Dr Kelly Morgan – Prifysgol Caerdydd
Yr Her
Mae gweithgarwch corfforol rheolaidd yn helpu twf a datblygiad trwy gydol plentyndod. Mae hefyd yn lleihau’r perygl o gael ystod o afiechydon cronig ac mae’n gysylltiedig ag iechyd meddwl a lles gwell. Mae argymhellion iechyd cyhoeddus presennol yn awgrymu y dylai pobl ifanc rhwng 5-17 oed wneud o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol cymedrol i egnïol bob dydd. Fodd bynnag, nid yw nifer fawr o bobl ifanc yn bodloni’r argymhelliad hwn, yn enwedig merched.
At hynny, mae sylfaen dystiolaeth newydd yn dangos bod ymddygiad eisteddog (anweithredol) yn cynyddu risgiau metabolaidd megis pwysedd gwaed, colesterol, lefelau siwgr a mynegai màs y corff (BMI) uwch. Dangosodd astudiaeth ddiweddar fod dros 60% o blant 15 oed yn gwylio dwy awr neu fwy o deledu bob dydd, sef lefel y profwyd ei bod yn lleihau canlyniadau iechyd corfforol a lles meddyliol ymhlith plant a phobl ifanc. Felly, mae hyrwyddo gweithgarwch corfforol pobl ifanc a lleihau ymddygiad eisteddog yn flaenoriaethau ar y cyd.
In addition, an emerging evidence base indicates that sedentary (inactive) behaviour increases metabolic risks such as higher blood pressure, cholesterol, sugar levels, and body mass index (BMI). A recent study indicated that over 60% of 15-year olds report two or more hours of television viewing per day, a level shown to reduce physical and mental wellbeing health outcomes amongst children and youth. Therefore, promoting young people’s physical activity, while reducing sedentary behaviour, are dual priorities.

Yr Ymchwil
Nod yr astudiaeth hon oedd archwilio’r cysylltiadau rhwng rhagfynegyddion unigol a lefel ysgol a gweithgarwch corfforol ac eisteddog, ymhlith plant 11-16 oed.
Mae astudiaethau blaenorol yn y DU wedi awgrymu bod pobl ifanc yn gwneud y rhan fwyaf o’u gweithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol, gyda’r cyfleoedd allweddol yn ystod dosbarthiadau addysg gorfforol ac egwyliau cinio. Ar hyn o bryd, mae llywodraeth y DU’n argymell y dylai ysgolion ddarparu o leiaf 2 awr yr wythnos o addysg gorfforol a chwaraeon, er nad oes isafswm amser statudol yng Nghymru a Lloegr.
Fodd bynnag, mewn degawdau diweddar gwelwyd tuedd tuag at fyrhau egwyliau ysgol mewn ymateb i bwysau academaidd, a allai leihau cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch corfforol a chynyddu’r amser a dreulir yn gwneud gweithgareddau eisteddog. Yn ogystal â’r diwrnod ysgol, gall teithio i’r ysgol ac yn ôl gyfrannu at hanner gweithgarwch corfforol person ifanc ar y cyfan.
Cysylltodd y tîm ymchwil ddata a ddarparwyd gan yr Astudiaeth Ymddygiad Iechyd ymhlith Plant Oed Ysgol (HSBC) yng Nghrymu â data o’r Holiadur Amgylchedd Ysgol HSBC. Roedd y sampl terfynol a ddadansoddwyd yn yr astudiaeth hon yn cynnwys 7,376 o fyfyrwyr o fewn 67 ysgol, ac roedd data ar unigolion a data lefel ysgol ar gael.
Edrychodd yr astudiaeth ar ddata unigol, megis:
- Pa mor aml oedd myfyrwyr yn ymgymryd â gweithgarwch corfforol y tu allan i’r amgylchedd ysgol. Hefyd gofynnwyd iddynt faint o amser yr oeddent yn ei dreulio’n gwneud gweithgareddau eisteddog wedi’u seilio ar sgrin megis teledu, cyfrifiaduron, consolau gemau a ffonau symudol.
- Rhoddodd cyfranogwyr wybodaeth am eu hoedran, eu rhyw a’u hethnigrwydd.
- Gofynnwyd i fyfyrwyr am sut y maent yn teithio i’r ysgol, er enghraifft mewn car, ar y bws, ar feic neu gerdded.
- Casglwyd gwybodaeth ynghylch ysmygu ac yfed alcohol.
- Casglwyd data i nodi cyfoeth materol, er enghraifft a oedd ganddynt eu hystafell wely eu hunain, a oedd eu rhieni’n berchen ar gar, a ydynt yn mynd ar wyliau teulu.
Roedd y data lefel ysgol yn cynnwys:
- Hawl i brydau ysgol am ddim.
- Hyd egwyliau cinio.
- Darpariaeth cyfleusterau chwaraeon, gan gynnwys yn ystod amser cinio ac yn ystod gweithgareddau ar ôl yr ysgol.
- Amser a neilltuir i weithgareddau addysg gorfforol.
- Hefyd gofynnwyd i brifathrawon a oes gan eu hysgol bolisi bwyta’n iach a ffitrwydd ar hyn o bryd.
Y Canlyniadau
- Nododd y rhan fwyaf o’r bobl ifanc eu bod yn weithgar am 4 diwrnod neu lai’r wythnos, gydag 16% yn unig yn bodloni’r argymhellion gweithgarwch corfforol presennol.
- Roedd 85% y cant yn gwneud mwy na’r lefelau a argymhellir o 2 awr neu lai o weithgarwch wedi’i seilio ar sgrin y dydd.
- Yn gyson ag astudiaethau blaenorol, roedd bechgyn ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn actif yn gorfforol a gwneud gweithgarwch corfforol cymedrol i egnïol o’u cymharu â merched. Er gwaethaf nodi eu bod yn gwneud lefelau uwch o weithgarwch corfforol, nododd y bechgyn lefelau uwch o ymddygiad eisteddog o’u cymharu â’r merched.
- Gallai teithio egnïol i’r ysgol gynnig ffordd o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith merched.
- Mae’r canfyddiadau hefyd yn amlygu’r cysylltiad rhwng egwyliau cinio byrrach a lefelau uwch o amser eisteddog. Mae tystiolaeth gynyddol sy’n awgrymu y gallai cynnal neu ymestyn hyd egwyliau cinio mewn ysgolion gael effaith gadarnhaol ar ymddygiad eisteddog drwy ddarparu mwy o amser ar gyfer gweithgarwch corfforol.
- Yn ddiddorol, roedd gwersi addysg gorfforol hirach a mwy o gyfleusterau ysgol yn gysylltiedig ag ymddygiadau eisteddog uchel. Gallai’r canfyddiadau hyn awgrymu mecanwaith cydadferol lle mae pobl ifanc sy’n gwneud mwy o weithgarwch corfforol yn ystod y diwrnod ysgol yn cydadfer hyn gydag ymddygiad eisteddog y tu allan i oriau ysgol.
Yr Effaith
Gyda rhai Ysgolion Uwchradd yng Nghymru sy’n darparu egwyliau cinio o 30 munud neu lai, mae angen cynnal ymchwil bellach i archwilio sut yn union y mae pobl ifanc yn treulio eu hegwyl ginio. Byddai hyn yn darparu dealltwriaeth well o ddylanwadau cymdeithasol a lleoliad ysgol ar lefelau gweithgarwch corfforol pobl ifanc.
Mae mwy a mwy o adroddiadau’n dangos ei bod yn well gan blant wylio’r teledu neu chwarae gemau cyfrifiadur yn hytrach na bod yn actif yn gorfforol, sy’n arwain at bryder cynyddol ynghylch lefelau uchel o ymddygiadau eisteddog, hyd yn oed ymhlith y rhai y darperir cyfleoedd gweithgarwch corfforol ar eu cyfer yn ystod y diwrnod ysgol.
Dangosodd yr ymchwil y dylai’r broses o ddylunio a gwerthuso ymyriadau i hyrwyddo gweithgarwch corfforol yn ystod oriau ysgol ddefnyddio ymagwedd gynhwysfawr, gan gynnwys canolbwynt ar bolisïau ysgolion ac ymddygiadau yn ystod oriau ysgol a’r tu allan iddynt. Mae hyrwyddo gweithgarwch corfforol pobl ifanc, wrth leihau ymddygiad eisteddog, yn flaenoriaethau allweddol er mwyn gwella iechyd a chanlyniadau lles. Yn bwysig, gellir defnyddio canfyddiadau’r astudiaethau hyn i alinio gwella iechyd gyda busnes craidd ysgolion ac er mwyn dadlau dros ymyriadau cyffredinol yn hytrach na rhai a dargedir.
Darllenwch yr erthygl ymchwil lawn yma: //://www.ncbi.nlm.nih.gov/pmc/articles/PMC4946284/