Soo Vinnicombe, Yr Athro Jane Noyes – Prifysgol Bangor
Yr Her
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn galw ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol i weithredu asesiadau ar y cyd o anghenion gofal a chymorth, ac o anghenion gofalwyr, yn ardaloedd yr awdurdodau lleol.
Mae’r adroddiadau anghenion poblogaeth yn cynnwys dwy adran:
- Yr asesiad o angen
- Yr ystod a’r lefel o wasanaethau sydd eu hangen
Nod yr ymarfer hwn oedd defnyddio adroddiadau asesu poblogaeth yr awdurdodau lleol i nodi blaenoriaethau cyffredin o ran anghenion gwasanaethau cymdeithasol ledled Cymru a allai fynd i’r afael â bylchau mewn ymchwil.

Yr Ymchwil
Mae 22 awdurdod lleol Cymru wedi cydweithio ar y prosiect hwn gyda sefydliadau priodol eraill ac wedi cyfuno ag awdurdodau lleol cyfagos lle mae hynny’n gwneud synnwyr.
Mewn cyfanswm, cynhyrchwyd saith set o adroddiadau Asesu Anghenion Poblogaeth. Mae themâu’r adroddiadau yn cynnwys: plant a phobl ifanc, pobl hŷn, iechyd / anableddau corfforol, anableddau dysgu ac awtistiaeth, iechyd meddwl, nam ar y synhwyrau, gofalwyr sydd angen cymorth, cam-drin domestig a thrais rhywiol, gwasanaethau eiriolaeth, ceiswyr lloches a ffoaduriaid, digartrefedd, cam-drin sylweddau a chyn-filwyr.
Y Canlyniadau
Mae’r blaenoriaethau cyffredin, Cymru gyfan a nodwyd yn y gwerthusiad yn cynnwys:
- Dealltwriaeth cyhoeddus. Gellir defnyddio gwell dealltwriaeth cyhoeddus mewn gwahanol ffyrdd i helpu i wella bywydau pobl sy’n cael eu heffeithio gan heriau bywyd gwahanol. Pwysleisiodd rhai themâu penodol yr angen am well dealltwriaeth cyhoeddus, er enghraifft gofalwyr, iechyd meddwl, awtistiaeth a cham-drin domestig.
- Ffocws ar gleientiaid. Mae’r adroddiadau’n dangos yr angen i sicrhau bod cleientiaid yn deall yn glir y cymorth sydd ar gael iddynt a’u bod nhw’n cael eu grymuso i ddewis y gwasanaethau mwyaf addas ar eu cyfer fel unigolion trwy’r cymorth hwnnw. Er mwyn cyflawni hynny, bydd angen gweithredu newidiadau neu welliannau i’r ffyrdd y mae cleientiaid yn cyfrannu at gynllunio a darparu gwasanaethau.
- Trawsnewidiadau. Mae angen sicrhau gwelliannau mewn perthynas â’r trawsnewidiadau y mae cleientiaid yn eu hwynebu. Gall hynny gyfeirio at y trawsnewid o wasanaethau pobl ifanc i oedolion, neu i ofalwyr sy’n trawsnewid mewn i rôl gofalwr ac allan ohoni.
- Gwybodaeth, cyngor a chymorth. Mae’r adroddiadau’n cydnabod bod gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ofyniad allweddol o ran rôl awdurdodau lleol a byrddau iechyd a bod darparu gwybodaeth o ansawdd yn gallu cynorthwyo cleientiaid a’r cyhoedd i deimlo’n fwy sicr am y penderfyniadau y maen nhw’n eu gwneud mewn perthynas â’u gofal cymdeithasol perthnasol a theuluol. Maen nhw’n nodi nad yw gwybodaeth ar gael bob amser pan mae ei hangen arnynt, nad yw’r wybodaeth yn gyson nac wedi’i diweddaru, ac nad yw’n cael ei darparu mewn fformat hygyrch ac amserol.
- Cymuned. Mae’r adroddiadau’n awgrymu y dylai awdurdodau lleol wneud defnydd mwy effeithiol o ddarpariaeth gymunedol sydd eisoes yn bodoli. Er enghraifft, trwy wella cysylltiadau gyda sefydliadau cymunedol sy’n gallu darparu cymorth i wahanol grwpiau.
Yn gyffredinol, mae’r adroddiadau’n dyheu i greu cymunedau mwy cynorthwyol, gyda chysylltiadau gwell. Gall cymorth gynnwys cyfeillio, cymorth cymheiriaid, gwirfoddoli ac ati. Mae’r gweithgareddau’n pwysleisio adeiladu cymunedau cryf sy’n gallu darparu synnwyr o berthyn ac o lesiant.
- Darpariaeth heb ei chomisiynu. Mae’r adroddiadau’n cydnabod rôl gynyddol y trydydd sector a sefydliadau masnachol o ran darparu cymorth gofal cymdeithasol.
- Hyfforddiant a staff. Mae’r adroddiadau’n pwysleisio’r angen am hyfforddiant er mwyn helpu staff gofal cymdeithasol ac awdurdodau lleol i addasu i’r dull gwaith newydd sy’n canolbwyntio ar gleientiaid, ac i’w galluogi nhw i addasu’n gyfforddus i’r gofynion newydd.
- Mynediad. Mae mwyafrif yr adroddiadau’n tynnu sylw at y ffaith bod mynediad yn parhau i fod yn broblem i grwpiau penodol neu’r rheiny sydd wedi’u hynysu’n ddaearyddol, hyd yn oed mewn ardaloedd lle mae yna ddarpariaeth. Mae pob adroddiad yn amlinellu enghreifftiau penodol lle mae mynediad yn heriol neu lle mae angen gwelliant.
- Cyllideb. Rhaid gwneud y defnydd mwyaf effeithlon o gyllidebau. Mewn rhai achosion, dylai cyllidebau gael eu hailgyfeirio, e.e. at fesurau atal neu amgen. Yn ogystal, ni dylai toriadau i gyllidebau effeithio’n uniongyrchol ar wasanaethau nac ar allu cymunedau neu unigolion i ymdopi ag argyfyngau gofal cymdeithasol neu faterion bob dydd.
- Darpariaeth, ansawdd a chysondeb. Tynnwyd sylw at feysydd penodol sy’n gysylltiedig â darpariaeth, ansawdd a chysondeb.
- Capasiti. Tynnwyd sylw yn yr adroddiadau at y materion cysylltiedig â chapasiti canlynol: yr anhawster wrth ymdopi â chynnydd mewn galw, recriwtio a chadw staff a’r effaith gynyddol ar recriwtio gwirfoddolwyr a hyfforddiant, a chapasiti mewn sefydliadau cymunedol a thrydydd sector.
- Llif gwasanaethau – gwasanaethau cydgysylltiedig. Mae pob adroddiad yn cydnabod bod problemau cysylltiedig â llif gwasanaeth – hynny yw, yr angen i bob maes gofal cymdeithasol unigol ryngweithio mewn ffordd effeithlon ac effeithiol gyda gwasanaethau gofal cymdeithasol eraill. Trwy ymgorffori a chysylltu’r gwasanaethau hyn yn fwy effeithiol, gallai profiad y cleient wella ac arwain at sicrhau bod cynllunio ar gyfer gofal cymdeithasol, ar lefel unigol a phoblogaethol, yn hirdymor, strategol a chynaliadwy.
- Gwasanaethau eraill. Yn gyffredinol, roedd yr adroddiadau’n cydnabod nad yw hi’n bosibl i wasanaethau gofal cymdeithasol ddatrys holl heriau’r genedl ar eu pennau eu hunain. Yn ogystal â ffyrdd gwell o weithio rhwng asiantaethau gofal cymdeithasol, cymunedau a sefydliadau’r trydydd sector, awgrymwyd y dylid ymgorffori’r meysydd gwasanaeth allweddol canlynol yn fwy effeithiol: tai, trafnidiaeth, mynediad at wasanaethau iechyd meddwl, lles, cyflogaeth ac addysg.
Yr Effaith
Mae awdurdodau lleol yn defnyddio allbynnau’r adroddiadau Asesu Anghenion Poblogaeth i ffurfio cynlluniau gweithredu a fydd yn cael eu cyhoeddi ym mis Ebrill 2018. Bydd nifer o’r awgrymiadau a dyheadau ar gyfer gwelliannau sy’n cael sylw yng ngwerthusiad Prifysgol Bangor yn gallu cael eu trawsnewid yn weithredoedd go iawn.
Ar ôl rhyddhau’r cynlluniau gweithredu, bydd ail gyfnod gwerthuso’n cael ei gynnal er mwyn ystyried sut dylai’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd y Boblogaeth (NCPHWR) gyfrannu at y cynlluniau.
Ar hyn o bryd, rydym yn trafod gyda chyd-drefnydd adroddiad gogledd Cymru sut gallai’r Ganolfan Genedolaethol gyfrannu at waith y grwpiau sy’n dod allan o broses ddatblygu’r cynllun gweithredu.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â: ncphwr@bangor.ac.uk