John Gregory – Is-adran Meddygaeth Poblogaeth, Ysgol Feddygaeth, Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Mae diabetes mellitus math 1 (T1DM) yn afiechyd cronig cyffredin mewn plant a phobl ifanc. Gall byw â diabetes gyflwyno heriau meddygol a seicolegol.
Mae rheoli T1DM yn cynnwys canolbwyntio ar fwyta’n iach, cyfrif carbohydradau ac amseru inswlin. Caiff pobl ifanc eu pwyso’n rheolaidd. Trafodir eu pwysau’n agored ac yn aml gwelir cynnydd amlwg mewn pwysau wedi diagnosis. Gall hyn arwain at organolbwyntio ar bwysau a siâp y corff a goblygiadau negyddol o ran rheoli glwcos yn y gwaed.

Yr Ymchwil
Mae nifer o astudiaethau wedi nodi cyfraddau uchel o anhwylderau bwyta, problemau gyda delwedd y corff a chyfyngu inswlin yn fwriadol er mwyn colli pwysau ymhlith pobl ifanc â diabetes. Mae hyn yn gysylltiedig â risg uwch o gymhlethdodau iechyd tymor byr a hir dymor a marwolaeth.
Y Canlyniadau
Ymgynghori
- Yn ystod y broses ymgynghori, mae angen canolbwyntio ar ddarganfod yr achos sylfaenol o ran diffyg rheoli glwcos y gwaed a cholli pwysau, a bydd hyn yn sail i’r dull rheoli yn y pen draw.
- Mae sawl problem seicogymdeithasol sy’n gallu effeithio ar reoli glwcos y gwaed. Ar brydiau, mae pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd derbyn ac ymdopi â’u diabetes, sy’n gallu arwain at amharodrwydd i gadw at eu cynllun inswlin neu fonitro glwcos y gwaed. Mae sawl rheswm dros hyn ac mae’n bwysig archwilio ffactorau megis cartref, ysgol, cyfeillgarwch, gweithgareddau ac ymddygiad cymryd risgiau er mwyn archwilio risgiau posib.
Rheoli
- Mae ymyrraeth gynnar yn hanfodol er mwyn rheoli unrhyw anhwylder bwyta, ond yn benodol y rhai hynny â T1DM.
- Gallai fod yn fuddiol iawn i dargedu plant â diabetes sydd mewn perygl.
- Mae tystiolaeth bod rhaglenni atal sy’n canolbwyntio ar ddelwedd gadarnhaol o’r corff ac ymddygiadau gwrth-gyfyngol yn lleihau’n sylweddol ddatblygiad anhwylderau bwyta.
- Dylai triniaeth ddietegol annog ymagweddau hyblyg a gwrth-gyfyngol at fwyta, wrth ganolbwyntio o hyd ar batrymau rheolaidd ar gyfer prydau bwyd a chyfrif carbohydradau.
- Gall therapi seicolegol ar gyfer anhwylderau bwyta fod ar sawl ffurf gan ddibynnu ar yr unigolyn a’r cyflwr, er enghraifft, Therapi Ymddygiad Gwybyddol a therapi teulu.
- Gall fod yn anodd adnabod anhwylderau bwyta a diabwlimia (hepgor neu gyfyngu inswlin) er mwyn colli pwysau. Mae codi ymwybyddiaeth ymhlith timoedd amlddisgyblaethol yn hanfodol er mwyn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i’r problemau hyn mewn ymgynghoriadau.
- Gall offer sgrinio ac arolygon sy’n adnabod anhwylderau bwyta fod yn effeithiol a dylent gael eu defnyddio a’u hystyried yn rhan o adolygiad diabetes blynyddol.
- Mae rheoli anhwylderau bwyta a diabetes yn heriol ac mae’n bosib y bydd angen addasu dulliau gofal diabetes confensiynol er mwyn gweddu i’r unigolyn.
- Mae cydweithio effeithiol â thimoedd iechyd meddwl yn rhan allweddol o driniaeth a gwella, ac anogir cyswllt cynnar.
Yr Effaith
Gan fod y risg o farwolaeth deirgwaith yn uwch ymhlith y rhai hynny sy’n cyfyngu inswlin yn fwriadol, ac mae’r oedran marwolaeth cyfartalog yn 44 oed o’i gymharu â 58 oed yn y rhai hynny nad oeddent wedi cyfyngu inswlin yn fwriadol, mae canfod, ymgynghori a rheoli parhaus ar gyfer anhwylderau bwyta a hepgor inswlin yn fwriadol ymhlith pobl ifanc â T1DM yn flaenoriaeth allweddol.
Mae canfyddiadau ac argymhellion yr astudiaeth hon yn gam pwysig tuag at ddatblygu arfer gorau i sicrhau bod pobl ifanc â diabetes yn elwa o’r cymorth perthnasol sy’n hanfodol er mwyn sicrhau y caiff eu holl anghenion eu bodloni yn ystod triniaeth ac wrth iddynt wella.
Am ragor o fanylion a manylion am yr ymweliad ymchwil: //://ep.bmj.com/content/103/3/118