

Bydd Banc Data SAIL a BREATHE – yr Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol yn ymuno ag ymchwilwyr ar draws y DU i gefnogi astudiaethau hanfodol ar wrthgyrff coronafeirws ac imiwnedd.
Bydd y prosiect sy’n werth £4m yn casglu data sy’n bodoli eisoes yn y DU am wrthgyrff coronafeirws a’i roi mewn un ffynhonnell ddiogel i gyflymu’r chwiliad am driniaethau a hysbysu penderfyniadau ynghylch gwarchod a chyfyngiadau iechyd cyhoeddus.
Dywed ymchwilwyr y bydd y fenter newydd – a elwir yn CO-CONNECT – yn eu helpu i fynd i’r afael â chwestiynau sylfaenol am sut y mae imiwnedd yn datblygu a sut y gallai helpu i atal y feirws rhag ymledu mewn ysgolion a gweithleoedd.
Imiwnedd Coronafeirws
Rhoddwyd cyfyngiadau symud helaeth ar waith mewn llawer o wledydd yn 2020 i gyfyngu ar ymlediad haint SARS-CoV-2, ond arweiniodd y cyfyngiadau hyn at ganlyniadau cymdeithasol ac economaidd sylweddol.
Ar hyn o bryd, ni wyddys pa mor hir mae imiwnedd yn para ar ôl i rywun gael ei heintio gan haint y coronafeirws neu pam y mae rhai pobl yn wynebu risg mwy o gael clefyd difrifol.
Gallai deall mwy am imiwnedd fod yn allweddol wrth ddiogelu pobl sy’n agored i niwed, gan gyfyngu ar ymlediad y clefyd a chan ddatblygu mesuriadau iechyd cyhoeddus wedi’u targedu wrth i’r pandemig barhau.
Data gwrthgyrff
Mae’r DU eisoes yn gartref i setiau data gwrthgyrff coronafeirws ar sail samplau gwaed a gymerwyd gan wirfoddolwyr a chanddynt COVID-19. Fodd bynnag, nid oes llawer o gysondeb o ran sut y caiff y setiau data hyn eu casglu a’u storio, sydd felly’n cyfyngu ar eu defnyddioldeb.
Bydd y fenter newydd – a gefnogir gan HDR UK – yn dod â data ynghyd mewn ffordd gydlynol a chyson a fydd yn ei gwneud hi’n haws i wyddonwyr ddod i gasgliadau’n gyflym.
Rydym yn falch iawn o fod yn rhan o fenter ymchwil newydd mor bwysig. Mae Banc Data SAIL yn darparu’r Amgylchedd Ymchwil Dibynadwy ar gyfer hyb data BREATHE HDR UK. Clefyd anadlol yw COVID-19 ac felly mae’r cydweithrediad hwn yn hollbwysig wrth ymateb i bandemig y coronafeirws. Yn yr astudiaeth newydd hon, bydd Banc Data SAIL yn cefnogi ymchwilwyr CO-CONNECT gyda data gwrthgyrff COVID-19 gan brofion seroleg ‘piler 3’ GIG Cymru sy’n dangos a oes gan bobl wrthgyrff ar ôl cael COVID-19. Bydd hyn yn galluogi astudiaethau carfan a gaiff eu hwyluso gan BREATHE er mwyn mynd i’r afael â’r her fawr o imiwnedd COVID-19.
Prif Swyddog Data BREATHE a Chyfarwyddwr Banc Data SAIL, yr Athro David Ford
Cyswllt Gofal Iechyd
Hefyd bydd y prosiect yn cyfuno data gwrthgyrff â chofnodion gofal iechyd presennol er mwyn caniatáu i dimoedd ymchwil ganfod cysylltiadau rhwng canlyniadau COVID-19 a chlefydau eraill, yn ogystal â nodweddion megis oedran a rhyw.
Mae’r cysylltiadau hyn yn hanfodol wrth lunio penderfyniadau am bwy sy’n wynebu’r risg fwyaf o gael clefyd difrifol a’r ffordd orau o’u trin.
Siop dan yr Unto
Mae’r prosiect yn dod â 29 o sefydliadau gwahanol a 44 o ffynonellau data ar draws y DU ynghyd, gan gynnwys llawer a hwylusir gan BREATHE, er mwyn creu gwasanaeth unigol ar gyfer data dibynadwy am wrthgyrff COVID-19.
Mae’r cydweithrediad – a arweinir gan Brifysgolion Caeredin, Dundee, Nottingham a Public Health England – yn tynnu ar arbenigedd mewn rheoli data dienw mewn modd diogel ar raddfa fawr.
Mae setiau data mawr wrthi’n trawsnewid ymchwil gofal iechyd a bydd mentrau megis CO-CONNECT yn allweddol wrth gyflymu ymchwil ar wrthgyrff COVID-19. Mae’r fenter hon a gynhelir ledled y DU’n dod â gwarchodwyr ac arbenigwyr data ynghyd sydd â chyfoeth o brofiad mewn rheoli data iechyd a fydd yn cydweithio er mwyn datblygu mewnwelediadau newydd i COVID-19 ac yn cyflymu’r chwiliad am driniaethau mawr eu hangen.” Yr Athro Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr BREATHE a Sefydliad Usher, Prifysgol Caeredin.
Cyd-arweinydd y prosiect, yr Athro Aziz Sheikh, Cyfarwyddwr BREATHE
Rhagor o wybodaeth am BREATHE – Yr Hyb Ymchwil Data Iechyd ar gyfer Iechyd Anadlol

