Lisa Hurt – Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Mae profiadau yn ystod y mil o ddiwrnodau cyntaf bywyd yn cael dylanwad hollbwysig ar ddatblygiad plant. Dangosir yn gyson fod datblygiad cynnar priodol ymhlith plant (gan gynnwys datblygiad corfforol, cymdeithasol ac emosiynol a datblygiad iaith a gwybyddol) yn gysylltiedig ag iechyd a chanlyniadau addysgol da yn ystod plentyndod, ac iechyd a chanlyniadau cyflogaeth gwell yn ystod oedolaeth. Mae angen tystiolaeth ar wasanaethau iechyd i bawb sy’n cefnogi teuluoedd er mwyn gwella eu darpariaeth.

Yr Ymchwil
Adolygon ni astudiaethau a oedd yn profi ymyriadau gyda’r nod o wella datblygiad plant, gan gynnwys canlyniadau lles cymdeithasol ac emosiynol, gan wella cyswllt gwasanaethau iechyd â rhieni hyd at 24 mis ar ôl genedigaeth. Rydym yn defnyddio chwiliad eang a chyfannol o’r llenyddiaeth helaeth sydd yn y maes, ac rydym wedi chwilio mewn llawer o ffynonellau ar ben chwiliadau cronfeydd data (megis 58 o wefannau rhaglenni neu sefydliadau).
Y Canlyniadau
Canfuom 22 o astudiaethau mewn lleoliadau incwm uchel. Roedd ansawdd yr astudiaethau’n gymedrol i isel, a thystiolaeth gyfyngedig yn unig oedd bod yr ymyriadau wedi cael unrhyw effeithiau cadarnhaol. Nid oedd rhaglenni o ddwysedd uwch (o ran hyd, nifer neu’r math o gydrannau) wedi dangos mwy o effeithiau cadarnhaol na rhaglenni o ddwysedd is.
Yr Effaith
Mae deall sut y gellid gwella cysylltiadau gwasanaethau iechyd i ddarparu cefnogaeth i rieni er mwyn llwyddo i gyrraedd y canlyniadau gorau i’w plant yn angenrheidiol ond yn heriol. Mae gwasanaethau mamolaeth ac iechyd plant yn cynnwys llawer o gydrannau, llawer ohonynt heb eu profi.
Mae cyllid hefyd yn brin. Canfuom dystiolaeth brin fod yr ymyriadau i bawb sydd ar gael ar hyn o bryd yn gwella canlyniadau datblygiad plant, yn enwedig wrth eu cymharu â’r gofal arferol.
Mae angen brys am werthusiad cadarn o’r ymyriadau presennol ac arloesol er mwyn gwella gwasanaethau i bob teulu. Os hoffech chi wybod rhagor, neu os oes diddordeb gennych chi mewn gwneud eich ymchwil eich hun yn y maes hwn ac rydych chi’n credu y gallwn ni helpu, cysylltwch â: HurtL@cardiff.ac.uk