TROSOLWG O’R PROSIECT
Mae System Arolygu Anafiadau Cymru Gyfan (AWISS) yn system arolygu anafiadau aml-ddata ar sail y boblogaeth.
Mae’n defnyddio data o’r Banc Data Cyswllt Gwybodaeth Ddienw Ddiogel (SAIL) er mwyn:
-
-
-
- dadansoddi achosion o anafiadau yn rheolaidd,
- amlygu ffactorau risg,
- mesur a monitro newidiadau o ran difrifoldeb, canlyniadau a chostau anafiadau i’r GIG a chymdeithas,
- cefnogi asesiadau dichonoldeb prosiectau ymchwil yn ymwneud ag anafiadau.
-
-
Mae’n llywio ac yn cynorthwyo ymarferwyr atal anafiadau, clinigwyr a gwneuthurwyr polisi ledled Cymru er mwyn gwneud y penderfyniadau gorau ar sail tystiolaeth ynghylch atal, trin ac adsefydlu anafiadau. Gellir defnyddio dadansoddiadau AWISS i amlygu’r grwpiau sydd yn y perygl mwyaf o anafiadau a chynorthwyo proses gynllunio a gwerthuso ymyriadau a pholisïau’n ymwneud ag anafiadau.
Hefyd, mae AWISS yn darparu cymorth i arolygu anafiadau ym maes iechyd y cyhoedd, a gall ddadansoddi ar fyr rybudd er mwyn cynorthwyo targedu neu werthuso mentrau atal anafiadau yn ogystal ag ymchwil sy’n ategu ffyrdd gwell o atal, trin ac adsefydlu unigolion sydd wedi’u hanafu yng Nghymru.
Mewn cystadleuaeth fyd-eang a gynhaliwyd gan Ganolfannau UDA ar gyfer Rheoli Clefydau, enillodd AWISS y wobr am y system arolygu orau yn Ewrop am ei lwyddiant wrth werthuso ymyriadau yn ogystal â chynnal gwaith arolygu rheolaidd.