TROSOLWG O’R PROSIECT
Nod y prosiect hwn yw ystyried materion yn ymwneud â chydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws Sefydliad Farr ar gyfer Ymchwil Gwybodeg Iechyd.
Yn 2018, cafodd sefydliad Farr ei ddisodli gan Ymchwil Data Iechyd y DU (HDRUK), sydd â chydnabyddiaeth gyfreithiol fel endid corfforaethol – yn wahanol i Sefydliad Farr. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol ar gyfer y canolfannau sy’n rhan ohono, a chydweithio yn gyffredinol.
Ar y sail hon, mae’n hanfodol deall sut gall HDRUK wella a datblygu’r gwaith a wnaed eisoes, a datblygu strategaeth ar gyfer cydweithio’n effeithiol yn y tymor hir.
Felly, aethom ati i ddysgu gan Farr a llywio datblygiad HDRUK. Mae ein hadroddiad yn cael ei ddefnyddio i lywio datblygiad HDRUK yn seiliedig ar y pum thema ganlynol:
-
-
- Strwythur y sefydliad ac endid cyfreithiol
- Pobl a diwylliant
- Llywodraethu gwybodaeth
- Technoleg a seilwaith
- Cyllid a chynllunio strategol
-

