TROSOLWG O’R PROSIECT
Ein nod yw amlygu’r berthynas a’r llwybrau rhwng hygyrchedd cyfleusterau chwaraeon, hunangofnodi cyfranogiad mewn chwaraeon, ac iechyd oedolion yng Nghymru – a ph’un a yw mynediad hawdd i gyfleusterau chwaraeon yn cyfrannu at anghydraddoldebau iechyd.
Am y tro cyntaf, byddwn yn cysylltu mesurau hygyrchedd â gwybodaeth arolwg hunangofnodedig am gyfranogiad mewn chwaraeon ac ymddygiad yn ymwneud ag iechyd, yn ogystal â chysylltu â chofnodion iechyd arferol.
Mae hyn yn cynnig cyfle prin i wella ein dealltwriaeth o’r cysylltiad rhwng mynediad i gyfleusterau chwaraeon, cyfranogiad mewn chwaraeon, ac iechyd.