TROSOLWG O’R PROSIECT
Roedd hap-dreial wedi’i reoli ACTIVE wedi’i leoli mewn saith ysgol uwchradd gyda’r nod o annog myfyrwyr yn eu harddegau yn Abertawe i wneud mwy o ymarfer corff.
Yn dilyn sgyrsiau gyda phobl ifanc yn eu harddegau, nod y prosiect oedd goresgyn rhwystrau fel prinder arian a diffyg darpariaeth leol er mwyn gwella mynediad i weithgareddau lleol.
Cynhaliom ymyriad blwyddyn o hyd ym mhedair ysgol o’r saith, oedd yn cynnwys dros 700 o ddisgyblion 13-14 oed. Roedd hyn yn grymuso pobl ifanc yn eu harddegau i wneud eu dewisiadau eu hunain am weithgareddau ac roedd hyn yn cynnwys cynllun talebau (£20 y mis i’w wario ar ddarpariaeth sy’n bodoli eisoes, creu darpariaethau newydd yn eu cymunedau neu ar gyfarpar), mentora cymheiriaid ac ymgysylltu â gweithwyr cymorth.