaf yn cyfrannu at nodi cyfleoedd eraill i ddiweddaru a gwella’r feddalwedd sydd eisoes yn bodoli ac y mae’r tîm wedi’i datblygu.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwy’n bwriadu gwella fy sgiliau gweithio mewn tîm a dysgu rhagor am sut mae’r iaith raglennu C# yn cael ei defnyddio’n ymarferol.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Rwy’n barod i ddilyn llawer o yrfaoedd sy’n gysylltiedig â chyfrifiadureg cyhyd â fy mod yn gallu gweithio ar feddalwedd/wefannau. Mae’r interniaeth hon yn debyg i’r swydd byddaf yn gwneud cais amdani ar ôl i mi raddio a bydd hyn yn fy mharatoi at gyflwyno cais am y fath rôl. Bydd hi hefyd yn fy nghyflwyno i feddalwedd newydd a fydd yn wych o ran cyfleoedd am swyddi yn y dyfodol.
Rheolwr llinell: Hazel May Lockhart-Jones Mentor: Richard Hier

Celyn Williams
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Cyn i mi ddechrau’r interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau, roeddwn i’n astudio Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Chymdeithaseg ym Mhrifysgol Caerdydd.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Cyflwynais i gais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau oherwydd ei bod hi’n gyfle i mi ennill profiad gwerthfawr ym maes marchnata a chyfathrebu. Ar ben hynny, teimlais i y byddai’n rhoi mewnwelediad cynhwysfawr i mi i agweddau effaith a chyfranogiad ar wyddor data, yn benodol yng nghyd-destun Banc Data SAIL.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Yn ystod fy ngwaith mewn Gwyddor Data Poblogaethau, byddaf yn gweithio i wella cyfranogiad a mwyhau effaith ar gyfer allbynnau Banc Data SAIL drwy ymagwedd sy’n cynnwys llawer o sianeli a chyfryngau. Yn ystod y prosiect hwn, fy mhrif amcan fydd asesu lefel bresennol y cyfranogiad â Banc Data SAIL ac archwilio dulliau ychwanegol o amlygu’r ymchwil hollbwysig o’r radd flaenaf sy’n cael ei chynnal mewn Gwyddor Data Poblogaethau.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Drwy gydol fy interniaeth, fy mhrif nod yw gwella fy sgiliau marchnata a chyfathrebu cyffredinol. Yn benodol, rwy’n bwriadu ennill dealltwriaeth amlweddog o strategaethau i wella cyfranogiad ac effaith ar gyfer Banc Data SAIL. Yn ogystal â hynny, rwy’n bwriadu gwella fy ngalluoedd wrth reoli’r cyfryngau cymdeithasol, dadansoddi, ymchwil i farchnadoedd a rhoi cyflwyniadau effeithiol.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Ar hyn o bryd, nid oes gen i yrfa benodol mewn golwg. Fodd bynnag, rwy’n awyddus i archwilio’r maes marchnata a chyfathrebu ac ennill dealltwriaeth well o ble mae fy niddordebau a’m sgiliau’n cydweddu. Rwy’n credu bydd yr interniaeth hon yn darparu cyfle gwerthfawr i mi archwilio agweddau ymarferol ar y maes ac ennill profiad uniongyrchol.
Bydd yr interniaeth hon yn cyfrannu at fy nod mewn sawl ffordd. Yn gyntaf, bydd hi’n rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i mi yn ogystal â phrofiad o’r diwydiant marchnata a chyfathrebu mewn lleoliad gwaith sy’n seiliedig ar ymchwil. Rwy’n credu bydd yr interniaeth yn hwyluso datblygu sgiliau hanfodol wrth roi cyfle i ryngweithio â gweithwyr proffesiynol o feysydd gyrfaoedd amrywiol. Gall y rhyngweithiadau hyn gynnig arweiniad a mewnwelediadau wrth i mi ddod o hyd i fy ffordd ar lwybr fy ngyrfa. Ar y cyfan, mae’r interniaeth hon yn gyfle gwerthfawr i mi ennill profiad ymarferol, archwilio agweddau amrywiol ar farchnata a chyfathrebu a deall fy nodau gyrfaol yn well.
Rheolwr llinell: Chris Roberts Mentor: Sarah Toomey

Rowan Dash
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n astudio peirianneg feddalwedd yma ym Mhrifysgol Abertawe a byddaf yn dechrau fy nhrydedd flwyddyn, a’r un olaf, ym mis Medi.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Cyflwynais i gais am yr interniaeth hon oherwydd bod gen i ddiddordeb mewn dulliau DevOps ym maes gwyddor data yn ogystal â chael y cyfle i weithio ar rywbeth gwerthfawr.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Mae fy mhrosiect yn ymwneud â moderneiddio’r ffordd y mae isadeiledd craidd yn cael ei ddefnyddio yn y Platfform Ymchwil Electronig Diogel (SeRP) sydd wedi’i ddatblygu a’i gynnal ym Mhrifysgol Abertawe.
Rwy’n helpu i ail-lunio sgriptiau prosesu mewnol y mae’n rhaid eu diweddaru er mwyn gweithio gyda’r offer newydd.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau datblygu meddalwedd ac ennill profiad wrth ddefnyddio offer sy’n cael eu defnyddio yn y diwydiant.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Dydw i ddim yn siŵr ble rydw i am weithio ond byddai swydd ym maes datblygu meddalwedd/DevOps yn addas; mae’r interniaeth hon yn darparu profiad gwaith ardderchog ar gyfer y ddau beth.
Rheolwr llinell: Joss Whittle Mentor: Alex Lee

Samuel Marshall
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwyf wedi cwblhau fy nhrydedd flwyddyn o astudio Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Abertawe.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Mae Gwyddor Data’n faes diddorol iawn felly roeddwn i’n gyffrous i gael cyfle i gymhwyso fy sgiliau rhaglennu mewn maes sy’n cynnig cymaint o effaith.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio i ddatblygu cymwysiadau’r we yn C# sy’n caniatáu i ddata gael ei weld a’i ddiwygio mewn ffordd sy’n hawdd i ddefnyddwyr ei ddeall.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwy’n gobeithio datblygu amrywiaeth o sgiliau mewn datblygu meddalwedd, ynghyd â sgiliau gwneud data’n fwy hygyrch a llawn effaith i ddefnyddwyr.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Er nad oes gen i syniad pendant o ble rydw i am weithio yn y pen draw, bydd y sgiliau y byddaf yn eu hennill o ganlyniad i’r interniaeth hon yn hynod werthfawr wrth i mi ddilyn gyrfaoedd yn y dyfodol.
Rheolwr llinell: Justin Biddle Mentor: Richard Hier

Mohammed Shamsudeen
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n fyfyriwr doethurol sy’n astudio Epidemioleg ac Iechyd y Boblogaeth yn Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Cyflwynais i gais am yr interniaeth oherwydd bod hon yn cydweddu â’m diddordebau mewn ymchwil i iechyd y boblogaeth yn ogystal â’m dyhead am yrfa mewn gwyddor data poblogaethau.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Mae fy mhrosiect interniaeth yn canolbwyntio ar sut mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (WIMD) yn cael ei ddefnyddio i ymchwilio i ddata. Mae’r WIMD yn fesur cyfansawdd o amddifadedd cymharol sy’n seiliedig ar ardal ac sy’n rhestru pob ardal gynnyrch ehangach haen is (LSOA) yng Nghymru sy’n seiliedig ar wyth maes amddifadedd. Mae ymchwilwyr yn defnyddio WIMD mewn astudiaethau i gynnwys mesur o amddifadedd sy’n seiliedig ar ardaloedd. Fodd bynnag, gellir gwneud hyn mewn sawl ffordd ac nid yw bob amser yn amlwg sut y gallai ddulliau gwahanol o neilltuo WIMD effeithio ar ganlyniadau astudiaethau. Bydd fy mhrosiect yn archwilio i sut y gall ymagweddau amrywiol at neilltuo WIMD ddylanwadu ar ganlyniadau astudiaethau. Yn ogystal â hynny, byddaf yn archwilio i dechnegau gwahanol ar gyfer gweithio’n effeithiol gyda’r mynegai a’r data dangosol sydd wrth ei wraidd.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwy’n gobeithio ennill profiad o ddefnyddio cofnodion iechyd electronig ar raddfa fawr a data arferol ar gyfer cynnal ymchwil iechyd ynghyd â datblygu fy sgiliau mewn SQL ac R. Yn ychwanegol, rwy’n bwriadu ennill dealltwriaeth ddyfnach o fethodolegau ymchwil yn ogystal ag ennill profiad o gydweithio fel rhan o’r tîm amlddisgyblaethol yn yr adran Gwyddor Data Poblogaethau. O ran allbynnau, byddaf yn gweithio tuag at lunio dadansoddiad cynhwysfawr o effaith dulliau gwahanol o neilltuo WIMD ar ganlyniadau astudiaethau. Rwyf hefyd yn bwriadu cyfrannu at ddatblygu canllawiau ac argymhellion ar gyfer defnyddio WIMD yn briodol mewn ymchwil data arferol.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau am yrfa lwyddiannus mewn gwyddor data poblogaethau drwy’r tasgau y byddaf yn eu gwneud yn ystod yr interniaeth. Yn ogystal â hynny, rwy’n edrych ymlaen at ennill profiad gwaith gwerthfawr drwy weithio gyda chofnodion iechyd electronig a data arferol ym Manc Data SAIL.
Rheolwr llinell: Hywel Turner Evans Mentor: Carys Jones

Joe McLaughlin
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Rwy’n astudio Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Mae gen i ddiddordeb yn y ffaith bod swm helaeth o ddata ar gael yn y byd sydd ohoni, ar draws sawl diwydiant ac yn enwedig ym maes gofal iechyd. Mae argaeledd data mawr a’r offer i’w archwilio’n sefyllfa ddigyffelyb yn ein hanes ac mae hyn eisoes yn newid y ffordd rydym yn ymchwilio i ofal iechyd. Roeddwn i am ymgymryd â’r ymchwil hon ar ddechrau fy ngyrfa feddygol oherwydd bod hwn yn sgìl gwerthfawr ar gyfer y dyfodol ac mae’n ddiddorol iawn yn fy marn i.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Rwy’n gweithio ar brosiect ar ryngweithiadau rhwng meddygfeydd cyffredinol a chleifion. Y prif amcan yw archwilio’r data a cheisio ynysu’r math o ryngweithiad rhwng y claf a’r feddygfa gyffredinol (galwad ffôn, ymgynghoriad wyneb yn wyneb, clinig a arweinir gan nyrsys etc.) ac yna archwilio i sut newidiodd patrwm a nifer y rhyngweithiadau yn ystod pandemig COVID-19 ac yna canfod a yw rhyngweithiadau wedi dychwelyd i’r tueddiadau cyn y pandemig neu a oes newidiadau hirhoedlog wedi deillio o COVID-19.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Byddaf yn cael mynediad at ddata ym Manc Data SAIL yn ddiogel gan ddefnyddio SQL (sef iaith raglennu a ddefnyddir i gwestiynu cronfeydd data). Dyma iaith raglennu rwyf wedi’i defnyddio ychydig o’r blaen. Rwy’n bwriadu datblygu fy sgiliau ac ennill profiad yn y maes hwn a meysydd eraill yn ystod yr interniaeth er mwyn i mi gyflwyno fy mhrosiect. Mae fy rheolwr llinell, fy mentor a’r tîm sydd wedi fy nghroesawu, wedi bod yn amyneddgar iawn ac yn fodlon ateb fy holl gwestiynau a rhoi cymorth i mi. Ar gyfer cam dadansoddi’r prosiect, byddaf yn defnyddio Python i gwestiynu’r data terfynol ac archwilio tueddiadau a delweddu’r tueddiadau hyn a sut mae rhyngweithiadau wedi newid cyn ac ers dechrau pandemig COVID-19.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Rwy’n gobeithio defnyddio fy ngradd feddygol ar y cyd â’r sgiliau byddaf yn eu dysgu yn ystod yr interniaeth. Mae ymchwil yn chwarae rôl fwy nag erioed mewn ymarfer clinigol. Felly, rwy’n gobeithio byddaf yn parhau i archwilio data iechyd ar ôl diwedd fy interniaeth yn ogystal â gweithio gyda llawer o’r cydweithwyr byddaf wedi meithrin perthnasoedd gyda nhw dros yr haf. Fy nod yw sicrhau rôl fel clinigwr yn y GIG lle gallaf ddefnyddio fy sgiliau ymchwil a gwyddor data.
Rheolwr llinell: Hoda Abbasizanjani Mentor: Athro Cysylltiol Ashley Akbari

Deepak Pant
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Cyn i mi ddechrau fy interniaeth gyda Gwyddor Data Poblogaethau, bues i’n astudio Gwyddor Data ym Mhrifysgol Abertawe.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Tynnwyd fy sylw gan y cyfle am interniaeth oherwydd ei ffocws ar ymchwil gwyddor data poblogaethau a’r cyfle i weithio gydag ymchwilwyr a gwyddonwyr data blaenllaw mewn amgylchedd prysur a hyblyg.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Mae’r prosiect byddaf yn gweithio arno yn ystod yr interniaeth yn ymwneud â chynnal ymchwil arloesol a chydweithredu â phartneriaid i ddangos cymhwysiad ymarferol ac arbenigedd strategol gwyddor data. Rwy’n gyffrous i gyfrannu at brosiectau sydd â’r nod o wella gwasanaethau a bywydau pobl drwy ymagweddau a yrrir gan ddata. Byddaf yn adeiladu dangosfwrdd deinamig sy’n canolbwyntio ar ddefnyddwyr at ddibenion archwilio data o’r byd go iawn yng Nghofrestr Sglerosis Ymledol y DU. Y nod yw gwella profiad y defnyddwyr, gwella’r gyfradd cadw defnyddwyr a galluogi defnyddwyr i lunio adroddiadau syml ar gyfer dadansoddiadau yn ôl yr angen. Byddaf yn defnyddio offer delweddu megis Python Dash Plotly ac yn gweithio gyda setiau data mawr i’w cysylltu â’r dangosfwrdd.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Yn ystod yr interniaeth hon, rwy’n gobeithio datblygu fy sgiliau wrth weithio gyda thimau amlddisgyblaethol, ymdrin â data mawr a manteisio i’r eithaf ar dechnolegau newydd. Rwyf hefyd yn bwriadu gwella fy medrusrwydd wrth ddefnyddio Python ac ennill profiad o ddelweddu data a chysylltu data â meddalwedd ddelweddu. Erbyn diwedd yr haf, fy nod yw cyflwyno dangosfwrdd defnyddwyr gweithredol sy’n gwella’r broses o archwilio data ac yn cynhyrchu adroddiadau sy’n llawn gwybodaeth.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Er fy mod i’n frwdfrydig am wyddor data, rwy’n archwilio llwybrau gyrfa gwahanol o hyd. Bydd yr interniaeth hon yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr i mi yn ogystal â rhoi cyfle i mi weithio ar brosiectau yn y byd go iawn gydag arbenigwyr yn y maes. Bydd yn fy helpu i ennill mewnwelediadau i wahanol feysydd gwyddor data ac yn egluro fy nodau gyrfaol yn y dyfodol.
Rheolwr llinell: Rod Middleton Mentor: Elaine Craig

Smaranda Popescu Necsesti
Beth oeddet ti’n ei astudio cyn i ti ddechrau dy interniaeth?
Cyn i mi ddechrau fy interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau, gorffennais i astudio’r Gwyddorau Meddygol Cymhwysol ym mis Gorffennaf 2022.
Pam roeddet ti am gyflwyno cais am interniaeth mewn Gwyddor Data Poblogaethau?
Penderfynais i gymryd blwyddyn i ffwrdd ar ôl i mi orffen fy ngradd israddedig a chyn i mi astudio Meddygaeth i Raddedigion. Ym mlwyddyn olaf fy ngradd israddedig, cefais i gyfle anhygoel i weithio gyda’r grŵp Gwyddor Data Poblogaethau ar fy nhraethawd hir. Gan fod gennyf flwyddyn i ffwrdd, datblygais i ddiddordeb yn y maes ymchwil hwn.
Dwed ychydig wrthym am y prosiect rwyt ti’n gweithio arno.
Mae’r ymchwil rwy’n gweithio arni’n Adolygiad Systematig ac yn Fetaddadansoddiad o gywirdeb yr offeryn diagnostig wrth roi diagnosis o COVID-19. Fy mhrif amcan wrth gyflawni’r ymchwil hon yw adolygu’r meini prawf cynnwys a hepgor a dewis y papurau sydd fwyaf priodol i’r papur rydyn am ei gyflwyno.
Pa sgiliau rwyt ti’n gobeithio eu datblygu dros yr haf?
Rwy’n bwriadu datblygu fy sgiliau rheoli amser yn ystod fy interniaeth haf yn ogystal ag ennill dealltwriaeth o’r maes ymchwil a gyrfaoedd ymchwil. Nod personol arall ar gyfer yr interniaeth haf yw cyfrannu at waith a gyhoeddir ac ennill syniad ehangach o’r broses.
Os gen ti yrfa mewn golwg a sut rwyt ti’n gobeithio y bydd yr interniaeth yn dy helpu di i gyrraedd y nod hwnnw?
Fy nod gyrfaol yw bod yn feddyg a byddaf yn astudio Meddygaeth i Raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe ym mis Medi. Bydd y profiad o’r interniaeth hon yn ehangu fy ngwybodaeth ymchwil oherwydd rwyf am ddilyn y maes hwn wrth gymhwyso’n feddyg. Ers i mi ddechrau’r interniaeth hon, mae fy niddordeb a’m chwilfrydedd wedi ehangu ac rwy’n gyffrous i ddysgu rhagor am y maes meddygol.
Rheolwr llinell: Dr Helen Daniels Mentor: Yr Athro Cysylltiol Rhiannon Owen
Meddai Ashley Akbari, Athro Cysylltiol mewn Ymchwil i Wyddor Data Poblogaethau, sy’n arwain wrth drefnu’r rhaglen Interniaeth Gwyddor Data Poblogaethau,
“Mae wedi bod yn wych croesawu’r holl interniaid i’r rhaglen interniaeth Gwyddor Data Poblogaethau fel rhan o garfan 2023. Roedd y broses ymgeisio eleni’n gystadleuol a chyflwynodd llawer o ymgeiswyr dawnus geisiadau gwych ac yna dewisodd y grwpiau ymchwil, technegol a datblygu pwy fyddai’n cymryd rhan yn yr interniaethau.
Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno a datblygu’r prosiectau y bydd yr interniaid yn eu cwblhau dros yr haf yn ein grwpiau ymchwil, datblygu a thechnegol blaenllaw yn adran Gwyddor Data Poblogaethau Prifysgol Abertawe, gan weithio tuag at integreiddio’r prosiectau hyn i ymchwil, systemau a phlatfformau gweithredol ar draws y sefydliad a chlywed gan yr interniaid ar ddiwedd yr haf yn ein digwyddiad arddangos interniaid Gwyddor Data Poblogaethau.”