Dr Roxanne Cooksey – Prifysgol Abertawe
Yr Her
Arthritis yw’r prif achos o boen ac anabledd yn y DU. Yn gyffredinol, mae’r cyflwr yn achosi poen a llid yn y cymalau a gall effeithio ar bobl o bob oedran a bod yn gyflwr hynod wanychol.
Mae sawl math o arthritis, gan gynnwys yr hyn a elwir yn gyffredinol yn osteoarthritis. Mae’r math hwn yn gysylltiedig â thraul y cymalau o ganlyniad i henaint, neu niwed o ganlyniad i chwaraeon neu weithgareddau eraill. Ond gall mathau eraill o arthritis, a elwir yn arthritis llidiol, effeithio ar yr organau a’r croen hefyd.

Yr Ymchwil
Archwiliodd yr ymchwil hon risgiau clefyd cardiofasgwlaidd cysylltiedig sy’n dod gyda mathau o arthritis llidiol, yn bennaf arthritis gwynegol ac arthritis psoriatig. Mae ymchwilwyr eisoes wedi darganfod bod gan bobl sy’n dioddef o arthritis gwynegol (sy’n digwydd pan fydd system imiwnedd y corff yn targedu’r cymalau y mae’n effeithio arnynt, gan arwain at chwyddo a phoen) gyfraddau uwch o glefyd cardiofasgwlaidd. Ac mae gan y sawl sy’n dioddef o arthritis gwynegol ac arthritis psoriatig hefyd risg uwch o ddatblygu cyflyrau eraill, megis cyflyrau’r croen a’r galon.
Fodd bynnag, yr hyn nad yw’n gwbl glir yw a yw’r rhai ag arthritis psoriatig, sef cyflwr y cymalau sy’n effeithio ar 30% o bobl â’r cyflwr croen psorisasis, yn wynebu risg uwch o glefyd cardiofasgwlaidd hefyd.
Ystyriodd y tîm ymchwil gofnodion iechyd cleifion ag arthritis gwynegol, arthritis psoriatig a psorïasis. Roedd 8,650 ohonynt wedi cael diagnosis o arthritis gwynegol, 2,128 wedi cael diagnosis o arthritis psoriatig a 24,630 ohonynt wedi cael diagnosis o psorïasis. Cymharwyd y data hwn â 1,187,706 o unigolion nad oedd ganddynt y cyflyrau hyn, gan ystyried cyfraddau o drawiadau ar y galon, strôc a marwolaethau a oedd yn gysylltiedig â’r rhain.
Y Canfyddiadau
Wrth ddadansoddi’r data, canfu’r tîm fod ffactorau risg cardiofasgwlaidd yn uwch i’r rhai a oedd yn dioddef o arthritis gwynegol, arthritis psoriatig a psorïasis o’u cymharu â’r bobl nad oeddent yn dioddef ohonynt.
Pan ystyriwyd ffactorau risg cardiofasgwlaidd amlwg gan yr ymchwilwyr (megis gordewdra a phwysau gwaed uchel), roedd gan fenywod o hyd risg uwch o drawiad ar y galon a strôc os oeddent yn dioddef o arthritis gwynegol, a dynion a menywod yn achos psorïasis. Gellir esbonio’r risg uwch o drawiad ar y galon a strôc gan y broses lidiol sy’n rhan o arthritis gwynegol gan ei fod yn achosi llid yn y galon. Fodd bynnag, nid yw ymchwilwyr yn siŵr pam y mae hyn yn digwydd yn achos menywod yn unig ar hyn o bryd. Yn ogystal, mae’r tîm yn gwybod bod y lefel o lid mewn psorïasis yn isel ac felly nid yw hyn yn esbonio’r risg uwch o drawiad ar y galon neu strôc yn y grŵp hwn.
Yr Effaith
Mae canlyniadau’r astudiaeth hon wedi gwella ein dealltwriaeth o arthritis ac er i’r tîm ganfod tystiolaeth o risg uwch, bydd rhagor o ymchwil feddygol yn angenrheidiol er mwyn canfod y camau gweithredu gorau i’r rheini sy’n dioddef o arthritis llidiol.
Yn y cyfamser, dylid monitro pobl sy’n dioddef o arthritis a psorïasis llidiol yn agos a rhoi cefnogaeth ychwanegol i helpu i atal trawiadau ar y galon a strôc.